Cyfarfod Zoom gyda Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd

Cafodd Cai ac Arwen gyfle i gyfarfod â’r Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd, yn rhithwir i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei wneud i ddiogelu’r amgylchedd gan ganolbwyntio ar ei ymgyrch ‘I ddiogelu ein hamgylchedd’ yn ystod rhan o Orffennaf Di-blastig.

Roeddem am gyfarfod â’r Cynghorydd Hazel Evans gan ein bod yn credu ei bod yn bwysig bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymwybodol o farn pobl ifanc. Aeth y cyfarfod yn dda iawn, cawsom drafodaeth adeiladol am nifer o bynciau gwahanol. Dyma’r hyn a ddywedwyd!

C1. Rydym yn fwyfwy ymwybodol o effaith ddinistriol plastig untro ar yr amgylchedd – pam ydym ni’n dal i weld cymaint o blastig yn ffreuturau ein hysgolion?

Y Cynghorydd Evans: Rydym yn gweithio ar fenter newydd gan Lywodraeth Cymru ynghylch plastig untro. Nid yw plastig untro ei hun yn ofnadwy, ond yn hytrach y ffordd y caiff ei waredu. Os ydych yn defnyddio plastig ac yn ei waredu’n gywir, nid yw hynny’n niweidiol. Nid yw mor syml â hynny e.e. i newid y poteli llaeth plastig am boteli gwydr mewn ysgolion cynradd, i sicrhau ei bod yn gydnaws â’r amgylchedd, mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r botel wydr hon ugain gwaith i gael lefel carbon cyfwerth.

Arwen: Pam fod cymaint o anghysondeb rhwng gwahanol ffreuturau ysgolion. e.e. Mae Bro Myrddin wedi gwahardd plastig yn ei ffreutur ond nid yw Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth wedi gwneud hynny.

Y Cynghorydd Evans: Rydym yn gweithio i sicrhau bod polisi ar waith ledled Sir Gaerfyrddin ynghylch hynny.

C2. Ar ôl i Gyngor Sir Caerfyrddin ddatgan Argyfwng Hinsawdd, roedd y Cynllun Carbon Sero-net i fod yn barod erbyn mis Chwefror 2020. Beth yw’r datblygiadau o ran y cynllun?g the plan?

Y Cynghorydd Evans: Fe’i lansiwyd ar 20 Chwefror ac mae ar gael ar wefan CSC. Ni oedd y sir gyntaf yng Nghymru i gyhoeddi cynllun gweithredu newid yn yr hinsawdd, a gafodd ei gymeradwyo gan y cyngor llawn ar 12 Chwefror ac roedd pob adran yn y cyngor yn rhan ohono. 

Cai: Roedd un o bwyntiau’r cynllun yn ymwneud â Chronfa Bensiwn Dyfed – bydd CSC yn ymwahanu oddi wrth fuddsoddiadau tanwydd ffosil.

Y Cynghorydd Evans: Nid yw’r cyngor yn cael gwneud hynny (newid i ynni adnewyddadwy) ar ei ben ei hun ac mae’n rhaid iddynt ymgynghori â chwmnïau a gwahanol grwpiau. Mae gan Gronfa Bensiwn Dyfed nifer fawr o aelodau a byddent yn gweithio tuag hynny e.e. Mae BP yn un o’r buddsoddwyr ac mae’n buddsoddi llawer o arian mewn materion ecolegol, felly nid yw hyn bob amser yn negyddol. O ran y gronfa bensiwn – rydym yn ei gweinyddu ond rydym yn gwneud hynny ar ran llwyth o gyrff felly nid ydym yn gallu gwneud y newidiadau ar ein pennau ein hunain.

C3. O ran Clefyd Coed Ynn, gwelwn fod nifer o goed wedi eu heffeithio yn ein sir – beth mae CSC yn ei wneud i dyfu coedwigoedd gwydn a phlannu coed newydd yn lle’r rhai sydd wedi eu heffeithio?

