AMBER DADL FLYNYDDOL TŶ’R CYFFREDIN

Amber joined members of the UKYP in the House of Commons on Friday 8th November
Ymunodd Amber ag aelodau Senedd Ieuenctid y DU yn Nhŷ’r Cyffredin ar ddydd Gwener 8fed Tachwedd

Amber 16 o Porth Tywyn, yw Aelod Seneddol Ieuenctid y Deyrnas Unedig Sir Gaerfyrddin ar gyfer 2019/20. Cynrychiolodd Sir Gaerfyrddin a Chymru yn Dadl Flynyddol Tŷ’r Cyffredin yn Llundain. Ymunodd Amber ag aelodau Senedd Ieuenctid y DU yn Nhŷ’r Cyffredin ar ddydd Gwener 8fed Tachwedd i ddadlau a phenderfynu ar y mater pwysicaf i ymgyrchu arno ar gyfer 2020, a gymerwyd o Bleidlais Gwneud Eich Marc 2019, lle defnyddiodd dros 4,100 o bobl ifanc o bob rhan o’r sir eu pleidlais.

Y 2 Ymgyrch ar gyfer 2019/2020 y pleidleisiodd Aelodau Senedd Ieuenctid y DU arnynt yn Dadl Tŷ’r Cyffredin ym mis Tachwedd oedd:
• Rhowch ddiwedd ar drisedd cyllyll – Mater datganoledig
• Amddiffyn yr amgylchedd – Mater y DU

Dywedodd Amber “Mae wedi bod yn gymaint o fraint I fod yn aelod o Senedd Ieuenctid y DU ar gyfer 2019-20 ac mae wedi bod yn brofiad y byddaf yn ei drysori am weddill fy oes. Rwyf wedi datblygu cymaint o sgiliau gwerthfawr fel siarad cyhoeddus, dadlau a gwaith tîm ac rwy’n siŵr y bydd o fudd mawr imi wrth imi symud ymlaen trwy gydol oes. Mae bod yn aelod o Senedd Ieuenctid y DU wedi caniatáu imi gwrdd â chymaint o bobl ifanc anhygoel o bob rhan o’r DU ac rwyf wedi adeiladu cyfeillgarwch a fydd, gobeithio, yn para am amser hir. Roedd mynychu Tŷ’r Cyffredin yn wirioneddol fythgofiadwy, a mwynheais fy amser yn Llundain yn fawr ar gyfer dadl flynyddol Senedd Ieuenctid y DU! ”

Roedd Amber ymhlith 24 aelod a oedd yn cynrychioli Cymru yn y digwyddiad. Rhoddodd cymryd rhan yn y ddadl gyfle i Amber gwrdd ag aelodau eraill o’r Senedd Ieuenctid y DU rhwng 11 a 18 oed o bob rhan o’r wlad a gweithio gyda nhw i wneud gwahaniaeth i bobl ifanc. Dros y misoedd nesaf bydd Amber, gydag aelodau’r Cyngor, yn gweithio’n galed ar y ddau brif fater.

RYDYM YN MYND I DDATTHLU PEN-BLWYDD CCUHP YN 30 OED!

Arwen and Brittany are very excited to be invited to celebrate 30 years of the UNCRC
Mae Arwen a Brittany yn falch iawn o gael  gwahodd i ddathlu 30 mlynedd o CCUHP

Rydym yn falch iawn o gael ein gwahodd i ddathlu 30 mlynedd o CCUHP ar 20 Tachwedd yng Nghaerdydd. Bydd hwn yn gyfle i ni ddysgu am waith Hawliau Plant yng Nghymru. Rydym hefyd wedi bod yn paratoi ein stondin, ac rydym yn barod i rannu ag eraill y gwaith y mae Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin wedi bod ynghlwm ag ef dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn dangos sut rydym yn hyrwyddo’r hawl i leisio barn ac i sicrhau bod ein barn yn cael ei chydnabod yn Sir Gaerfyrddin.

Cynhelir trafodaethau o amgylch y bwrdd a byddwn yn cael cyfle i gwrdd a siarad ag ymarferwyr a llunwyr polisi gan gynnwys Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru; Julie Morgan AC, Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru. 

Byddwn hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai rhyngweithiol i ddysgu mwy am waith y fenter Ysgolion sy’n Parchu Hawliau UNICEF. Yn ogystal, byddwn yn dysgu mwy am y Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol ac yn cyfarfod â Thîm Cenedlaethol yr Arolygwyr Nod Barcud a recriwtiwyd yn ddiweddar.

Byddwn yn lleisio’n barn ynghylch y materion a’r problemau sy’n bwysig i ni yn fyd-eang ac yn bersonol gan fod gan bob plentyn a pherson ifanc hawl i gael ei glywed – sef un o’r erthyglau pwysicaf rydym yn glynu wrtho.

We’ll have a say on the issues and problems that matter to us globally and personally as every child and young person has a right to be heard – which is one of the most important articles which we stand by.

AROLYGWYR IFANC CENEDLAETHOL

Mae Tom a Patrycja ar fin dod yn Arolygwyr Ifanc Cenedlaethol

Mae Tom a Patrycja ar fin dod yn Arolygwyr Ifanc Cenedlaethol. Mae Cymru Ifanc wedi recriwtio a byddant yn hyfforddi Tîm Cenedlaethol o Arolygwyr Nod Barcud. Mae’r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol dros Blant a Phobl Ifanc yn nodi Saith o Safonau y dylai pob oedolyn fod yn ymwybodol ohonynt wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru ac ymwneud â nhw;

1. GWYBODAETH
2. CHI BIAU’R DEWIS
3. DIM GWAHANIAETHU
4. PARCH
5. BOD AR EICH ENNILL
6. ADBORTH
7. GWEITHIO’N WELL DROSOCH CHI

Mae’r Safonau hyn yn helpu i fesur a hyrwyddo cyfranogiad plant a phobl ifanc o ran gwneud penderfyniadau, cynllunio ac adolygu unrhyw weithred a fydd yn cael effaith arnynt.

