Mae ein Haelod Senedd Ieuenctid y DU, Olivia Smolicz 17 o’r Hendy yn paratoi i gynrychioli Sir Gaerfyrddin a Chymru yn Eisteddiad Blynyddol Senedd Ieuenctid y DU a gynhelir yn Nhŷ’r Cyffredin, San Steffan yn ddiweddarach yr wythnos hon. Cynhelir y digwyddiad ddydd Gwener 17 Tachwedd 2023 a dyma’r deuddegfed Eisteddiad, yno bydd Olivia yn cyfrannu at ddadl a phleidlais i benderfynu ar y materion y byddant yn eu blaenoriaethu ar gyfer gweddill yr ymgyrch ‘Bwyd ar gyfer Dysgu’.

Mae Olivia wedi bod yn Aelod Cyngor Ieuenctid dros 5 mlynedd ac mae hi wedi cael ei hethol gan Gynghorwyr Ieuenctid eraill i gynrychioli Sir Gaerfyrddin. Bydd yn ymuno â dros 200 o Aelodau Senedd Ieuenctid y DU rhwng 11-18 oed a fydd yn cymryd rhan mewn dadl genedlaethol yn Nhŷ’r Cyffredin. Bydd Llefarydd y Tŷ, Syr Lindsay Hoyle AS yn croesawu’r Senedd Ieuenctid ar gyfer eu Heisteddiad Blynyddol yn y tŷ, gyda sesiynau’r prynhawn yn cael eu cadeirio gan Ddirprwy Lefarydd Tŷ’r Cyffredin, Nigel Evans AS.

Dywedodd Olivia, sy’n berson ifanc ymroddedig ac angerddol;
“Rwy’n gyffrous iawn i allu cynrychioli Sir Gaerfyrddin yn yr Eisteddiad Blynyddol yn Nhŷ’r Cyffredin, Llundain. Rwyf wrth fy modd o gael y cyfle hwn ond hefyd ychydig yn bryderus. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn clywed beth sydd gan bobl ifanc o lefydd eraill i’w ddweud a mynegi fy marn fy hun. Rwy’n gobeithio y caf y cyfle i siarad â llawer o bobl newydd ac archwilio amrywiaeth o bynciau sy’n arwyddocaol i bobl ifanc yn y DU.”

Bydd Aelodau’r Senedd Ieuenctid yn pleidleisio. Bydd pob pwnc dadl yn cael ei gyflwyno gydag areithiau gan Aelodau Seneddol Ieuenctid a etholwyd yn rhanbarthol, a fydd yn cyflwyno dadleuon o blaid ac yn erbyn y mater, cyn agor i’r llawr. Yn dilyn y pum dadl, bydd pob Aelod Seneddol Ieuenctid yn y Siambr yn pleidleisio dros eu prif fater i benderfynu pa fater fydd yn dod yn ymgyrch genedlaethol ar gyfer 2023.

Y 5 PWNC SY’N CAEL EU TRAFOD;
Newyn Gwyliau Creu darpariaethau i sicrhau bod pobl ifanc yn cael mynediad at brydau bwyd y tu allan i amser tymor
Ansawdd Bwyd – Dylid gwneud prydau ysgol gan ddefnyddio cynhwysion da, iach a maethlon a dim bwydydd wedi’u prosesu’n helaeth.
Safoni – Sicrhau bod pob person ifanc yn cael mynediad at yr un ansawdd a maint o fwyd mewn ysgolion.
Ariannu ac Chyllid – Creu trefniadau i ariannu prydau ysgol.
Prisiau Ychwanegol – Sicrhau bod prisiau unrhyw fwyd ychwanegol yn rhesymol ac yn gyson ar draws y DU.

Yn dilyn yr Eisteddiad, bydd Aelodau’r Senedd Ieuenctid yn ymgyrchu ar y materion y maent yn pleidleisio fel eu blaenoriaeth. Byddant hefyd yn gorffen eu hymdrechion blwyddyn o hyd i ddrafftio eu mesur Seneddol.

Dywedodd Sarah Jones, Uwch Swyddog Cyfranogiad Sir Gaerfyrddin;
“Mae Olivia yn gyffrous iawn i fod yn rhan o Senedd Ieuenctid y DU ac mae’n gyfle ardderchog iddi. Mae’n wych gweld cymaint o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth i siarad am faterion sydd o bwys iddynt ac yn cyfrannu at wneud gwahaniaeth, yn enwedig yn yr hinsawdd ariannol heriol sy’n ein hwynebu. Rydw i mor balch o Olivia am gynrychioli Sir Gaerfyrddin mewn digwyddiad cenedlaethol mor bwysig.”

Bydd y dadleuon yn cael eu ffrydio’n fyw (gydag oedi o 20 munud) ar Parliamentlive.tv neu gallwch ddilyn y sgwrs ar Gyfryngau Cymdeithasol gan ddefnyddio #UKYPHoC