Safonau Cyfranogiad

Participation Standards Poster
Safonau Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc Cenedlaethol

Mae Safonau Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc Cenedlaethol yn arf i’ch helpu chi i fesur y broses o gyfranogiad plant a phobl ifanc yn y gwaith  rydych chi’n ei wneud a sut y gallwch wella cyfranogiad plant a phobl ifanc o ran gwneud penderfyniadau yn eich sefydliad neu wasanaeth

Mae’r Safonau hefyd yn cael eu hategu gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r Ddeddf yn rhoi cyfranogiad plant a phobl ifanc, oedolion a chymunedau’n ganolog i wella llesiant, ynghyd â bod yn un o’r pum ffordd o weithio.

SUT Y GALLWCH CHI DDANGOS EICH BOD WEDI YMRWYMO I GYFRANOGIAD PLANT A PHOBL IFANC?

National Particiaption Charter…
You can show your commitment to children and young people’s Participation by signing up to a Participation Charter from Young Wales. The charter is used by organisations and services to illustrate their commitment to the Participation Standards. It is a statement of intent that they are working in line with the national Participation Standards

SIARTER CYFRANODIAD CENEDLAETHOL
Gallwch ddangos eich ymrwymiad i gyfranogiad plant a phobl ifanc drwy ymuno â Siarter Gyfranogiad gyda Chymru Ifanc. Defnyddir y siarter gan sefydliadau a gwasanaethau i ddangos eu hymrwymiad i’r Safonau Cyfranogiad. Mae’n ddatganiad o fwriad eu bod yn gweithio’n unol â’r Safonau Cyfranogiad cenedlaethol.

HUNANASESU
Gellir defnyddio’r hunanasesiad [Link – booklet] fel arf datblygiadol i fesur eich arfer presennol o ran cyfranogiad plant a phobl ifanc yn eich sefydliad neu wasanaeth. Drwy gymryd rhan mewn hunanasesiad gall eich helpu chi i nodi arferion da a bylchau o ran darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn modd ystyrlon.

Gall eich helpu i

  • Greu cynllun gweithredu ynghylch sut y gallwch gynyddu cyfranogiad plant a phobl ifanc o ran y gwaith o wneud penderfyniadau yn eich sefydliad neu wasanaeth.
  • Darparu gwasanaethau sydd yn fwy effeithiol ac sy’n diwallu anghenion pobl ifanc
  • Bod yn fwy atebol i blant a phobl ifanc
  • Darparu tystiolaeth o’r cyfranogiad sydd eisoes yn digwydd yn eich sefydliad neu wasanaeth
  • Cynllunio i wella lle y mae bylchau
  • Cynllunio’n strategol

NOD BARCUD
The National Kitemark is endorsed by Welsh Government. A certificate (valid for 4 years) is awarded to services who have demonstrated they are achieving against all seven National Standards.