Yr haf diwethaf cafodd Evie, ein Hysgrifennydd, ei hethol yn Aelod o Senedd Ieuenctid y DU Sir Gaerfyrddin a bydd yn cynrychioli’r Sir yng Nghyfarfod Blynyddol Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig a gynhelir yn Nhŷ’r Cyffredin, Llundain ddydd Gwener, 28 Chwefror2025.

Dywedodd Evie, “Mae cael y cyfle i gynrychioli eich cyfoedion, profiadau eich cyfoedion a’u lleisiau yn un o’r anrhydeddau mwyaf. Pan fyddaf yn cael sgyrsiau â’m hetholwyr ac yn rhyngweithio â nhw, rwy’n teimlo mor ffodus ac rwyf yn gwerthfawrogi fy mod yn y sefyllfa hon.”

Mae Aelodau’r Senedd Ieuenctid rhwng 11 a 18 oed ac yn cynrychioli barn eu cyfoedion ar lefel y DU gyfan a bydd gan Evie y swydd hon am gyfnod o ddwy flynedd. Bydd Evie a dros 300 o Aelodau eraill o’r Senedd Ieuenctid o bob rhan o’r DU yn teithio i San Steffan i drafod a phleidleisio ar faterion sy’n bwysig i bobl ifanc.

Mae Senedd Ieuenctid y DU yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc sicrhau newid cymdeithasol trwy gynrychiolaeth ystyrlon. Mae’r Senedd yn cael ei goruchwylio gan yr Asiantaeth Genedlaethol Ieuenctid ac mae cyfranogiad Evie yn cael ei gefnogi’n lleol gan Wasanaeth Cymorth Ieuenctid Cyngor Sir Caerfyrddin.

Wedi’i chadeirio gan Lefarydd Tŷ’r Cyffredin sef y Gwir Anrhydeddus Syr Lindsay Hoyle AS, bydd Aelodau’r Senedd Ieuenctid yn cymryd rhan mewn pum dadl, sef y pynciau y pleidleisiodd pobl ifanc ledled y DU drostynt. Bydd Aelodau’r Senedd Ieuenctid yn blaenoriaethu dau o’r pum pwnc a drafodir ar gyfer ymgyrchoedd cenedlaethol Senedd Ieuenctid y DU.

Dywedodd Evie “Ers cael fy ethol, mae’r pum mis diwethaf wedi bod yn gyffrous, o ran cyfarfod ag Aelodau rhanbarthol y Senedd Ieuenctid o Gymru a dod i’w hadnabod, ac i raddau, wedi teimlo’n gryn dipyn o brofiad. Er enghraifft, mynychu’r Gynhadledd Flynyddol ym mis Hydref 2024 oedd fy nhro cyntaf yn cyfarfod ag Aelodau’r Senedd Ieuenctid o bob rhan o’r DU, ac mewn dau ddiwrnod gwnaethom ein maniffesto cyfan. Mae sefyllfaoedd fel y rheiny yn tueddu i’m hatgoffa o’m dyletswyddau etholedig a’m hatebolrwydd i bobl ifanc Sir Gaerfyrddin.”

Mae Evie yn edrych ymlaen at y Cyfarfod Blynyddol, ac mae’n teimlo mai ei dyletswydd etholedig yw diogelu lleisiau pobl ifanc, ac mae’n credu bod pobl ifanc yn cynnig yr hyn sy’n aml yn gallu bod yn safbwynt gwerthfawr iawn ynghylch materion na all oedolion ei gynnig; bydd holl bobl ifanc Sir Gaerfyrddin ar flaen ei meddwl yn ystod y digwyddiad pwysig hwn.