Cefais wybod am y cyfweliadau i staff ar gyfer swydd y Gweithiwr Cymorth Cyfranogiad drwy Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin a phenderfynais y byddwn yn hoffi bod yn rhan o’r broses. Gofynnais am fod yn rhan o’r panel cyfweld a chefais wahoddiad i swyddfeydd Rhydaman lle’r oedd y cyfweliadau’n mynd i gael eu cynnal. Roeddwn yn llawn cyffro i gael cyfle mor wych yn ogystal ag ychydig yn nerfus gan nad ydw i erioed wedi gwneud rhywbeth fel hyn o’r blaen.

Meddyliais am ychydig o gwestiynau ac yna dewisais pa gwestiynau oedd fwyaf addas ar gyfer y cyfweliad a’r rôl hon. Yn ystod y cyfweliad, fe wnes i nodiadau ar bawb a gafodd gyfweliad i wneud yn siŵr eu bod yn berffaith ar gyfer y rôl hon.

Y peth gorau am fod yn rhan o’r cyfweliad hwn yw’r profiad rwyf wedi’i gael. Mae cyfweliadau yn ffactor pwysig iawn mewn bywyd; fodd bynnag, nid ydym yn cael ein haddysgu am gyfweliadau a’r broses gyfweld mewn ysgolion. Dylai hyn fod yn rhywbeth sy’n cael ei ddysgu yn yr ysgol gan y dylai pawb allu cael y cyfle i wneud hyn. Rwyf bellach yn barod i gael cyfweliad yn y dyfodol gan fy mod yn gwybod sut beth yw’r broses gyfweld ac rwyf hefyd yn gallu cyfweld â phobl eraill a allai fy helpu yn y dyfodol.

Ar gyfer y cyfweliad hwn, fe wnes i baratoi trwy gyfarwyddo â’r swydd a’r rhinweddau sydd eu hangen ar gyfer y swydd hon a gwnes i nodiadau am yr hyn y dylwn chwilio amdano wrth gyfweld.

Y cyngor y byddwn yn ei roi i bobl ifanc sy’n cyfweld ag eraill am swydd yw bod yn barod a bod yn hyderus. Bydd angen i chi ddysgu am y swydd rydych chi’n cyfweld ar ei chyfer yn ogystal â gwneud rhai nodiadau ar beth yw’r pethau pwysicaf rydych chi’n chwilio amdanyn nhw yn ystod y cyfweliad. Mae bod yn barod hefyd yn bwysig i berson ifanc sy’n paratoi i gael ei gyfweld.

Roedd yn llawer anoddach cyfweld drwy Teams gan nad yw’r un profiad â chyfweliad arferol mewn gwirionedd. Mae’n llawer anoddach gweld beth yw natur y person mewn gwirionedd a pha mor hyderus ydyw wrth siarad o flaen pobl o dan bwysau.

Cefais fy nghynnwys yn y broses gyfweld gyfan. Ar ôl y cyfweliadau, edrychais dros unrhyw nodiadau yr oeddwn wedi’u gwneud yn ystod y cyfweliadau a dewis pa berson oedd fwyaf addas ar gyfer y rôl hon.

Roeddwn i eisiau bod yn rhan o’r broses gyfweld gan fy mod am gael rhywfaint o brofiad o gyfweliadau yn ogystal â gweld sut beth yw cyfweliad. Roedd bod yn rhan o’r panel cyfweld yn ddiddorol iawn ac yn ddefnyddiol ar gyfer y dyfodol a byddwn yn argymell unrhyw un sy’n cael y cyfle i wneud hyn.

Erthygl a ysgrifennwyd gan
Olivia