
Roedd ein haelod, Evie Somers, o Gaerfyrddin yn cynrychioli Sir Gaerfyrddin yn eisteddiad blynyddol Senedd Ieuenctid y DU yn Nhŷ’r Cyffredin, San Steffan. Cynhaliwyd yr eisteddiad blynyddol ddydd Gwener, 28 Chwefror 2025, ac ynghyd â 300 o aelodau’r Senedd Ieuenctid eraill, bu Evie yn trafod ac yn pleidleisio ar faterion allweddol sy’n effeithio ar bobl ifanc ledled y DU.
Etholwyd Evie yn aelod Senedd Ieuenctid Sir Gaerfyrddin ym mis Awst 2024 a bydd yn sefyll am dymor o ddwy flynedd. Mae aelodau’r Senedd Ieuenctid rhwng 11 a 18 oed ac yn cynrychioli barn eu cyfoedion.
Yn ystod yr eisteddiad blynyddol, a lywyddwyd gan lefarydd Tŷ’r Cyffredin, y Gwir Anrhydeddus Syr Lindsay Hoyle AS, bu pobl ifanc o bob rhan o’r DU, yn ogystal â Thiriogaethau Tramor Prydain a Thiriogaethau Dibynnol y Goron, yn dadlau a phleidleisio ar bum pwnc allweddol, sef:
★ Pleidleisio i bobl ifanc 16 ac 17 oed
★ Cynyddu’r isafswm cyflog
★ Cludiant am ddim i bobl ifanc
★ Yr angen am addysg wleidyddol
★ Urddas mislif i bawb
Dywedodd Evie:“Roedd yn gymaint o anrhydedd i gynrychioli fy nghyfoedion, eu profiadau a’u lleisiau yn Nhŷ’r Cyffredin. Yn ystod diwrnod a oedd yn llawn dadl angerddol, cefais gyfle i gyflwyno fy araith ar bwysigrwydd llythrennedd gwleidyddol, gan dynnu sylw at y ffaith ‘nad yw democratiaeth yn gweithredu ar ddifaterwch’ a’i fod yn hytrach yn ‘ffynnu ar ymwybyddiaeth, cyfranogiad a grymuso’. Cliciwch chwarae ar y fideo isod i wylio araith angerddol Evie yn Nhŷ’r Cyffredin
Yn dilyn diwrnod prysur o drafod yn y Siambr, daeth y diwrnod i ben gyda Senedd Ieuenctid y DU yn gosod cynigion allweddol ar faterion sy’n effeithio ar bobl ifanc ledled y wlad, gan sicrhau bod lleisiau ieuenctid yn ganolog i drafodaethau polisi. Pleidleisiodd aelodau’r Senedd Ieuenctid i flaenoriaethu gostwng yr oed pleidleisio i 16 (ymgyrch y Deyrnas Unedig a gadwyd yn ôl) ac urddas mislif (ymgyrch ddatganoledig) fel eu hymgyrchoedd ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Dywedodd Syr Lindsay Hoyle, Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, ei fod yn “falch iawn mai’r eisteddiad hwn o Senedd Ieuenctid y DU fydd y mwyaf cynhwysol a chyffrous eto”.
Roedd y digwyddiad yn Senedd y DU yn cyd-daro â lansiad Maniffesto Senedd Ieuenctid y DU ar gyfer 2024-2026, ‘Llunio Ein Dyfodol, Heddiw Nid Yfory’, a grëwyd gan bobl ifanc yn eu cynhadledd flynyddol y llynedd, gan dynnu ar y safbwyntiau a’r materion a godwyd gan bobl ifanc o bob rhan o’r DU.
Fel eiriolwr ymroddedig ar gyfer llais pobl ifanc, bydd Evie yn parhau i weithio ochr yn ochr â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i ysgogi cynnydd yn y meysydd blaenoriaeth hyn, gan sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed a hyrwyddo newid ystyrlon i bobl ifanc ledled Sir Gaerfyrddin, Cymru a’r DU.
Llongyfarchwyd Evie gan y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg a’r Gymraeg, ar gynrychioli’r sir yn Senedd Ieuenctid y DU a hefyd am gael ei hethol yn aelod o Senedd Ieuenctid y DU dros Sir Gaerfyrddin.
Am y tro cyntaf erioed, gwnaeth aelod o’r Senedd Ieuenctid hanes fel yr unigolyn ifanc cyntaf i ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain i draddodi ei araith yn Nhŷ’r Cyffredin. Gwnaeth dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain gyfathrebu hyn trwy feicroffon yn siambr Tŷ’r Cyffredin.