PLEIDLAIS 16 YN ETHOLIADAU’R SENEDD – YDYCH CHI WEDI COFRESTRU?

Ar 6 Mai 2021, bydd pobl ifanc 16 ac 17 oed yn gallu pleidleisio am y tro cyntaf yn Etholiadau’r Senedd. Cafodd y newid ei gyflwyno yn Neddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 fel rhan o’r newidiadau mwyaf i’r broses ddemocrataidd yng Nghymru mewn hanner canrif.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i bobl ifanc, oherwydd am y tro cyntaf, bydd gennym lais o ran dewis pwy sy’n ein cynrychioli yn y Senedd nesaf a bydd gennym yr hawl bellach i leisio ein barn am faterion allweddol sy’n effeithio ar ein dyfodol, megis iechyd, addysg a’r economi.

MAE’N RHAID I CHI GOFRESTRU I BLEIDLEISIO !

PWY SY’N GALLU COFRESTRUR?
ŸŸ Mae’n rhaid i chi fod yn 14 oed neu’n hŷn

Mae’n rhaid i chi hefyd fod yn un o’r canlynol:
dinesydd Prydeinig
dinesydd Gwyddelig neu’r UE sy’n byw yn y DU
dinesydd o’r Gymanwlad sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r DU neu aros yn y DU, neu nad oes angen caniatâd arno
dinesydd gwlad arall sy’n byw yng Nghymru neu’r Alban sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r DU neu aros yn y DU, neu nad oes angen caniatâd arno

I ddefnyddio’ch PLEIDLAIS yn Etholiadau’r Senedd, mae’n RHAID I CHI GOFRESTRU

Rhedeg i Baris

Mae Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn cymryd rhan mewn taith gerdded rithwir i Baris i godi arian i ddwy elusen!

HER 500 MILLTIR…

Yn ein her rhith-gerdded rydym yn anelu at gwmpasu 500 milltir cyfunol (y pellter o Gaerfyrddin i Baris) mewn 10 diwrnod i godi arian ar gyfer Shelter Cymru a Badau Achub Glanyfferi. Bob dydd, bydd angen i’n haelodau gwblhau eu pellter penodol – drwy gerdded neu redeg tra’n parchu rheolau cloi Covid 19.

Yn y glaw neu yn yr eira, beth bynnag fo’r tywydd, byddwn yn cario mlaen! Ar ddiwedd pob diwrnod byddwn yn datgelu ein pellteroedd i ffurfio cyfanswm dyddiol a’i rannu ar ein cyfryngau cymdeithasol. Yn ogystal â sicrhau ein bod yn cyrraedd ein targed dyddiol, bydd hyn yn helpu i annog a chymell ein gilydd. Credwn y bydd yr her yn cryfhau ein sgiliau tîm ac yn gwella ein lles, gan sicrhau y gallwn barhau’n egnïol wrth ddysgu o gartref.

RYDYM YN ARIANNU AR GYFER

Mae SHELTER CYMRU yn gweithio dros bobl mewn angen tai drwy ddarparu cyngor arbenigol, annibynnol, yn rhad ac am ddim ar dai, ac yn ymgyrchu i oresgyn y rhwystrau sy’n atal pobl yng Nghymru rhag cael cartref. Rydym wedi dewis yr elusen hon oherwydd ein bod yn rhannu’r un gred bod gan bawb yng Nghymru hawl i rhywle i fyw sy’n weddus a diogel.


Mae BADAU ACHUB GLANYFFERI yn un o tua 80 o badau achub annibynnol sy’n gweithredu yn y DU. Yn goruchwylio Aber y Tair Afon, mae’r criw gwirfoddol yn gweithredu 24/7 gyda Guard yr Arfordir i achub bywydau yn y môr. Dewiswyd yr elusen hon gennym gan ei bod yn wasanaeth brys hanfodol. Mae’r deuddeg mis diwethaf wedi bod yn galed, ac nid ydynt wedi gallu codi arian gan ddefnyddio’r dulliau traddodiadol, felly roeddem yn meddwl ein bod yn gallu gwneud ein rhan i helpu, yn enwedig fod un o ein haelodau yn rhan o’r criw!

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ein dilyn ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol i gadw i fyny â’n cynnydd a’n cefnogi!

