Ein Llais, Ein Pleidlais, Ein Dyfodol

Ein Hymgynghoriad Ieuenctid MWYAF  

Ein Prosiect…

‘Ein Llais, Ein Pleidlais, Ein Dyfodol’ yw ymgynghoriad ieuenctid blynyddol Sir Gaerfyrddin sy’n cael gwybod pa faterion sydd bwysicaf i bobl ifanc yn ein sir. Mae’r ymgynghoriad yn hyrwyddo democratiaeth ac yn galluogi hawliau plant drwy annog pobl ifanc i ddweud eu dweud am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw. Lansiwyd Pleidlais ar gyfer Ein Llais, Ein Pleidlais, Ein Dyfodol, yn ystod tymor yr hydref 2023. Buom yn gweithio gydag ysgolion uwchradd yn Sir Gaerfyrddin, gan ofyn iddynt rannu’r ddau fater pwysicaf i’w disgyblion, ac rydym yn galw’r rhain yn gynigion.

Ym mis Tachwedd, cynhaliwyd digwyddiad ymgynghori lle cyflwynodd dau gynrychiolydd o bob un o’n hysgolion uwchradd eu cynigion. Fe wnaeth pawb a oedd yn bresennol fwrw pleidlais, gan nodi’r 10 PWNC PWYSICAF i’w cynnwys ar ein papur pleidleisio cyntaf ar gyfer Ein Llais, Ein Pleidlais, Ein Dyfodol! Aeth y papur pleidleisio yn fyw yn gynnar yn 2024 ac anogwyd pobl ifanc, 11-18 oed o bob rhan o Sir Gaerfyrddin i fwrw eu pleidlais o blaid yr un mater sydd bwysicaf i’w bywydau.

Y BLEIDLAIS…

Ar ôl y cyfnod pleidleisio, fe wnaethom gyfrif nifer y pleidleisiau a gawsom ac roeddem yn rhyfeddu at faint ohonoch a ddefnyddiodd eich llais ar gyfer newid cadarnhaol. Cafwyd cyfanswm o 5221 o bleidleisiau o bob rhan o Sir Gaerfyrddin. Cyhoeddwyd canlyniadau’r bleidlais yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin ym mis Ebrill 2024, y mater pwysicaf yn ôl pleidleisiau’r bobl ifanc oedd Dysgu Gwersi Bywyd Go Iawn yn yr Ysgol gyda chyfanswm o 1051 o bleidleisiau.  


Bydd y bleidlais yn llunio’r sgwrs ynghylch materion sy’n effeithio’n uniongyrchol ar fywydau pobl ifanc ac sydd bwysicaf iddynt.  Dysgu Gwersi Bywyd Go Iawn yw ein mater blaenoriaeth bellach ac yn ystod y 12 mis nesaf byddwn yn rhoi cyfle i bobl ifanc weithio ar ymgyrch i sicrhau bod eu pleidlais yn cyfrif ac yn gwneud gwahaniaeth ledled Sir Gaerfyrddin.



BETH RYDYM WEDI’I WNEUD HYD YN HYN
:

  • Cysylltu ag ysgolion a phrosiectau i roi gwybod iddynt beth yw’r Materion Pwysicaf.
  • Cwrdd â Thîm Rheoli Adran Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin i drafod y canlyniad, rhannu ein syniadau a chael adborth.
  • Cynnal a chymryd rhan mewn gweithdy (ar gyfer Aelodau Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin) i drafod ac ymchwilio ymhellach i’r mater, creu llinell amser ddrafft a phenodi is-grŵp i barhau i symud yr ymgyrch yn ei flaen.
  • Creu cynnig ymgyrch y byddwn yn ei rannu gyda Rheolwyr yr Adran Addysg, Penaethiaid a chyrff perthnasol eraill i gael cefnogaeth a chydweithio.
  • Mae pedwar aelod o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn rhan o’r Byrddau Cynghori Cenedlaethol ar gyfer Addysg a Hyfforddiant i bobl ifanc 11-16 a 16-25 oed a gynhelir gan Cymru Ifanc.

