Rydym Ni’n Cyfrif… Rydym Ni’n Gwneud Gwahaniaeth

Rydym wedi bod yn gweithio gyda Foothold Cymru yn ddiweddar i sefydlu Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin fel lleoliad gwirfoddoli i gydnabod cyfraniad, amser a gwaith caled ein haelodau. Rydym mor falch o’n haelodau sydd wedi cofrestru ar gyfer eu Prosiectau Volunteens. Mae Volunteens yn blatfform sy’n cysylltu pobl ifanc â chyfleoedd gwirfoddoli ystyrlon, lle gall pobl ifanc ddatblygu sgiliau bywyd newydd a rhoi yn ôl i’w cymunedau drwy wirfoddoli.

Mae ein haelodau sydd rhwng 11 a 21 oed yn neilltuo ac yn cyfrannu llawer o amser at y gwaith hawliau plant a chyfranogiad ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol ac mae’r prosiect Volunteens yn ein helpu i ddathlu a chydnabod ein horiau gwirfoddoli a’r amser rydyn ni wedi’i roi. Rydym am i’n haelodau ystyried manteision personol gwirfoddoli a’r effaith gadarnhaol y gall ei chael ar fywydau pobl megis hyrwyddo iechyd meddwl da, meithrin ymdeimlad o berthyn, cymryd rhan yn y gymuned, a chryfhau cyfranogiad cymdeithasol yn fwy cyffredinol.

Dywedodd ein Cadeirydd Toby “mae gwirfoddoli gyda Chyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin wedi chwarae rhan enfawr yn fy natblygiad i fel person. Mae wedi darparu cyfleoedd di-ri i feithrin fy hyder, fel traddodi areithiau, ac wedi fy ngrymuso gyda gwybodaeth hanfodol, boed yn cydnabod arwyddion a symptomau cam-drin domestig i amddiffyn fy hun neu ddysgu sut i roi llais i bobl ifanc eraill.”

Ychwanegodd Toby hefyd “Mae’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yng Nghyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn amhrisiadwy, nid yn unig wrth fynd i’r afael â materion allweddol ond hefyd wrth hyrwyddo twf a datblygiad pobl ifanc yn gyffredinol. Mae’n hanfodol bod ein hymdrechion yn cael eu cydnabod, gan eu bod yn creu newid parhaol ym mhobl ifanc Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin a’r gymuned ehangach.”

Ychwanegodd ein haelod Kaya fod “gwirfoddoli gyda’r Cyngor Ieuenctid wedi gwneud i mi ddod yn berson gwell yn gymdeithasol wrth siarad ag eraill ac yn feddyliol wrth i mi ddysgu a chymryd rhan mewn cyfleoedd newydd sy’n fy helpu i ddatblygu, megis gwneud araith yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a helpodd fi gyda fy hyder trwy gydol ein grŵp a hefyd cynllunio ein digwyddiadau a helpodd fi gyda meddwl creadigol.”


Mae Volunteens yn ffordd o gydnabod yr hyn yr ydym ni wedi’i wneud ac mae’n dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod gan blant a phobl ifanc lais yn Sir Gaerfyrddin. Ceir sawl rheswm i wirfoddoli, dyma ambell un:
★ Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gefnogi achos sydd yn agos at eich calon ac o ddysgu pethau newydd yr un pryd.
★ Datblygu eich profiad a’ch sgiliau a chynyddu eich hyder yr un pryd.
★ Gwneud gwahaniaeth i bobl eraill.
★ Cwrdd â phobl, cael hwyl a bod yn rhan o’ch cymuned.
★ Teimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi, a gwneud gwahaniaeth.