YMUNWCH Â NI

Byddem wrth ein bodd i chi ymuno â ni ar ein taith, boed hynny drwy roi i’r elusennau neu drwy fynd allan eich hun! Gwnewch yn siŵr eich bod yn dangos i ni beth rydych chi’n ei wneud drwy ein tagio ar Facebook, Twitter neu Instagram a defnyddio #CYCRhedegIParis

Cyllid ar gyfer Tlodi Mislif Sir Gâr am y drydedd flwyddyn!

Unwaith eto eleni rydym wedi bod yn ddigon ffodus i gael £13,437 fel rhan o Grant Urddas Mislif Llywodraeth Cymru i ddarparu cynnyrch mislif am DDIM i ferched, menywod a phobl sy’n cael mislif o bob oed ledled o Sir Gaerfyrddin. 

Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi ein cefnogi yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf a gobeithio y byddwch yn parhau gyda ni ar ein taith am y drydedd flwyddyn gan ein bod yn gwneud gwahaniaeth! Gyda’n gilydd gallwn barhau i symud ymlaen gan sicrhau bod urddas mislif yn rhywbeth sydd gan bawb yn Sir Gaerfyrddin.

Gyda chefnogaeth Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Cyngor Sir Caerfyrddin rydym unwaith eto’n gobeithio dosbarthu cynnyrch eco-gydnaws y gellir eu hailddefnyddio i gynifer o wasanaethau, sefydliadau, prosiectau a busnesau ledled y sir gan sicrhau bod cynhyrchion ar gael ac yn hygyrch i gynifer o bobl â phosibl heb ffwdan, heb drafferth a heb gwestiynau!





ADBORTH – Os ydych wedi bod yn rhan o’r prosiect yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf neu wedi derbyn unrhyw gynnyrch yna hoffem gael eich adborth. A oes gennych unrhyw sylwadau, syniadau, cwynion neu awgrymiadau ar sut y gallwn wella ein prosiect neu ein cynnyrch ymhellach? Byddem yn dwlu clywed eich barn!

Mae eich adborth yn bwysig iawn i ni gan y bydd yn helpu i lunio’r prosiect ac yn ein helpu i benderfynu pa gynhyrchion i’w prynu gyda’r arian grant. Hoffem gael eich barn a’ch adborth cyn dydd Gwener 30 Hydref 2020.

DOSBARTHWYR – Os ydych yn sefydliad, yn brosiect neu’n fusnes yn Sir Gaerfyrddin ac os hoffech gefnogi’r prosiect drwy ddod yn ‘ddosbarthwr’ (cael stoc am ddim o gynhyrchion mislif sydd ar gael i ferched, menywod a phobl sy’n cael mislif yn eich cymuned) yna cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth. Mae gennym ddiddordeb penodol i glywed gan ddosbarthwyr newydd yn ardaloedd gwledig y sir.

Mae croeso i chi llenw ein Ffurflen Adborth, gysylltu â ni drwy roi sylwadau isod, anfon neges drwy unrhyw un o’n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #TlodiMislifSirGâr neu drwy anfon e-bost at y Tîm Cyfranogi, cyfranogiad@sirgar.gov.uk

CEFNOGI BOBL IFANC YN YSTOD Y CYFYNGIADAU SYMUD DRWY ROI CYNHYRCHION MISLIF AM DDIM

Rydyn ni a Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid Sir Gaerfyrddin drwy prosect #PeriodPovertySirGâr wedi cynogi nifer o bobl ifanc yn ystod y cyfyngiadau symud drwy roi cynhyrchion mislif am ddim iddynt.

Mae’r tîm yng Nghyngor Sir Caerfyrddin wedi trefnu bod bron 6,000 o eitemau mislif yn cael eu dosbarthu a’u postio i fenywod ifanc sydd wedi bod yn cael anhawster cael gafael arnynt oherwydd bod ysgolion, colegau a chlybiau ieuenctid wedi cau mewn ymateb i’r pandemig Coronafeirws.Nawr bod y cyfyngiadau symud yn cael eu llacio, mae’r timau’n chwilio am fusnesau ledled Sir Gaerfyrddin megis caffis a siopau a fydd yn cadw stoc ohonynt yn ystod gwyliau’r haf.

