Gwnaeth Arwen, Aelod Sir Gaerfyrddin o’r Senedd Ieuenctid, gwrdd â holl Aelodau eraill y Senedd Ieuenctid i drafod symud ymlaen â’u hymgyrchoedd cenedlaethol a ddeilliodd o bleidlais Make Your Mark 2020, sef;
● Llygredd Plastig
● Lleihau Ffioedd Prifysgolion
● Iechyd Meddwl a Llesiant
Ar ddiwedd mis Mawrth mynychodd Aelodau’r Senedd Ieuenctid ddigwyddiad pedair cenedl o’r enw ‘Making a Bigger Mark’ er mwyn clywed gan Gyfeillion y Ddaear, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a Young Minds, yng ngoleuni’r 3 ymgyrch genedlaethol.
Y 3 mater lleol pennaf ar gyfer pobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin o’r bleidlais Make Your Mark yw:
● Dileu digartrefedd
● Mynediad at hyfforddiant a swyddi
● Rhoi terfyn ar drais domestig
PRIF FFOCWS
Rydym wedi trafod y problemau lleol a chenedlaethol yn ein cyfarfod misol, a gwnaethom bleidleisio i weithio ar a i fod ein prif ffocws:
➜ CENEDLAETHOL – . Rhoi terfyn ar lygredd plastig
Mae’r holl faterion eleni yn bwysig dros ben. Eleni, rydym yn gobeithio cymryd camau i fynd i’r afael â nhw i gyd. Mae llygredd plastig yn un o’r ffactorau mwyaf sy’n effeithio arnom ni i gyd ar gyfer y dyfodol. Mae microblastigau ym mhobman o fynydd Everest i’r afon Tywi.
➜ LLEOL – Rhoi terfyn ar drais domestig
Mae rhoi terfyn ar drais domestig yn bwnc sy’n agos iawn at galonnau nifer. Mae’n cael effaith ar y bobl sy’n dioddef ohono am weddill ein bywydau. Wedi i mi fod y sefyllfa honno, mae gadael y broblem yn y gorffennol yn dal i fod yn anodd. Mae gennyf obeithion mawr ar gyfer eleni ac i weld y newid sydd ei angen arnom.
Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi unwaith y byddwn wedi penderfynu pa waith y byddwn yn ei wneud i fynd i’r afael â’r materion hyn. Os hoffech gymryd rhan, yna cysylltwch â ni neu os hoffech i ni wybod eich barn ar unrhyw un o’r materion hyn, gadewch sylw isod neu cysylltwch â ni drwy unrhyw un o’n cyfryngau cymdeithasol – Facebook, Twitter neu Instagram.