Myfyrio ar ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Llwyddiannus yn 2023

Ar 28 Mehefin 2023, cynhaliodd Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn 2023 yn y Siambrau yn Neuadd y Sir. Fel Cadeirydd y Cyngor, roedd yn bleser gennyf gadeirio’r cyfarfod a rhannu’r uchafbwyntiau a’r llwyddiannau roeddem wedi’u cyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf. Roedd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni yn gyfarfod arbennig inni gan ein bod yn dathlu ein pen-blwydd yn ugain oed fel Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin. Ers sefydlu’r cyngor yn 2003 mae wedi gwneud cynnydd sylweddol dros y ddau ddegawd diwethaf, ac felly roedd cydnabod hyn mor bwysig.

Myfyrio ar ein Cynnydd

Wrth gyflawni’r flwyddyn lawn gyntaf ar ôl y cyfyngiadau symud, rhoddais ystyriaeth i’r modd roeddem wedi meithrin ymdeimlad newydd o waith tîm a chydweithio, a helpodd o ran cynyddu lleisiau’r bobl ifanc ledled y sir. Mae’r sgiliau hyn roeddem wedi’u hennill ar deithiau preswyl yn ein galluogi ymhellach i ddibynnu ar ein gilydd, i gefnogi ein gilydd, ac i ddathlu llwyddiannau ein gilydd, gan gryfhau’r undod o fewn ein cyngor. Gan weithio gyda’r tîm cyfranogi ar lefel leol a chenedlaethol, dywedais sut roedd hi’n anrhydedd gweld ein prosiectau a ddechreuodd yn ystod y cyfyngiadau symud yn cael eu cwblhau.

Ar ben hynny, mynegais fy mraint o weithio gyda grŵp mor dalentog ac amrywiol o unigolion sydd wedi rhoi eu hamser, eu hegni a’u harbenigedd i’n cyngor a’n cymuned dros y flwyddyn ddiwethaf.

Dathlu ein Gwaith

Roedd ein hagenda ar gyfer y noson yn llawn eitemau cyffrous a oedd yn arddangos ein gwaith caled a’n hymroddiad. Gwnaethom gyflwyno casgliad o’n holl brosiectau, diweddariadau gan ein haelodau, a seremoni wobrwyo. Rhoddodd hyn gyfle inni drafod a myfyrio ar y cynnydd roeddem wedi’i wneud yn ein gwahanol is-grwpiau, megis ein prosiect diweddaraf “Codi llais yn erbyn trais”, yn ogystal â phrosiectau gyda sefydliadau partner fel Seneddau Ieuenctid.

Edrych tua’r Dyfodol

Fel y Cadeirydd, cyflwynais ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol, sy’n cynnwys Sesiwn Hyfforddi Llysgenhadon Hawliau Plant mewn cydweithrediad â thîm Comisiynydd Plant Cymru. Hefyd cyhoeddais gynlluniau ar gyfer ein cynhadledd arfaethedig sy’n canolbwyntio ar hawliau plant, a hynny i ddathlu ein pen-blwydd yn ugain oed. Yn ogystal, rhoddais gipolwg ar ein gwaith ymgynghori lleol cyntaf sy’n ceisio deall y materion pwysig sy’n wynebu pobl ifanc yn ein sir, a mynd i’r afael â’r materion hynny. Mae dyfodol y cyngor yn edrych yr un mor gyffrous â’r gorffennol, ac ni allaf aros i weld beth arall sydd ar y gweill inni yn y dyfodol.

Gwobrau a Chydnabyddiaeth

Bu’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol hefyd yn llwyfan i anrhydeddu’r unigolion sydd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i’n Cyngor Ieuenctid. Gwnaethom gyflwyno gwobrau ar gyfer hyfforddiant yGofrestr Amddiffyn Plant, Datblygu Animeiddiad Hyfforddi Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn ogystal â chydnabod ein cyn-aelodau. Mae ein cadeiryddion a’n haelodau blaenorol wedi bod yn rhan ganolog o lais y bobl ifanc ar draws y sir, gan ddylanwadu ar benderfyniadau allweddol a wnaed gan oedolion a chyfrannu cymaint at ein Cyngor Ieuenctid. Rydym yn teimlo y dylid canmol eu holl amser yn gwirfoddoli, er mwyn eu hatgoffa bod yr hyn a gyflawnwyd ganddynt yn cael ei werthfawrogi’n fawr, ac y dylent fod yn falch o’u hymrwymiad a’u hymroddiad.

