Hawliau Plant

Addewid…
Mae gwledydd ledled y byd, gan gynnwys Cymru, wedi addo y dylai pob plentyn a pherson ifanc (0-25 oed) gael y pethau sydd eu hangen arnom i gael bywyd diogel, hapus ac iach a dylem gael dweud ein dweud am y penderfyniadau mawr sy’n effeithio arnom.

PDF Summary of The United Nations Convention on the rights of the child.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn…
Ym 1990, llofnododd y Cenhedloedd Unedig (sef grŵp o wledydd) gytundeb o’r enw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn neu’r CCUHP, fel y’i gelwir weithiau.

Mae’r CCUHP yn addewid sy’n rhestru 42 hawl sydd gennym ni fel plant a phobl ifanc, megis yr hawl i addysg, preifatrwydd, gofal meddygol, chwarae a’r hawl i gael ein trin yn deg. Mae’r 42 hawl hyn yn rhoi i blant a phobl ifanc y pethau sydd eu hangen arnom i dyfu’n hapus, yn iach ac yn ddiogel.

Mae Cymru wedi addo’r hawliau hyn a rhai eraill i blant a phobl ifanc drwy lofnodi’r CCUHP. Mae bron pob llywodraeth yn y byd wedi addo y bydd ei Harweinwyr yn diogelu, yn parchu ac yn gwireddu’r hawliau hyn, waeth pwy ydyn nhw neu lle maent yn byw. Mae CCUHP yn ein hatgoffa o’r byd yr ydym am fyw ynddo ac mae’n rhaid i bob un ohonom weithio tuag at y nod hwnnw drwy sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn gwybod ei hawliau, yn gallu cael mynediad i’w hawliau ac yn gallu arfer ei hawliau.

Gwybod eich hawliau
Pan fyddwch yn gwybod beth yw eich hawliau, gallan nhw eich helpu chi mewn llawer o sefyllfaoedd. Mae amddiffyn a defnyddio eich hawliau yn helpu pawb…mae’n dangos i blant a phobl ifanc eraill nad ydynt ar eu pen eu hunain ac yn sicrhau bod rhieni, athrawon, gwasanaethau a rheiny sy’n gwneud penderfyniadau yn talu sylw. Mae’r hyn y mae plant a phobl ifanc yn ei ddweud ac yn ei wneud yn wirioneddol bwysig. Gall gwybod ein hawliau newid ein cymunedau. Mae llawer ohonom eisoes yn sefyll yn gadarn yn erbyn pethau megis newid yn yr hinsawdd, trais ac anghydraddoldeb.

Mae hawliau i BAWB, BOB DYDD, BOBMAN!

Pwy sy’n gwirio…
Mae Rocio Cifuentes wedi bod yn Gomisiynydd Plant Cymru, ers mis Ebrill 2022, yn dliyn Sally Holland oedd â’r rôl ers mis Ebrill 2015. Mae Sally yn gyfrifol am roi gwybod i bobl am Hawliau Plant a hyrwyddo llesiant plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Bob 5 mlynedd, mae’n rhaid i’n Llywodraeth (Llywodraeth Cymru) roi adroddiad ar sut y mae’n parchu ac yn diogelu ein Hawliau i grŵp o oedolion yn y Cenhedloedd Unedig o’r enw y Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn. Mae’r Pwyllgor hwn yn penderfynu a yw Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gennym ein Hawliau. Ar ôl cael tystiolaeth a chynnal cyfarfod cyhoeddus yn Swyddfa’r Cenhedloedd Unedig yn Genefa, mae’r Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn yn ysgrifennu adroddiad sy’n nodi’r hyn y mae’r Llywodraeth yn ei wneud yn dda, ond hefyd yn nodi argymhellion ar gyfer meysydd i’w gwella o ran diogelu a pharchu ein hawliau.

Sut y gallwch gymryd rhan…
Gallwch roi gwybod i oedolion beth yn eich barn chi yw’r materion allweddol yma yng Nghymru. Ein hawliau ni fel plant a phobl ifanc yw hanfod CCUHP ac felly mae’n bwysig bod y Pwyllgor yn clywed ein tystiolaeth. Gallech chi ddweud wrth eich ffrindiau amdano, siarad â’ch Gweithwyr Ieuenctid, ymuno â grŵp megis Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, sicrhau bod eich ysgol neu’ch coleg yn cymryd rhan neu ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.  

I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar Hawliau Plant Cymru.