Erthygl gan
Evie

Ymunwch yn yr hwyl gyda ni yn ein Cynhadledd HAWLIAU GYDA’N GILYDD: Dathlu Hawliau Plant

Hei, fel Cyngor Ieuenctid, mae gennym rywbeth cyffrous iawn ar y gweill, dyma ein Cynhadledd Ieuenctid GYNTAF ers cyfyngiadau symud Covid;

HAWLIAU GYDA’N GILYDD: Dathlu Hawliau Plant! Bydd digonedd o hwyl i’w gael ddydd Mercher, 25 Hydref 2023 ym
Mharc y Scarlets, Llanelli rhwng 9:30am a 2:30pm. Cliciwch YMA i archebu eich lle

Pam fod hawliau plant yn cŵl: Mae hawliau plant fel archbwerau – Maen nhw’n rhoi’r rhyddid i chi fod yn chi eich hun, dysgu, cael hwyl, a thyfu fyny mewn byd diogel a theg. Rydyn ni yma i ddangos i CHI pa mor anhygoel a phwysig ydyn nhw.

Dyma rai o Uchafbwyntiau’r Digwyddiad::
★ HYRWYDDWR HAWLIAU: Comisiynydd Plant Cymru: Rocio Cifuentes, i roi’r brif araith
★ GWEITHDAI GWYCH: Mae gennym weithdai rhyngweithiol a fydd yn gwneud dysgu’n hwyl! Bydd cyfle i edrych ar bynciau a fydd yn eich grymuso i siarad lan pan na fydd eich hawliau’n cael eu bodloni
★ CHI’N ARWAIN Y SIARAD: Rydym ni eisiau clywed EICH barn! Bydd trafodaethau yn cael eu harwain gan aelodau ein Cyngor Ieuenctid, a fydd yn gwrando, ac wir yn poeni am eich barn a’ch syniadau.
★ YR YSGUBOR: Bydd digonedd o sefydliadau, ynghyd â gwybodaeth a gweithgareddau i bawb. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd rhan gan fod hwn yn brofiad unwaith mewn oes!
★ CWRDD Â FFRINDIAU NEWYDD: Cyfle i gysylltu â phobl ifanc a grwpiau eraill, sy’n angerddol am wneud Sir Gâr yn lle gwell.

Pam ddylech chi ddod:
★ DYSGU PETHAU CŴL: Cewch ddysgu am hawliau plant, a pham eu bod yn bwysig.
★ CAEL EICH YSBRYDOLI: Cewch glywed straeon gan bobl ifanc a sefydliadau sy’n newid ein byd er gwell.
★ GWNEUD FFRINDIAU NEWYDD: Cwrdd â phobl ifanc a sefydliadau anhygoel eraill sy’n credu ynoch chi.
★ TEIMLO WEDI’CH GRYMUSO: Cael syniadau ar sut y gallwch CHI wneud gwahaniaeth go iawn yn eich cymuned.

Sut i fod yn rhan o’r hwyl:
Os ydych chi’n ysgol, neu’n rhan o grŵp anhygoel, yn gweithio gyda phobl ifanc 11-18 oed, rydyn ni am i CHI ymuno yn yr hwyl! Dyma’ch cyfle i ddisgleirio, gwneud ffrindiau newydd, a dysgu sut i gael eich grymuso drwy hawliau plant.

★★★ CADWCH Y DYDDIAD ★★★
Gwnewch nodyn o 25 Hydref, 2023 ar calendr. Gobeithio gwelwn ni chi yno!

“Nid cynhadledd yn unig yw “HAWLIAU GYDA’N GILYDD: Dathlu Hawliau Plant”; mae’n lle i gael amser da, gwneud ffrindiau a bod yn rhan o rywbeth MAWR. Gyda’n gilydd, gallwn wneud yn siŵr bod hawliau plant yn cael eu cydnabod a’u dathlu!

Cadwch lygad mâs am fwy o ddiweddariadau, yn fyw ar #HAWLIAUGYDANGILYDD ar y cyfryngau cymdeithasol, ac ar ein gwefan – Rydym yn cyfri’r dyddiau tan ddiwrnod epig o hwyl, dysgu, a gwneud Sir Gâr yn lle gwell; un cam ar y tro!

Erthygl gan Tom