I gloi’r noson

I gloi’r CCB, cyflwynodd Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Darren Price ei araith gloi, gan dynnu sylw at bwysigrwydd ymgysylltu â phobl ifanc a’r effaith gadarnhaol a gawn ar y gymuned. Wrth inni edrych tuag at y dyfodol, rydym yn parhau i fod yn frwdfrydig ac yn ymrwymedig i wneud gwahaniaeth ym mywydau plant a phobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin.

Yn dilyn hyn, darparwyd bwffe bach inni, a roddodd gyfle inni ddod i adnabod aelodau’r cabinet a chynrychiolwyr y Cyngor Sir yn well. Cawsom ein canmol am sut y bu ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn llwyddiant ysgubol, ac rydym yn gobeithio parhau i baratoi’r ffordd ar gyfer llais pobl ifanc ledled y sir, gan ddarparu dyfodol mwy disglair a chynhwysol i bob person ifanc.

Gan Lucas Palenek

Magda, Cynrychioli Sir Gaerfyrddin yn Ty’r Cyffredin

Mae Senedd Ieuenctid y DU (UKYP) yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed leisio eu barn mewn ffyrdd creadigol i ennyn newid cymdeithasol. Mae’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau ledled y DU yn defnyddio UKYP fel mecanwaith i ofyn am farn pobl ifanc.

Cafodd Magda Smith ei hethol yn gynrychiolydd UKYP yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin ym mis Ebrill 2022. Ei gwaith hi yw cyfleu barn pobl ifanc Sir Gâr i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar lefel leol, ranbarthol, a chenedlaethol, a dywedodd Magda ei bod “yn gyffrous am y cyfle hwn a methu aros i weld ble fyddai’n mynd â hi”. Ers hynny, mae hi wedi bod yn cymryd rhan yn y rhaglen, gan ddefnyddio ei llais etholedig i sicrhau newid cymdeithasol drwy gynrychiolaeth ac ymgyrchu ystyrlon.

Ar ôl pleidlais Ymgynghoriad Make Your Mark 2022, Iechyd a Llesiant yw’r prif fater. Ynghyd ag aelodau eraill o’r Senedd Ieuenctid, bu Magda yn gweithio’n galed yn trefnu ac yn rhedeg Grwpiau Ffocws Iechyd a Llesiant yn Sir Gaerfyrddin i ddeall y mater yn well.

Pleidleisiodd aelodau o’r Senedd Ieuenctid dros roi’r 5 pwnc Iechyd a Llesiant ar restr fer i’w thrafod yn Eisteddiad Tŷ’r Cyffredin. Dywedodd: “Os ydw i am fod yn llais dros bobl ifanc Sir Gâr hyd eithaf fy ngallu, mae’n bwysig fy mod yn deall mwy am y mater rydym ni’n canolbwyntio arno i wneud gwahaniaeth i’n sir ni”.

Ym mis Tachwedd 2022, lluniodd Magda, gydag Aelodau eraill o blith y Senedd Ieuenctid, restr fer o 5 is-bwnc Iechyd a Llesiant i’w thrafod yn Eisteddiad Tŷ’r Cyffredin. Yn yr eisteddiad, pleidleisiodd Aelodau’r Senedd Ieuenctid dros ganolbwyntio ar is-bwnc Iechyd / Costau Byw yn ymgyrch 2023. Wedi’r drafodaeth yn Eisteddiad Tŷ’r Cyffredin, dywedodd “Roedd hwnna’n brofiad anhygoel, alla i ddim aros tan y flwyddyn nesaf i ddechrau gwneud cynnydd ar yr ymgyrch ar gyfer yr is-bwnc bleidleision ni amdano sef iechyd/costau byw”.

