Nod ein prosiect yw codi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig. Bydd yn cynnwys gwybodaeth am y mater hwn, ystadegau diweddar, cyfweliadau â gweithwyr proffesiynol, cyfeiriadur cymorth, a blogiau.
Yn dilyn Ymgynghoriad ‘Make your Mark’, gwnaethom ganolbwyntio ar gam-drin domestig fel y mater o flaenoriaeth am y flwyddyn ddiwethaf. Ar ôl penderfynu ar enw’r prosiect, sef “Codi llais yn erbyn trais”, dechreuodd ein grŵp ar y gwaith ymchwil.
Cynhaliwyd sawl cyfarfod, ar-lein ac wyneb yn wyneb, i drafod dulliau y gallant eu defnyddio i geisio dod â rhagor o sylw i’r pwnc pwysig hwn. Fel rhan o’n prosiect, cawsom hyfforddiant am gam-drin domestig, a oedd yn cynnwys dysgu am y gwahanol fathau o gam-drin, herio mythau, a ffeithiau am y pwnc. Rydym hefyd wedi dysgu sut i gadw ein hunain yn ddiogel mewn sefyllfaoedd o’r fath ac yn gwybod ble i gael cymorth/arweiniad. Mae hyn oll yn cael ei gynnwys yn ein gwaith ymchwil a’n gallu i godi ymwybyddiaeth o’r mater.
Bu ein haelodau’n cwrdd â llawer o weithwyr proffesiynol i ofyn am arweiniad ac i gael rhagor o wybodaeth. Bu inni gwrdd ag Ellana Thomas, Cydgysylltydd Prosiect – Cam-drin Domestig a Catrin Rees, Cydgysylltydd Ysgolion Iach. Rydym hefyd wedi bod mewn cysylltiad â’r Cydgysylltydd Partneriaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig, a Thrais Rhywiol, ynghyd â Heddlu Dyfed Powys, i ddatblygu’r syniadau ar gyfer y prosiect hwn.
Rydym mor falch o glywed bod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn rhan o’r Cwricwlwm newydd yng Nghymru ac mae’n cael ei gyflwyno mewn ysgolion y tymor hwn. Credwn yn gryf y bydd hyn yn rhoi’r sgiliau a’r ddealltwriaeth i blant ac i bobl ifanc fyw bywydau iach, hapus a diogel.
Gallwch gael gwybod sut i gael help os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn dioddef cam-drin domestig:
★ Cofiwch y gallwch chi siarad â’ch Athro, Gweithiwr Ieuenctid, Hyfforddwr neu Oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddo
★ Byw Heb Ofn
★Gwasanaeth Cam-drin Domestig Sir Gaerfyrddin
★ Llinell Gymorth Byw heb Ofn – 0808 80 10 800
★ Mewn argyfwng, FFONIWCH YR HEDDLU drwy ddeialu 999.