Y llynedd dyfarnwyd £13,437 o arian grant Llywodraeth Cymru i’r Cyngor Ieuenctid brynu ystod o gynhyrchion eco-gydnaws y gellir eu hailddefnyddio i’w dosbarthu.t.

Dywedodd y Cynghorydd Mair Stephens, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a Hyrwyddwr Tlodi Mislif Sir Gaerfyrddin: “Mae llawer o fenywod ifanc yn dibynnu ar y cynhyrchion hyn sydd am ddim ac rydym wedi bod yn sicrhau nad ydynt wedi bod hebddynt yn ystod y cyfyngiadau symud drwy naill ai eu postio neu eu dosbarthu i’r cartref.

Nod y cynllun yw sicrhau na fydd merched yn colli addysg oherwydd nad oes ganddynt eitemau mislif digonol yn ystod eu mislif, a newid ymagwedd pobl tuag at y mislif er mwyn iddo beidio â bod yn bwnc ‘tabŵ’.

Dywedodd Amber Treharne, sy’n aelod o’r Cyngor Ieuenctid: “Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi ein gwaith. Mae wedi bod yn gymorth mawr inni sicrhau bod merched ifanc yn gallu cael cynhyrchion mislif yn ystod cyfnod mor anodd. Gyda’n gilydd, bellach gallwn symud un cam ymlaen er mwyn sicrhau y gall pob merch ifanc yn Sir Gaerfyrddin gael urddas mislif.”

Os ydych yn cael anhawster cael gafael ar gynhyrchion mislif am ddim neu eich bod yn fusnes sy’n hapus i gadw stoc ohonynt, anfonwch neges e-bost Cyfranogiad@sirgar.gov.uk Neu cliciwch yma i weld ble arall y gallwch gasglu cynhyrchion AM DDIM.  

CYFARFOD I DRAFOD YR AMGYLCHEDD

Mae dau o’n haelodau wedi bod yn darganfod rhagor am yr hyn y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei wneud i ddiogelu’r amgylchedd.

Gwahoddodd Cai Phillips ac Arwen Skinner y Cynghorydd Hazel Evans, sef yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol sy’n gyfrifol am yr Amgylchedd, i gyfarfod digidol. Mae’r Cyngor Ieuenctid yn canolbwyntio ar ei ymgyrch ‘i ddiogelu ein hamgylchedd’ yn ystod rhan o Orffennaf Di-blastig. Roedd y cyfarfod yn gyfle i’r bobl ifanc ddarganfod beth y mae’r cyngor sir yn ei wneud drwy siarad yn uniongyrchol â’r aelod o’r bwrdd gweithredol sy’n gyfrifol am yr amgylchedd.

Ymysg y pynciau a drafodwyd oedd y defnydd o wastraff plastig, newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth. Dywedodd Arwen: “Roeddem wedi cynnal y cyfarfod i fynd i’r afael â phryderon pobl ifanc ynghylch yr amgylchedd a Gorffennaf Di-blastig. Cafodd ein cwestiynau eu hateb ac rydym yn edrych ymlaen at gyfarfod ym mis Medi.”

Ychwanegodd Cai: “Roeddem am gyfarfod â’r Cynghorydd Evans gan ein bod yn credu ei bod yn bwysig bod y Cyngor yn ymwybodol o farn pobl ifanc. Aeth y cyfarfod yn dda iawn, cawsom drafodaeth adeiladol am nifer o bynciau gwahanol. Rydym yn hynod o falch bod y Cynghorydd Evans wedi ein gwahodd i gyfarfod arall ym mis Medi er mwyn parhau i ymgysylltu ynghylch y mater pwysig hwn.”

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans: “Hoffwn ddiolch i Cai ac Arwen am fy ngwahodd i siarad gyda nhw a gofyn rhai cwestiynau heriol i mi. Roedd yn gyfle gwych i glywed eu barn hefyd ac rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod â nhw eto ym mis Medi i barhau â’r sgwrs hon.”

Darllenwch ein cyfweliad gyda’r Cynghorydd Hazel Evans yma  os oes gennych ddiddordeb yn yr hyn y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei wneud i ddiogelu ein hamgylchedd.