Diwrnod i ddathlu hawliau plant

Stopio cosbi corfforol yng Nghymru

Rhybudd ‘Trigger’ – Sôn amdano gosbi plant yn gorfforol yn y cartref ac mewn ysgolion.

Mae 21 o Fawrth 2022 yn ddiwrnod pwysig mewn hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru. Dyma’r diwrnod pryd fydd cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru. Rhoddwyd mewn lle deddf gan Senedd Cymru I atal plant rhag cael ei chosbi yn gorfforol, yn aml gelwir y ddeddf yn wrth – ‘smacio’.  Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw’n rhoi mewn lle’r ddeddf yma er mwyn “amddiffyn plant a’u hawliau, er mwyn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd iddyn nhw”.

Dyma beth arwyddocaol a phwysig mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud, drwy roi hawliau cyfreithiol i’r bobl fwyaf bychan a fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, maent yn diogelu ei dyfodol. Mae ymchwil rhyngwladol yn dangos bod rhoi smac, taro, slapio ac ysgwyd plentyn yn gadael ei farc nid yn unig yn gorfforol ond yn feddyliol. Mae’r trawma emosiynol yn ofnadwy a gall plentyn sydd wedi cael ei smacio gweld trais corfforol fel rhywbeth ‘normal’, ac mae’r cylched ‘smacio’ yn parhau am genedlaethau. Fel aelodau o’r Senedd Ieuenctid Cymru fe wnaethom drafod y ddeddf ‘gwrth-smacio’ gan gael pleidlais gudd arno. Fe wnaeth fwyafrif (70%) o aelodau bleidleisio o blaid y ddeddf ‘gwrth-smacio’, ac mae mwyafrif o blant a phobl ifanc yng Nghymru a bellach yn cefnogi cael eu hawliau eu diogelu.

Dros y byd i gyd mae mwy o wledydd democrataidd yn gwneud cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon. Mae 63 o wledydd wedi gwneud hynny ond mae llawer o wledydd dal yn hen fasiwn, dim ond 14% o boblogaeth plant y byd sydd wedi cael ei ddiogelu hyd yn hyn. Sweden oedd y wlad gyntaf i roi stop ar gosbi corfforol, a hynny yn 1979. Yn gyfreithiol yn y Deyrnas Unedig, dim ond Cymru a’r Alban sydd wedi ei wneud yn anghyfreithlon.

Mae’r arferiad o smacio plant yn mynd nôl i oesoedd tywyll ble roedd cosbi plant yn gorfforol yn digwydd nid yn unig yn y cartref ond mewn ysgolion. Er enghraifft yn ystod cyfnod ble roedd yr Iaith Gymraeg wedi cael ei wahardd mewn ysgolion. Arferai disgyblion derbyn y gansen ar ddiwedd y dydd, os maen nhw oedd y person diwethaf i dderbyn y plac ‘Welsh Not’, am siarad Cymraeg. Yn ffodus mae dyddiau hynny wedi pasio o ganlyniad bod effeithiau ar y plentyn yn ofnadwy. Ond nid ydym yn rhaid mynd nôl yn bell i weld pryd oedd y gansen yn cael ei defnyddio. Yn y Deyrnas Unedig nid oedd y gansen wedi ei wneud yn anghyfreithlon mewn ysgolion gwladol nes 1987, ac nid oedd yn anghyfreithlon nes 1997 i ysgolion preifat. Felly mae’r etifeddiaeth ddrwg yma wedi cael ei phasio ymlaen nes diwedd y ganrif ddiwethaf ac mae agweddau tuag at gosbi plant dal ddim yn hollol tabŵ.

