Dywed Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
“Mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i ddweud eu barn ynghylch yr hyn a ddylai ddigwydd pan fo
oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw, ac i’w barn gael ei hystyried”
(Erthygl 12 o CCUHP)
Ystyr cyfranogi felly yw rhoi cyfle i blant a phobl ifanc leisio eu barn a chael cymorth i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain. Mae’n ymwneud â rhoi cyfleoedd i blant a phobl ifanc gymryd rhan a dylanwadu ar y penderfyniadau a wneir gan oedolion sy’n effeithio ar eu bywydau. Mae’n golygu siarad â phlant a phobl ifanc, gwrando arnynt a’u clywed, a’u hannog a’u cynorthwyo i gyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau. Mae’n rhaid i oedolion weithredu ar y safbwyntiau a’r syniadau hyn a bod yn agored, yn onest ac yn realistig gyda ni o ran i ba raddau y gallwn gymryd rhan
Yng Nghymru, rydym yn ffodus iawn o gael cyfres o safonau, sef y Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, sydd wedi’u llunio i helpu unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc i’w cefnogi i ddeall, profi ac arfer eu hawliau cyfranogi.
Mae’r 7 Safon yn rhoi gwybod i oedolion beth y dylai cyfranogiad plant a phobl ifanc ei gynnwys a sut y dylai deimlo;
1. GWYBODAETH
2. CHI BIAU’R DEWIS
3. DIM GWAHANIAETHU
4. PARCH
5. BOD AR EICH ENNILL
6. ADBORTH
7. GWEITHIO’N WELL DROSOCH CHI
Os ydych yn oedolyn sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ac eisiau dysgu rhagor ynghylch sut y gallwch chi ddangos eich ymrwymiad i ni o ran sicrhau ein bod yn lleisio’n barn ac yn cymryd rhan weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau, gallwch gofrestru gyda’r Siarter Genedlaethol.