Evie Yn Ymuno Â’r Ddadl Genedlaethol Yn Nhŷ’r Cyffredin

Gydag angerdd a phwrpas: Evie yn siarad ar lythrennedd gwleidyddol yn Eistedd Flynyddol Senedd Ieuenctid y DU yn Nhŷ’r Cyffredin

Roedd ein haelod, Evie Somers, o Gaerfyrddin yn cynrychioli Sir Gaerfyrddin yn eisteddiad blynyddol Senedd Ieuenctid y DU yn Nhŷ’r Cyffredin, San Steffan. Cynhaliwyd yr eisteddiad blynyddol ddydd Gwener, 28 Chwefror 2025, ac ynghyd â 300 o aelodau’r Senedd Ieuenctid eraill, bu Evie yn trafod ac yn pleidleisio ar faterion allweddol sy’n effeithio ar bobl ifanc ledled y DU.

Etholwyd Evie yn aelod Senedd Ieuenctid Sir Gaerfyrddin ym mis Awst 2024 a bydd yn sefyll am dymor o ddwy flynedd. Mae aelodau’r Senedd Ieuenctid rhwng 11 a 18 oed ac yn cynrychioli barn eu cyfoedion.

Yn ystod yr eisteddiad blynyddol, a lywyddwyd gan lefarydd Tŷ’r Cyffredin, y Gwir Anrhydeddus Syr Lindsay Hoyle AS, bu pobl ifanc o bob rhan o’r DU, yn ogystal â Thiriogaethau Tramor Prydain a Thiriogaethau Dibynnol y Goron, yn dadlau a phleidleisio ar bum pwnc allweddol, sef:
★ Pleidleisio i bobl ifanc 16 ac 17 oed
★ Cynyddu’r isafswm cyflog
★ Cludiant am ddim i bobl ifanc
★ Yr angen am addysg wleidyddol
★ Urddas mislif i bawb

    Dywedodd Evie:“Roedd yn gymaint o anrhydedd i gynrychioli fy nghyfoedion, eu profiadau a’u lleisiau yn Nhŷ’r Cyffredin. Yn ystod diwrnod a oedd yn llawn dadl angerddol, cefais gyfle i gyflwyno fy araith ar bwysigrwydd llythrennedd gwleidyddol, gan dynnu sylw at y ffaith ‘nad yw democratiaeth yn gweithredu ar ddifaterwch’ a’i fod yn hytrach yn ‘ffynnu ar ymwybyddiaeth, cyfranogiad a grymuso’. Cliciwch chwarae ar y fideo isod i wylio araith angerddol Evie yn Nhŷ’r Cyffredin

    Evie yn traddodi ei haraith yn Nhŷ’r Cyffredin.

    Yn dilyn diwrnod prysur o drafod yn y Siambr, daeth y diwrnod i ben gyda Senedd Ieuenctid y DU yn gosod cynigion allweddol ar faterion sy’n effeithio ar bobl ifanc ledled y wlad, gan sicrhau bod lleisiau ieuenctid yn ganolog i drafodaethau polisi. Pleidleisiodd aelodau’r Senedd Ieuenctid i flaenoriaethu gostwng yr oed pleidleisio i 16 (ymgyrch y Deyrnas Unedig a gadwyd yn ôl) ac urddas mislif (ymgyrch ddatganoledig) fel eu hymgyrchoedd ar gyfer y flwyddyn i ddod.

    Dywedodd Syr Lindsay Hoyle, Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, ei fod yn “falch iawn mai’r eisteddiad hwn o Senedd Ieuenctid y DU fydd y mwyaf cynhwysol a chyffrous eto”.

    Roedd y digwyddiad yn Senedd y DU yn cyd-daro â lansiad Maniffesto Senedd Ieuenctid y DU ar gyfer 2024-2026, ‘Llunio Ein Dyfodol, Heddiw Nid Yfory’, a grëwyd gan bobl ifanc yn eu cynhadledd flynyddol y llynedd, gan dynnu ar y safbwyntiau a’r materion a godwyd gan bobl ifanc o bob rhan o’r DU.

    Fel eiriolwr ymroddedig ar gyfer llais pobl ifanc, bydd Evie yn parhau i weithio ochr yn ochr â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i ysgogi cynnydd yn y meysydd blaenoriaeth hyn, gan sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed a hyrwyddo newid ystyrlon i bobl ifanc ledled Sir Gaerfyrddin, Cymru a’r DU.