Felly os mae rhywun yn dweud bod cosbi plant yn gorfforol dal yn iawn tu fewn i furiau cartref, beth ddylech ddweud? Mae nifer yn dweud bod cosbi corfforol yn iawn gan ei fod yn dangos bod chi’n caru eich plentyn oherwydd bod chi’n dysgu gwers (dim croesi’r heol pan mae car yn dod). Mewn ymateb i hynny mi fyddai i’n dweud bod yna llawer o well ffyrdd i ddysgu’r wers hynny, yn syml gallwch ddweud hynny yn eiriol. Mae un smacio gallu troi mewn i bethau llawer waith, mae’r ffin rhwng smac sy’n gariadus a smac sydd ddim yn gariadus ddim yn bydoli, mae’n fodd o drais corfforol.  

Mae angen i awdurdodau gwneud popeth yn ei gallu i ddiogelu plant rhag trais, camdriniaeth ac esgeulustra, dyma beth sydd dan erthygl 19 o’r UNCRC (United Nations Convention on the Rights of The Child). Gallaf fod yn sicr bod Cymru yn un cam yn agosaf i wneud y wlad yn fwy diogel i blant a phobl ifanc a rhoi’r hawliau gwirioneddol mewn lle mewn deddfwriaeth, mae 21 Mawrth 2022 yn ddiwrnod i ddathlu! Rwyf yn edrych ymlaen at weithio i wella bywydau pobl arall sydd yn wynebu trais yn y cartref, dwy’r is-grŵp cam-drin ddomestig/ Byth yn Tawelu Trais yng Nghyngor Ieuenctid Sir Gar.

Cai Phillips

GWNEWCH EICH MARC 2022

Ydych chi wedi cael dweud eich dweud eto?

Bob blwyddyn rydym yn annog ac yn cefnogi pobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin i gymryd rhan mewn proses genedlaethol o wneud penderfyniadau.  

Mae Make Your Mark yn gyfle  i bobl ifanc 11-18 oed ledled y DU ddweud eu dweud a dechrau ar eu taith ddemocrataidd drwy bleidleisio ar y materion y maent am eu newid.

Bydd canlyniadau Make Your Mark yn dylanwadu ar gannoedd o brosiectau ac ymgyrchoedd dan arweiniad ac ar gyfer pobl ifanc ledled y DU!

Bydd Aelodau Seneddol Ieuenctid a phobl ifanc eraill yn y gymuned yn ymgyrchu ac yn ymchwilio i’r pynciau sydd yn ennill y nifer fwyaf o bleidleisiau, i ddylanwadu ar Senedd y DU a’u cynrychiolwyr lleol; yn sicrhau bod y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn gwrando ar farn pobl ifanc.

DYMA’CH CYFLE NAWR I WNEUD EICH MARC!

Dilynwch y ddolen isod i fwrw’ch pleidlais ac i wneud gwahaniaeth!

https://www.makeyourmark.youthimpact.app/register/me

Gwnewch eich Marc, Gwnewch Gwahaniaeth!

BETH YW COP26, A PHAM MAE’N BWYSIG?

Y gynhadledd fwyaf a phwysicaf yn ymwneud â’r hinsawdd ar y blaned.

Bydd Llywodraeth y DU yn cynnal COP 26 yn Glasgow rhwng 1 Tachwedd a Thachwedd 12, 2021. Disgwylir i fwy na 30,000 o bobl fynychu digwyddiadau ffurfiol yn y “parth glas”, lle bydd arbenigwyr yn yr hinsawdd, gweithredwyr, llunwyr polisi ac arweinwyr y byd yn trafod sut i gyflawni cynnydd yn yr hinsawdd fyd-eang.

Disgwylir i gannoedd o filoedd o bobl fynychu digwyddiadau ochr yn y ‘parth gwyrdd,’ man cyfarfod dinasyddion lle mae cyrff anllywodraethol (NGOs), sefydliadau gwahanol, a chynrychiolwyr cenedlaethol yn rhyngweithio â’i gilydd a’r cyhoedd ar bynciau fel ymwybyddiaeth amgylcheddol, cydraddoldeb cymdeithasol, a myfyrdodau ar drafodion COP.

Pam mae’n bwysig?