Dywedodd Sarah Jones, Uwch-swyddog Cyfranogiad a Hawliau Plant Cyngor Sir Caerfyrddin “rydym mor ddiolchgar i Foothold Cymru am greu cynllun gwirfoddoli sy’n cydnabod amser, ymrwymiad a chyfraniad pobl ifanc Sir Gaerfyrddin. Mae’n bwysig ein bod ni’n cydnabod hyn! Mae gwirfoddoli yn agor drysau i gyfoeth o brofiadau, yn ogystal â chaniatáu i bobl ifanc ennill amrywiaeth o sgiliau, fel gwaith tîm, sy’n fuddiol ym mywyd bob dydd. Mae’n anodd cyfleu faint mae eu gwirfoddoli yn cael ei werthfawrogi gan y gwasanaeth.”

Dywedodd Kelly Tomlinson, Pennaeth Gweithrediadau Foothold Cymru “Rwy’n wirioneddol wrth fy modd â Volunteens a’r bobl ifanc rwyf wedi cael cwrdd â nhw ar hyd y ffordd. Mae’r prosiect yn edrych o’r newydd ar wirfoddoli yn seiliedig ar feddyliau a barn pobl ifanc. Mae’r wefan a llawer o’i adnoddau wedi cael eu cyd-gynhyrchu gan bobl ifanc hefyd ac yn tynnu sylw at y potensial enfawr sydd gan ein pobl ifanc a faint sydd ganddynt i’w roi. Mae hefyd wedi bod yn wych meithrin perthynas gyda llawer o sefydliadau lleol sy’n awyddus i groesawu’r Volunteens hyn. Diolch i gyllid gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Llywodraeth Cymru a Gwirfoddoli yng Nghymru, mae Volunteens bellach yn cwmpasu Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion a Phowys ac rwy’n gyffrous iawn i weld y gwahaniaeth y gall pobl ifanc ei wneud ledled Cymru.”

Mae yna gyfle gwirfoddoli ar gael i bawb ac os ydych chi’n 11 oed neu’n hŷn ac â diddordeb mewn gwirfoddoli neu os ydych eisoes yn gwirfoddoli yn Sir Gaerfyrddin ac eisiau gwybod mwy am y Prosiect Volunteens, ewch i wefan Volunteens drwy glicio yma neu cysylltwch â Kelly ar kelly@footholdcymru.org.uk.

Pobl Ifanc yn Cymryd yr Awenau yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Cynhaliwyd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn Neuadd y Sir ddydd Iau, 10fed o Ebrill. Roedd pobl ifanc o bob rhan o Sir Gaerfyrddin yn bresennol a chawsom gyfle i rannu ein cyflawniadau o’r flwyddyn ddiwethaf gydag Aelodau Etholedig y Cyngor Sir, Rheolwyr a Phenaethiaid Gwasanaeth o fewn yr adran Addysg a Gwasanaethau Plant.

Yn y cyfarfod gwnaethom groesawu’r Cyfarwyddwr Addysg a Phlant, Owain Lloyd i agor y cyfarfod yn swyddogol. Rydym mor ddiolchgar gan mai dyma ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol cyntaf o’r Cyngor Ieuenctid ers ei benodi yn Gyfarwyddwr ym mis Hydref 2024. 

Dan gadeiryddiaeth Magda Smith, ein Cadeirydd sydd ar fin gadael y rôl, mae’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn rhoi cyfle i Aelodau’r Cyngor Ieuenctid gyflwyno adroddiadau ac areithiau ar gyflawniadau a gwaith y Cyngor Ieuenctid dros y flwyddyn ac i bennu blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Wrth siarad yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol dywedodd Magda, sy’n 18 oed o Bentregwenlais: “Wrth edrych yn ôl, rwy’n teimlo’n hynod o falch o’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni gyda’n gilydd. Mae bod yn Gadeirydd Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin wedi bod yn fraint. Mae wedi agor drysau nad oeddwn erioed wedi’u dychmygu, o gynrychioli lleisiau ifanc wrth wneud penderfyniadau i feithrin cyfeillgarwch parhaol. Rydw i wedi tyfu nid yn unig fel arweinydd ond hefyd fel person. Yn bwysicaf oll, rwy’n gobeithio fy mod wedi gwneud gwahaniaeth trwy helpu pobl ifanc i deimlo eu bod yn cael eu clywed, eu grymuso a’u hysbrydoli i greu newid. Er bod y bennod hon yn dod i ben, bydd yr effaith a’r atgofion yn aros gyda mi am oes. Rwy’n gwybod bod dyfodol Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn ddiogel yn nwylo’r bobl ifanc addawol”