    Llongyfarchwyd Evie gan y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg a’r Gymraeg, ar gynrychioli’r sir yn Senedd Ieuenctid y DU a hefyd am gael ei hethol yn aelod o Senedd Ieuenctid y DU dros Sir Gaerfyrddin.

    Am y tro cyntaf erioed, gwnaeth aelod o’r Senedd Ieuenctid hanes fel yr unigolyn ifanc cyntaf i ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain i draddodi ei araith yn Nhŷ’r Cyffredin. Gwnaeth dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain gyfathrebu hyn trwy feicroffon yn siambr Tŷ’r Cyffredin.

    Evie Yn Cynrychioli Sir Gâr Yn Nhŷ’r Cyffredin

    Yr haf diwethaf cafodd Evie, ein Hysgrifennydd, ei hethol yn Aelod o Senedd Ieuenctid y DU Sir Gaerfyrddin a bydd yn cynrychioli’r Sir yng Nghyfarfod Blynyddol Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig a gynhelir yn Nhŷ’r Cyffredin, Llundain ddydd Gwener, 28 Chwefror2025.

    Dywedodd Evie, “Mae cael y cyfle i gynrychioli eich cyfoedion, profiadau eich cyfoedion a’u lleisiau yn un o’r anrhydeddau mwyaf. Pan fyddaf yn cael sgyrsiau â’m hetholwyr ac yn rhyngweithio â nhw, rwy’n teimlo mor ffodus ac rwyf yn gwerthfawrogi fy mod yn y sefyllfa hon.”

    Mae Aelodau’r Senedd Ieuenctid rhwng 11 a 18 oed ac yn cynrychioli barn eu cyfoedion ar lefel y DU gyfan a bydd gan Evie y swydd hon am gyfnod o ddwy flynedd. Bydd Evie a dros 300 o Aelodau eraill o’r Senedd Ieuenctid o bob rhan o’r DU yn teithio i San Steffan i drafod a phleidleisio ar faterion sy’n bwysig i bobl ifanc.

    Mae Senedd Ieuenctid y DU yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc sicrhau newid cymdeithasol trwy gynrychiolaeth ystyrlon. Mae’r Senedd yn cael ei goruchwylio gan yr Asiantaeth Genedlaethol Ieuenctid ac mae cyfranogiad Evie yn cael ei gefnogi’n lleol gan Wasanaeth Cymorth Ieuenctid Cyngor Sir Caerfyrddin.

    Wedi’i chadeirio gan Lefarydd Tŷ’r Cyffredin sef y Gwir Anrhydeddus Syr Lindsay Hoyle AS, bydd Aelodau’r Senedd Ieuenctid yn cymryd rhan mewn pum dadl, sef y pynciau y pleidleisiodd pobl ifanc ledled y DU drostynt. Bydd Aelodau’r Senedd Ieuenctid yn blaenoriaethu dau o’r pum pwnc a drafodir ar gyfer ymgyrchoedd cenedlaethol Senedd Ieuenctid y DU.

    Dywedodd Evie “Ers cael fy ethol, mae’r pum mis diwethaf wedi bod yn gyffrous, o ran cyfarfod ag Aelodau rhanbarthol y Senedd Ieuenctid o Gymru a dod i’w hadnabod, ac i raddau, wedi teimlo’n gryn dipyn o brofiad. Er enghraifft, mynychu’r Gynhadledd Flynyddol ym mis Hydref 2024 oedd fy nhro cyntaf yn cyfarfod ag Aelodau’r Senedd Ieuenctid o bob rhan o’r DU, ac mewn dau ddiwrnod gwnaethom ein maniffesto cyfan. Mae sefyllfaoedd fel y rheiny yn tueddu i’m hatgoffa o’m dyletswyddau etholedig a’m hatebolrwydd i bobl ifanc Sir Gaerfyrddin.”

    Mae Evie yn edrych ymlaen at y Cyfarfod Blynyddol, ac mae’n teimlo mai ei dyletswydd etholedig yw diogelu lleisiau pobl ifanc, ac mae’n credu bod pobl ifanc yn cynnig yr hyn sy’n aml yn gallu bod yn safbwynt gwerthfawr iawn ynghylch materion na all oedolion ei gynnig; bydd holl bobl ifanc Sir Gaerfyrddin ar flaen ei meddwl yn ystod y digwyddiad pwysig hwn.