Nod Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd yw “sefydlogi crynodiadau nwyon tŷ gwydri’r atmosffer ar lefel a fyddai’n atal ymyrraeth anthropogenig beryglus â’r system hinsawdd,” a Chynhadledd y Pleidiau, neu COP, yw’r corff sy’n gyfrifol am fonitro ac adolygu gweithrediad y confensiwn.

Bydd pob cais yn cael y cyfle i gwblhau eu nodau hinsawdd hirdymor a rhoi’r Cytundeb Paris ar waith yn eu gwledydd cartref. Bydd hyn yn sicrhau cyllideb benodol i helpu pobl sy’n delio ag effeithiau newid yn yr hinsawdd (er enghraifft, cynnydd yn lefel y môr sy’n dinistrio cartrefi a bywoliaeth).

Am fwy o wybodaeth ewch i :

CARTREF – Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP26) yn y SEC – Glasgow 2021 (ukcop26.org)

Y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd (IPCC)

Mae IPCC yn sefydliad rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig a sefydlwyd ym 1988 gyda’r nod o ddarparu gwybodaeth wyddonol wrthrychol sy’n hanfodol i ddeall newid yn yr hinsawdd a ysgogir gan bobl, ei oblygiadau amgylcheddol, gwleidyddol ac economaidd, peryglon,yn ogystal ag opsiynau ymateb posibl.

Canfu’r adroddiad diweddaraf a ryddhawyd (https://www.ipcc.ch/report/ar6/wg1/downloads/report/IPCC_AR6_WGI_Full_Report.pdf) fod lefelau CO2 yn yr atmosffer yn uwch yn 2019 nag mewn o leiaf 2 filiwn o flynyddoedd, tra bod lefelau methan ac ocsid nitraidd yn uwch nag yn yr 800,000 o flynyddoedd blaenorol. Mae tymheredd arwyneb byd-eang wedi codi’n gyflymach ers 1970 nag mewn unrhyw gyfnod o 50 mlynedd yn ystod y 2,000 mlynedd diwethaf o leiaf. Er enghraifft, mae’r tymheredd dros y degawd diwethaf (2011–2020), wedi rhagori ar rai’r cyfnod cynnes aml-ganrif blaenorol, a ddigwyddodd tua 6,500 o flynyddoedd yn ôl, yn ôl y papur.

Yn ôl y IPCC, bydd y targed cynhesu byd-eang 2°C yn cael ei ragori yn yr unfed ganrif ar hugain. Oni bai bod gostyngiadau sylweddol mewn CO2 ac allyriadau nwyon tŷ gwydr eraill yn digwydd dros y degawdau nesaf, bydd nodau Cytundeb Paris 2015 (https://unfccc.int/process-and-meetings/the-paris-agreement/the-paris-agreement) “y tu hwnt i gyrraedd”.

Gall rhai effeithiau newid yn yr hinsawdd, megis gwres, llifogydd o ddyodiad mawr, a chynnydd yn lefel y môr mewn dinasoedd arfordirol, gael eu gwaethygu mewn dinasoedd, yn ôl arbenigwyr.

At hynny, mae gwyddonwyr o’r IPCC yn rhybuddio na ellir diystyru digwyddiadau tebygolrwydd isel fel cwymp mewn taflenni iâ neu newidiadau sydyn mewn cylchrediad cefnfor.

Pam y dylem fesco?

Mae COP 26 yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddweud eu dweud ar yr hyn y dylid ei weithredu ac mae’n ildio i syniadau newydd i’w creu.  Mae ein llais yn hanfodol i ddeall newid yn yr hinsawdd a’r effeithiau y gallai eu cael ar y  dyfodol.

Bydd Arweinwyr o Gymru sy’n mynychu COP yn ateb eich cwestiynau llosg ar y 10fed o Dachwedd, yn fyw o’r Parth Gwyrdd.  I roi eich cwestiynau i mewn, dilynwch y ddolen hon :  https://forms.gle/gSYC6tYUVMkEyTjf9

Arwen Skinner