Y Cynghorydd Evans: Mae gennym grŵp Clefyd Coed Ynn mewnol sy’n edrych ar gyfleoedd ailblannu. Mae hyn yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Cawsom grant i blannu prosiectau coetir mewn dwy ardal; Dafen, Llanelli a Maesdewi, Llandybie. Rydym yn edrych ar diroedd eraill sydd gennym sydd yn gallu bod yn addas ar gyfer plannu coed hefyd.

C4. Beth ydych chi’n ei wneud i hyrwyddo prosiectau amgylcheddol yn Sir Gaerfyrddin – er enghraifft, newid i ynni adnewyddadwy?

Y Cynghorydd Evans: Er enghraifft, cynhyrchodd y felin wynt yn Nant-y-Caws ddigon o ynni ar gyfer 400 o gartrefi. Rydym yn gweithio gyda’r Bwrdd Trydan ar ddatblygu cysylltiad ar gyfer ffynonellau adnewyddadwy. Rydym yn gosod llawer o baneli solar. Ein nod yw, pan fydd cost trosi batris yn lleihau, byddwn yn gallu cyflenwi ein holl gartrefi ag ynni adnewyddadwy.

Gwnaethom hefyd lofnodi Bargen Ddinesig Bae Abertawe i gael cartrefi yn orsafoedd pŵer, lle mae’n rhaid i bob eiddo newydd a adeiledir fod yn gydnaws â’r amgylchedd gyda chymaint o ddeunydd inswleiddio a hunan-gyflenwi â phosibl. Mae gennym lawer o gerbydau trydan ar gyfer ceir adrannol, a phan brynwyd ein lorïau sbwriel nhw oedd y rhai mwyaf cydnaws â’r amgylchedd. Rydym yn ystyried prynu rhagor o gerbydau ac ar hyn o bryd mae rhai hydrogen yn cael eu profi.

Yn ogystal, mae bron pob un o’r goleuadau stryd yn Sir Gaerfyrddin yn rhai LED sy’n golygu nad ydynt yn defnyddio llawer o ynni.

Mae prosiectau bioamrywiaeth yn cael eu datblygu e.e. ardal gwarchod glöynnod byw. Wth ystyried pob cais cynllunio, mae’n rhaid i ni edrych ar yr effaith amgylcheddol a sut i liniaru’r effaith honno. E.e. gyda’r ffordd osgoi newydd sy’n cael ei hadeiladu yn Cross Hands, roedd yn rhaid symud y perthi fel yr oeddent er mwyn cadw’r bywyd gwyllt.  Mae’n golygu arbed yr amgylchedd yn ogystal â thorri costau.

C5. Ar ôl Ymgyrch Make Your Mark – ymgynghoriad ieuenctid mwyaf yn y DU, a gynhaliwyd fis Hydref diwethaf, cafodd y broblem o ollwng sbwriel ei bleidleisio fel y broblem leol fwyaf pwysig gan bobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin. Beth mae CSC yn ei wneud i fynd i’r afael â’r broblem o daflu sbwriel yn ein sir?

Y Cynghorydd Evans: Mae gennym Gynllun Rheoli Sbwriel ar waith, mae’r ddogfen hon yn amlinellu sut yr ydym ni fel sir yn rheoli’r broblem o ollwng sbwriel. Mae Grŵp Ansawdd Lleol wedi cael ei gyflwyno i edrych ar ffyrdd gwahanol o fynd i’r afael â’r broblem. Mae gennym Orchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus sy’n ymdrin â baw cŵn a materion eraill yn ymwneud â chŵn. Cyflwynwyd Pwerau Gorfodi newydd i fynd i’r afael â phroblemau sbwriel a gwastraff yn y sir. 

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar ymgyrch sbwriel newydd a fydd yn cael ei chynnal ym mis Medi. Bydd hyn yn tynnu sylw at y ffaith bod cyfrifoldeb ar bob un ohonom o ran sbwriel a sut y gallwn ni leihau sbwriel.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda chadwyni bwyd brys fel McDonalds ac maent wedi gosod biniau sbwriel ychwanegol y tu allan.

