Cafodd Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin (neu CYC) ei sefydlu ym mis Medi 2003 gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc. Grŵp o bobl ifanc rhwng 11 a 21 oed o lefydd ledled Sir Gaerfyrddin ydym sy’n gweithredu ar ran pobl ifanc trwy gynrychioli barn a sylwadau holl bobl ifanc y sir.
I wybod mwy neu i weld sut y gallwch ymuno ewch i’n Tudalen YNGLŶN Â NI
EVIE YN CYNRYCHIOLI SIR GÂR YN NHŶ’R CYFFREDIN
Yr haf diwethaf cafodd Evie, ein Hysgrifennydd, ei hethol yn Aelod o Senedd Ieuenctid y DU Sir Gaerfyrddin a bydd yn cynrychioli’r Sir yng Nghyfarfod Blynyddol Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig a gynhelir yn Nhŷ’r Cyffredin, Llundain ddydd Gwener, 28 Chwefror2025. Cliciwch YMA i ddarllen mwy