Ymunodd Tom a Patrycja â phobl ifanc ar draws Cymru yn Wrecsam ym mis Hydref a byddant yn mynychu sesiynau hyfforddi drwy gydol y flwyddyn i fod yn Arolygwyr Ifanc Cenedlaethol a byddant yn cael cyfle i arolygu sefydliadau a gwasanaethau yn unol â’r Safonau. Mae’r Safonau’n helpu sefydliadau i fesur a gwella ansawdd y broses o ran cyfranogiad plant a phobl ifanc.

Nododd Tom fod “bod yn Arolygydd Nod Barcud Ifanc Cenedlaethol yn fraint fawr. Rwyf yn un o’r 20 o Arolygwyr cyntaf yng Nghymru ac rwyf yn gobeithio gwella sefydliadau o ran cyfranogiad plant a phobl ifanc. Alla i ddim aros nes dechrau.”

National Participation Standards Poster 2016
Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol dros Blant a Phobl Ifanc

Rydym yn Mynd i’r Gwobrau!

Rydym wrth ein boddau! Yn dilyn proses ddethol drwyadl cafodd ei gyhoeddi ein bod ni wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer tair o Wobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru.

Cafodd y Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid cyntaf eu lansio bron i 25 mlynedd yn ôl yng Nghymru er mwyn cydnabod a dathlu prosiectau gwaith ieuenctid rhagorol, gweithwyr ieuenctid a phobl sy’n ymwneud â gwaith ieuenctid ledled Cymru. Rydym yn falch iawn o gael rhannu ein bod ni wedi cael ein henwebu a’n rhoi ar y rhestr fer ar gyfer y categorïau canlynol;

  • Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin – Prosiect Gwaith Ieuenctid Rhagorol: Hybu Hawliau Pobl Ifanc
  • Amber Treharne – Unigolyn Rhagorol: Gwneud Gwahaniaeth
  • Sarah Powell – Unigolyn Rhagorol: Gweithiwr Ieuenctid Rhagorol

Dywedodd Brittany, ein Cadeirydd: “Rwy’n falch iawn o holl aelodau’r Cyngor Ieuenctid am gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Wobr am ein gwaith hybu Hawliau Plant a’n hymdrechion i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu clywed. Gobeithio y bydd cyrraedd y rhestr fer yn golygu gall y Cyngor Ieuenctid hybu’r gwaith ardderchog rydym yn ei wneud ar raddfa ehangach, a bydd mwy o leisiau pobl ifanc yn cael eu clywed. Rwyf wrth fy modd y byddaf yn un o’r bobl ifanc yn y seremoni yng Ngogledd Cymru ar ran y Cyngor Ieuenctid.”

Siaradodd Amber am ei phrofiad o gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Wobr Unigolyn Rhagorol: Gwneud Gwahaniaeth; “Roedd yn gyffrous iawn cael gwybod fy mod wedi cyrraedd y rhestr fer. Brwdfrydedd pobl ifanc eraill sy’n tynnu sylw at faterion pwysig iddynt megis Tlodi Misglwyf, Dysgu Go Iawn ar gyfer Bywyd Go Iawn a Brexit sydd wedi fy annog i gyfarfod â’r rheiny sy’n gwneud penderfyniadau er mwyn gwneud gwahaniaeth. Heb hynny, ni fyddai wedi bod yn bosibl i mi gyflawni cymaint.”

Dywedodd Sarah Powell, Uwch-swyddog Cyfranogiad a Hawliau Plant: “Mae’n bleser mawr cael gwybod fy mod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr. Mae bod yn Weithiwr Ieuenctid am dros 20 mlynedd, a chefnogi pobl ifanc i wneud gwahaniaeth go iawn i’w bywydau eu hunain ac i fywydau pobl eraill yn brofiad pleserus iawn. Rwy’n ddiolchgar iawn o gael cydnabyddiaeth am wneud rhywbeth rwy’n ei garu. Oni bai am waith caled, brwdfrydedd ac ymrwymiad y bobl ifanc, ni fyddai’r enwebiad wedi bod yn bosibl. Mae cyrraedd y rhestr fer yn deyrnged iddyn nhw.”

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ddydd Gwener, 28 Mehefin 2019 yn seremoni fawreddog y Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yng Ngwesty’r Quay, Deganwy. Digwyddiad blynyddol yw hwn sy’n rhoi cyfle i weithwyr ieuenctid a phobl ifanc ddathlu effeithiau a llwyddiannau gwaith ieuenctid. Bydd y seremoni wobrwyo yn ddiweddglo ar wythnos o ddathliadau Gwaith Ieuenctid fel rhan o’r Wythnos Gwaith Ieuenctid yng Nghymru, a fydd yn digwydd rhwng 23 Mehefin a 30 Mehefin 2019.

Ychwanegodd Brittany, “Hoffem ddiolch i bawb sy’n ymwneud â’n gwaith am y cyfleoedd a’r gefnogaeth sy’n cael eu rhoi i bobl ifanc. Hefyd, diolch am y cymorth a’r anogaeth rydym yn eu derbyn er mwyn cyfrannu a chymryd rhan mewn gwaith ieuenctid! Rydym yn croesi bysedd yn barod ar gyfer y seremoni ar ddiwedd mis Mehefin.”