Mae’r deuddeg mis diwethaf wedi bod yn brysur, gydag aelodau’n gweithio ar lansio ein prosiect cam-drin domestig yn swyddogol o’r enw Codi Llais yn erbyn Trais a Phrosiect Ein Llais lle buom yn gweithio gydag Ysgolion Uwchradd i edrych ar Wersi Bywyd Go Iawn.

Rydym hefyd wedi bod yn ffodus iawn i gael Evie yn ein cynrychioli ni, Sir Gaerfyrddin a Chymru yn Nhŷ’r Cyffredin fel rhan o Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig.

Yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol rydym yn falch o gyhoeddi’r newyddion cyffrous mai Bwrdd Gweithredol Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin ar gyfer 2025 yw:
★ Toby Bithray – Cadeirydd
★ Ben Bantock – Is-gadeirydd
★ Evie Somers – Ysgrifennydd
★ Samuel Kwan – Trysorydd
★ Zach Davis – Swyddog Cyfathrebu

Dywedodd Toby, ar ôl derbyn swydd y Cadeirydd “Yn fy rôl fel Is-gadeirydd dros y deuddeg mis diwethaf, rwyf wedi bod yn falch o gynorthwyo’r Cadeirydd mewn cyfarfodydd ac arwain y bobl ifanc. Nawr rwy’n teimlo’n barod ac yn gyffrous i ddod yn Gadeirydd y Cyngor Ieuenctid fy hun. Rwy’n gobeithio parhau i ymhelaethu ar leisiau pobl ifanc yng Nghyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, a dod ag ymdeimlad pellach o gymuned o fewn y Cyngor Ieuenctid.”

Anerchodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen y cyfarfod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith cydweithredol rhwng Cyngor Ieuenctid a Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin, prosiect a ddatblygwyd i annog pobl ifanc i ddylanwadu ar feysydd blaenoriaeth Cyngor Sir Caerfyrddin. 

Gwnaethom hefyd groesawu’r Kelly Tomlinson o Foothold Cymru dystysgrifau i’n Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol dystysgrifau Volunteens i’r aelodau am eu cyfraniad i Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin. Gallwch ddarllen mwy trwy glicio yma ar yr hyn a ddywedodd aelodau’r Cyngor Ieuenctid am gofrestru ar gyfer y prosiect Gwirfoddolwyr.

Cawsom gwmni Gill Adams, Prif Reolwr y Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid a gyflwynodd aelodau a gwblhaodd yn llwyddiannus Hyfforddiant ar Gyflwyniad i Ddiogelu a ddarparwyd gan Staff y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn ystod ein Gwersyll Haf Blynyddol y llynedd.

Roedd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol hefyd yn caniatáu inni fynegi ein gwerthfawrogiad ac i ddathlu gwaith caled, ymroddiad a chyfraniad gwerthfawr cyn-aelodau’r Cyngor Ieuenctid sydd wedi gadael yn ddiweddar. Cyflwynwyd tystysgrif a Gwobr Cydnabyddiaeth i’r cyn-aelodau a oedd yn bresennol gan y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant, Owain Lloyd.

Caewyd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2025 yn swyddogol gan y Cynghorydd Sir Carys Davies, Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio a annerchodd y siambr gan ddweud neges gadarnhaol am bwysigrwydd parhau i fod yn llais pobl ifanc ac i hyrwyddo materion pobl ifanc yn lleol ac yn genedlaethol yn y Senedd a San steffan.

Os hoffech ragor o wybodaeth neu os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, cysylltwch â ni trwy e-bostio info@sirgar.gov.uk neu anfonwch neges ar unrhyw un o’n llwyfannau Cyfryngau Cymdeithasol Facebook, Instagram neu X.