    I ffwrdd a ni i Lundain… am Olivia

    Mae ein Haelod Senedd Ieuenctid y DU, Olivia Smolicz 17 o’r Hendy yn paratoi i gynrychioli Sir Gaerfyrddin a Chymru yn Eisteddiad Blynyddol Senedd Ieuenctid y DU a gynhelir yn Nhŷ’r Cyffredin, San Steffan yn ddiweddarach yr wythnos hon. Cynhelir y digwyddiad ddydd Gwener 17 Tachwedd 2023 a dyma’r deuddegfed Eisteddiad, yno bydd Olivia yn cyfrannu at ddadl a phleidlais i benderfynu ar y materion y byddant yn eu blaenoriaethu ar gyfer gweddill yr ymgyrch ‘Bwyd ar gyfer Dysgu’.

    Mae Olivia wedi bod yn Aelod Cyngor Ieuenctid dros 5 mlynedd ac mae hi wedi cael ei hethol gan Gynghorwyr Ieuenctid eraill i gynrychioli Sir Gaerfyrddin. Bydd yn ymuno â dros 200 o Aelodau Senedd Ieuenctid y DU rhwng 11-18 oed a fydd yn cymryd rhan mewn dadl genedlaethol yn Nhŷ’r Cyffredin. Bydd Llefarydd y Tŷ, Syr Lindsay Hoyle AS yn croesawu’r Senedd Ieuenctid ar gyfer eu Heisteddiad Blynyddol yn y tŷ, gyda sesiynau’r prynhawn yn cael eu cadeirio gan Ddirprwy Lefarydd Tŷ’r Cyffredin, Nigel Evans AS.

    Dywedodd Olivia, sy’n berson ifanc ymroddedig ac angerddol;
    “Rwy’n gyffrous iawn i allu cynrychioli Sir Gaerfyrddin yn yr Eisteddiad Blynyddol yn Nhŷ’r Cyffredin, Llundain. Rwyf wrth fy modd o gael y cyfle hwn ond hefyd ychydig yn bryderus. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn clywed beth sydd gan bobl ifanc o lefydd eraill i’w ddweud a mynegi fy marn fy hun. Rwy’n gobeithio y caf y cyfle i siarad â llawer o bobl newydd ac archwilio amrywiaeth o bynciau sy’n arwyddocaol i bobl ifanc yn y DU.”

    Bydd Aelodau’r Senedd Ieuenctid yn pleidleisio. Bydd pob pwnc dadl yn cael ei gyflwyno gydag areithiau gan Aelodau Seneddol Ieuenctid a etholwyd yn rhanbarthol, a fydd yn cyflwyno dadleuon o blaid ac yn erbyn y mater, cyn agor i’r llawr. Yn dilyn y pum dadl, bydd pob Aelod Seneddol Ieuenctid yn y Siambr yn pleidleisio dros eu prif fater i benderfynu pa fater fydd yn dod yn ymgyrch genedlaethol ar gyfer 2023.

    Y 5 PWNC SY’N CAEL EU TRAFOD;
    Newyn Gwyliau Creu darpariaethau i sicrhau bod pobl ifanc yn cael mynediad at brydau bwyd y tu allan i amser tymor
    Ansawdd Bwyd – Dylid gwneud prydau ysgol gan ddefnyddio cynhwysion da, iach a maethlon a dim bwydydd wedi’u prosesu’n helaeth.
    Safoni – Sicrhau bod pob person ifanc yn cael mynediad at yr un ansawdd a maint o fwyd mewn ysgolion.
    Ariannu ac Chyllid – Creu trefniadau i ariannu prydau ysgol.
    Prisiau Ychwanegol – Sicrhau bod prisiau unrhyw fwyd ychwanegol yn rhesymol ac yn gyson ar draws y DU.

    Yn dilyn yr Eisteddiad, bydd Aelodau’r Senedd Ieuenctid yn ymgyrchu ar y materion y maent yn pleidleisio fel eu blaenoriaeth. Byddant hefyd yn gorffen eu hymdrechion blwyddyn o hyd i ddrafftio eu mesur Seneddol.

    Dywedodd Sarah Jones, Uwch Swyddog Cyfranogiad Sir Gaerfyrddin;
    “Mae Olivia yn gyffrous iawn i fod yn rhan o Senedd Ieuenctid y DU ac mae’n gyfle ardderchog iddi. Mae’n wych gweld cymaint o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth i siarad am faterion sydd o bwys iddynt ac yn cyfrannu at wneud gwahaniaeth, yn enwedig yn yr hinsawdd ariannol heriol sy’n ein hwynebu. Rydw i mor balch o Olivia am gynrychioli Sir Gaerfyrddin mewn digwyddiad cenedlaethol mor bwysig.”

