
Mae gan Evie Somers, 17 oed o Gaerfyrddin, newyddion cyffrous. Mae hi newydd gael ei dewis gan Senedd y Deyrnas Unedig a’r Asiantaeth Genedlaethol Ieuenctid i ymuno â Phwyllgor Dethol Ieuenctid y DU am dymor 2025/26.
Mae Evie wedi bod yn rhan o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin am y ddwy flynedd ddiwethaf, gan siarad yn angerddol am bryderon a syniadau pobl ifanc leol. Nawr, mae hi ar fin cynrychioli Sir Gâr a Chymru ar lwyfan cenedlaethol, a hi fydd y person ifanc cyntaf o’r sir i gael y rôl bwysig hon.
Mae’r Pwyllgor Dethol Ieuenctid yn fenter seneddol sy’n caniatáu i bobl ifanc 14-19 oed o wahanol rannau o’r DU graffu a chynnal ymchwiliadau ar bynciau pwysig, gan roi llais i bobl ifanc mewn materion sy’n effeithio arnyn nhw. Mae’r pwyllgor yn ymchwilio i wahanol faterion, fel iechyd meddwl, addysg, newid yn yr hinsawdd, a hyd yn oed effaith y cyfryngau cymdeithasol ar drais gan bobl ifanc.
Mae’r Pwyllgor Dethol Ieuenctid yn adlewyrchu prosesau Pwyllgorau Dethol Tŷ’r Cyffredin ac mae’n cynnwys 12 o bobl ifanc. Bydd yr aelodau yn casglu tystiolaeth o wahanol ffynonellau, gan gynnwys academyddion, swyddogion y llywodraeth ac arbenigwyr, cyn llunio adroddiad gydag argymhellion a fydd yn cael ei gyflwyno yn syth i’r llywodraeth.
Fe wnaeth Evie, sy’n falch o gynrychioli Sir Gâr a Chymru, gymryd rhan yn ei chyfarfod ar-lein cyntaf yn gynharach yr wythnos hon a bydd yn cymryd ei sedd yn Senedd y DU yn Llundain ym mis Medi ar gyfer sesiwn wyneb yn wyneb gyntaf y pwyllgor.
Dywedodd: “Hoffwn i ddiolch i Senedd y DU a’r Asiantaeth Genedlaethol Ieuenctid am fy newis i. Ar ôl cael fy newis fel unig gynrychiolydd Cymru ar y pwyllgor unigryw hwn, rwy’n addo rhoi buddiannau Cymru yn gyntaf yn fy ngwaith. Yn ystod fy nghyfnod yn y swydd, fy nod i yw cyfuno ymrwymiad i Gymru ar lawr gwlad a chynrychiolaeth genedlaethol gyson a diwyro.”
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, y Cynghorydd Glynog Davies: “Rydyn ni’n hynod falch o weld Evie yn cynrychioli Sir Gâr a Chymru ar lwyfan cenedlaethol mor bwysig. Mae ei hymroddiad a’i hangerdd dros faterion pobl ifanc yn wirioneddol ysbrydoledig. Mae’r cyfle hwn nid yn unig yn dangos ymrwymiad Evie ond yn tynnu sylw at y cyfraniadau gwerthfawr y gall pobl ifanc o’n cymuned eu gwneud i lunio polisïau sy’n effeithio arnyn nhw. Edrychwn ymlaen at ei chefnogi wrth iddi dderbyn y rôl bwysig hon.”
Rydyn ni’n falch iawn o Evie, sef y person ifanc cyntaf o Sir Gâr i gael ei ddewis, sy’n gyflawniad anhygoel. Mae cael eich dewis nid yn unig yn gyflawniad mawr, mae’n gyfle enfawr i dyfu, cysylltu a dylanwadu ar y materion sy’n effeithio ar bob un ohonom ni. Bydd y cyfle hwn yn rhoi profiadau gwych iddi, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i gefnogi Evie ac yn dymuno pob llwyddiant iddi!
Edrychwch am y newyddion diweddaraf ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol @YouthSirGâr, lle byddwn ni’n rhannu uchafbwyntiau taith Evie gyda’r Pwyllgor Dethol Ieuenctid!