“Llais Pobl Ifanc yn Sir Gaerfyrddin”

Cafodd Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin (neu CYC) ei sefydlu ym mis Medi 2003 gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc. Grŵp o bobl ifanc rhwng 11 a 21 oed o lefydd ledled Sir Gaerfyrddin ydym sy’n gweithredu ar ran pobl ifanc trwy gynrychioli barn a sylwadau holl bobl ifanc y sir.

Rydym o’r farn “bod gan bobl ifanc hawl i leisio’u barn, a bod eu sylwadau nhw cyn bwysiced â’r hyn sydd gan oedolion i’w ddweud.”

“trwy roi cyfleoedd i bobl ifanc gyfrannu’n ystyrlon i benderfyniadau ynghylch materion sy’n effeithio ar eu bywydau a chyflawni newidiadau cadarnhaol.”

BETH YW EIN NOD?

  • bod o fudd i holl bobl ifanc Sir Gaerfyrddin sydd rhwng 0 a 25 oed.
  • bod yn llais i holl blant a phobl ifanc Sir Gaerfyrddin.
  • bod yn gyfrwng i newidiadau a datblygiadau cadarnhaol.
  • creu cyfleoedd i bobl ifanc gyfrannu at brosesau democrataidd / gwneud penderfyniadau yn yr Awdurdod ac ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.
  • asesu a gwella gwasanaethau a ddarperir i blant a phobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin.

SUT RYDYM YN GWEITHIO – EIN STRWYTHUR

Ers Mai 2017, rydym wedi cael strwythur newydd ar gyfer Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin ac rydym yn dal i geisio rhoi’r strwythur ar waith

Caiff pobl ifanc eu hethol ar Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin drwy gynrychiolaeth gyfrannol mewn ysgolion, colegau, clybiau ieuenctid, grwpiau ieuenctid gwirfoddol, grwpiau gweithredu ieuenctid, grwpiau ieuenctid lleiafrifol, grwpiau anabledd, grwpiau arbenigol eraill neu grwpiau ffurfiol ac anffurfiol lleiafrifol yn ystod Cyfarfod Mawr y Cyngor sef ‘Minnau Hefyd.’


CYNRYCHIOLAETH

Mae Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn cynnwys 50 o bobl ifanc rhwng 11 a 21 oed sy’n cynrychioli 4 prif faes:

ADDYSG – pobl ifanc o Gynghorau Ysgolion Uwchradd ac Ysgolion Arbennig, Ysgolion Preifat, Myfyrwyr yng Ngholeg Sir Gâr a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (18 lle)

CYFFREDINOL – unrhyw bobl ifanc rhwng 11 a 21 oed sy’n byw, yn astudio neu’n gweithio yn Sir Gaerfyrddin (14 lle)

DIDDORDEB ARBENNIG – unrhyw bobl ifanc sydd â phrofiad o ddigartrefedd neu’r system Troseddwyr Ifanc, sy’n anabl, LGBTQ+, B.E.M, Sipsiwn a Theithwyr, pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), plant sy’n derbyn gofal neu bobl sy’n gadael gofal; gofalwyr ifanc, mab neu ferch gofalwr maeth, plentyn mewn angen, ffoadur ifanc, ymfudwr ifanc, cymraeg iaith gyntaf, ffermwr ifanc neu sy’n byw’n wledig.

SENEDD IEUENCTID CYMRU – Yn dilyn etholiadau wedi’u trefnu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, bydd gan y tri pherson ifanc sy’n cynrychioli’r etholaethau yn Sir Gaerfyrddin gyfle i gael eu cyfethol ar y Cyngor Ieuenctid i sicrhau bod cyfathrebu a gwaith effeithiol yn digwydd er mwyn rhoi llais i bobl ifanc Sir Gaerfyrddin yn genedlaethol.

  Mae Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn cyfarfod ar Ddydd Llun olaf y mis (neu mor agos at hynny ag sydd yn bosibl) rhwng 5.30 a 8.30pm yn Llanelli.

EIN CYFARFODYDD

BWRDD PWYLLGOR CYNGOR IEUENCTID SIR GAERFYRDDIN Cyfleoedd i Aelodau’r Cyngor Ieuenctid i gael eu hethol gan aelodau eraill i fod yn aelodau o Fwrdd Pwyllgor Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin sy’n gwneud penderfyniad ynghylch cynnal y Cyngor Ieuenctid o ddydd i ddydd.

SWYDDOGION THEMA Gall Aelodau etholedig o’r Cyngor Ieuenctid sefyll etholiad i hyrwyddo meysydd portffolio Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin a gweithio’n agos gyda’r Cyngor Sir a chymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau.

AELODAU SENEDD IEUENCTID Y DEYRNAS UNEDIG Aelod etholedig o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin i gynrychioli Sir Gaerfyrddin yn Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig.

AELODAU CADW Aelodau o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin i hyrwyddo Diogelu a chynrychioli Sir Gaerfyrddin ym Mwrdd Rhanbarthol CADW.

CYMRU IFANC A CHYNGOR IEUENCTID PRYDAIN Cyfle i unrhyw aelodau o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin (a rhai nad ydynt yn aelodau o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin) i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd a gwaith prosiect cenedlaethol a gynhelir gan y ddau sefydliad.

BETH RYDYM YN EI WNEUD

  • Cymryd rhan a chynnal ymgynghoriad er mwyn cael gwybod barn pobl ifanc, eu hoffterau a’r hyn maent eisiau yn Sir Gaerfyrddin.
  • Trafod ynghylch materion lleol, cenedlaethol a byd-eang ynghylch ieuenctid, democratiaeth a dinasyddiaeth.
  • Gweithio gyda sefydliadau ac oedolion er mwyn darparu gwybodaeth sy’n ddealladwy i bobl ifanc.
  • Trefnu digwyddiadau lleol megis y Gynhadledd Ieuenctid Flynyddol a chynrychioli Sir Gaerfyrddin a Chymru mewn digwyddiadau a chynadleddau eraill.
  • Datblygu cyhoeddusrwydd er mwyn hybu digwyddiadau a gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc leol e.e.www.carmarthenshireyouth.org.uk
  • Mynd ar deithiau preswyl (aros dros nos) ac ymweliadau
  • Bod yn rhan o baneli cyfweld ar gyfer cyflogi staff sy’n gweithio gyda Phlant a Phobl Ifanc.
  • Trefnu a chymryd rhan mewn prosiectau cymunedol.
  • Gweithio gyda’n Swyddog Cyfranogiad (Spow) er mwyn cynorthwyo Cynghorau Ysgol a Disgyblion.