    Bydd y dadleuon yn cael eu ffrydio’n fyw (gydag oedi o 20 munud) ar Parliamentlive.tv neu gallwch ddilyn y sgwrs ar Gyfryngau Cymdeithasol gan ddefnyddio #UKYPHoC

    Magda, Cynrychioli Sir Gaerfyrddin yn Ty’r Cyffredin

    Mae Senedd Ieuenctid y DU (UKYP) yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed leisio eu barn mewn ffyrdd creadigol i ennyn newid cymdeithasol. Mae’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau ledled y DU yn defnyddio UKYP fel mecanwaith i ofyn am farn pobl ifanc.

    Cafodd Magda Smith ei hethol yn gynrychiolydd UKYP yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin ym mis Ebrill 2022. Ei gwaith hi yw cyfleu barn pobl ifanc Sir Gâr i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar lefel leol, ranbarthol, a chenedlaethol, a dywedodd Magda ei bod “yn gyffrous am y cyfle hwn a methu aros i weld ble fyddai’n mynd â hi”. Ers hynny, mae hi wedi bod yn cymryd rhan yn y rhaglen, gan ddefnyddio ei llais etholedig i sicrhau newid cymdeithasol drwy gynrychiolaeth ac ymgyrchu ystyrlon.

    Ar ôl pleidlais Ymgynghoriad Make Your Mark 2022, Iechyd a Llesiant yw’r prif fater. Ynghyd ag aelodau eraill o’r Senedd Ieuenctid, bu Magda yn gweithio’n galed yn trefnu ac yn rhedeg Grwpiau Ffocws Iechyd a Llesiant yn Sir Gaerfyrddin i ddeall y mater yn well.

    Pleidleisiodd aelodau o’r Senedd Ieuenctid dros roi’r 5 pwnc Iechyd a Llesiant ar restr fer i’w thrafod yn Eisteddiad Tŷ’r Cyffredin. Dywedodd: “Os ydw i am fod yn llais dros bobl ifanc Sir Gâr hyd eithaf fy ngallu, mae’n bwysig fy mod yn deall mwy am y mater rydym ni’n canolbwyntio arno i wneud gwahaniaeth i’n sir ni”.

    Ym mis Tachwedd 2022, lluniodd Magda, gydag Aelodau eraill o blith y Senedd Ieuenctid, restr fer o 5 is-bwnc Iechyd a Llesiant i’w thrafod yn Eisteddiad Tŷ’r Cyffredin. Yn yr eisteddiad, pleidleisiodd Aelodau’r Senedd Ieuenctid dros ganolbwyntio ar is-bwnc Iechyd / Costau Byw yn ymgyrch 2023. Wedi’r drafodaeth yn Eisteddiad Tŷ’r Cyffredin, dywedodd “Roedd hwnna’n brofiad anhygoel, alla i ddim aros tan y flwyddyn nesaf i ddechrau gwneud cynnydd ar yr ymgyrch ar gyfer yr is-bwnc bleidleision ni amdano sef iechyd/costau byw”.

    GWNEWCH EICH MARC 2022

    Ydych chi wedi cael dweud eich dweud eto?

    Bob blwyddyn rydym yn annog ac yn cefnogi pobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin i gymryd rhan mewn proses genedlaethol o wneud penderfyniadau.  

    Mae Make Your Mark yn gyfle  i bobl ifanc 11-18 oed ledled y DU ddweud eu dweud a dechrau ar eu taith ddemocrataidd drwy bleidleisio ar y materion y maent am eu newid.

    Bydd canlyniadau Make Your Mark yn dylanwadu ar gannoedd o brosiectau ac ymgyrchoedd dan arweiniad ac ar gyfer pobl ifanc ledled y DU!

    Bydd Aelodau Seneddol Ieuenctid a phobl ifanc eraill yn y gymuned yn ymgyrchu ac yn ymchwilio i’r pynciau sydd yn ennill y nifer fwyaf o bleidleisiau, i ddylanwadu ar Senedd y DU a’u cynrychiolwyr lleol; yn sicrhau bod y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn gwrando ar farn pobl ifanc.

    DYMA’CH CYFLE NAWR I WNEUD EICH MARC!

    Dilynwch y ddolen isod i fwrw’ch pleidlais ac i wneud gwahaniaeth!

    https://www.makeyourmark.youthimpact.app/register/me

    Gwnewch eich Marc, Gwnewch Gwahaniaeth!