Rydym yn gwneud llawer o waith yn monitro ardaloedd lleol i fynd i’r afael â’r broblem, mae gennym ddiwrnodau gorfodi hefyd lle mae swyddogion addysg yn dosbarthu taflenni i roi cyngor i breswylwyr ynghylch sut i ailgylchu’n gywir. Rydym hefyd yn cynnal ymgyrchoedd megis ymgyrchoedd glanhau traethau a sesiynau codi sbwriel.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar Gyfrifoldeb Cynhyrchwyr – sef o bosibl cael cynhyrchwyr i dalu am waredu deunydd pacio na ellir ei ailgylchu.

C6. O ran ailgylchu, mae Sir Gaerfyrddin y tu ôl i siroedd eraill. Pam y mae cymaint o wahaniaeth rhwng gwahanol siroedd? A fyddem yn ailgylchu mwy pe bai gennym system ailgylchu ar wahân? A oes gennych unrhyw atebion ar waith?

Y Cynghorydd Evans: Mae’r sir wedi cyrraedd y targed ailgylchu (64%) a osodwyd gan Lywodraeth Cymru – cyrhaeddodd Sir Gaerfyrddin 64.6% ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf. Mae hyn yn golygu ein bod yn y 15fed safle yng Nghymru allan o 22 sir.

Mae llawer o ddadlau wedi bod ynghylch ailgylchu cymysg. I bobl sy’n byw naill ai mewn cartref amlfeddiannaeth neu lety a rennir gallai fod yn broblem fawr o ran storio gyda’r holl wahanol gynwysyddion. Fodd bynnag, mae’r ffigurau’n dangos ei fod yn llwyddiannus. Ymhen dwy flynedd mae’n rhaid i ni newid y lorïau a bydd yn rhaid inni benderfynu pa lwybr yr ydym yn ei ddilyn. Bydd angen i ni hefyd ddechrau casglu gwydr.

Pan fyddwn yn edrych ar y data ac yn cymharu e.e. Ceredigion a Sir Benfro gyda Sir Gaerfyrddin, mae ein poblogaeth deirgwaith yn fwy, efallai y bydd hyn yn ystumio’r ffigurau. Pan fyddwch yn edrych ar siroedd tebyg o ran maint, rydym yn perfformio mewn ffordd debyg.

Cyn gwneud y penderfyniad, byddwn yn ymgynghori â phreswylwyr ynghylch eu barn am ailgylchu cymysg. 

Cai: Cafodd raglen ddogfen ei chyhoeddi a oedd yn dangos bod rhai siroedd yn anfon eu sbwriel i drydydd gwledydd, i Maleisia neu Indonesia. A yw CSC yn anfon ei sbwriel dramor?

Y Cynghorydd Evans: Rydym yn anfon sbwriel i Sweden i’w drosi am wres ac aeth 1% o’n gwastraff i Dwrci yn ddiweddar ond rydym yn gwneud ein gorau i beidio â gwneud hyn. Yr hyn y mae angen i ni ei ystyried yw sut i ddefnyddio gwastraff rydym yn ei gynhyrchu fel bod llai o wastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi.

Arwen: Beth allwn ni ei wneud fel Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin i helpu’r amgylchedd?

Y Cynghorydd Evans: Cynyddu ymwybyddiaeth ynghylch gollwng sbwriel fyddai’r peth gorau. Os nad oes gan eich ysgol finiau ailgylchu – mae hynny’n rhywbeth y dylech chi fod yn ein lobïo i’w cael, gan ddweud ‘os ydych am i ni ailgylchu ac nid i ollwng sbwriel – rhowch y biniau i ni!’  Bydd hyn yn addysgu pawb o oedran iau i gymryd gofal ac i wybod bod y gwastraff yn mynd i gael ei ailddefnyddio.

Hoffem rhoi ddiolch i Cynghorydd Hazel Evans am ei hamser ac am gymryd rhan yn y cyfweliad i roi’r cyfle i ni i afael â phryderon pobl ifanc ynghylch yr amgylchedd a Gorffennaf Di-blastig. Cafodd ein cwestiynau eu hateb ac rydym yn edrych ymlaen at gyfarfod ym mis Medi.