Unwaith eto eleni rydym wedi bod yn ddigon ffodus i gael £13,437 fel rhan o Grant Urddas Mislif Llywodraeth Cymru i ddarparu cynnyrch mislif am DDIM i ferched, menywod a phobl sy’n cael mislif o bob oed ledled o Sir Gaerfyrddin.
Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi ein cefnogi yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf a gobeithio y byddwch yn parhau gyda ni ar ein taith am y drydedd flwyddyn gan ein bod yn gwneud gwahaniaeth! Gyda’n gilydd gallwn barhau i symud ymlaen gan sicrhau bod urddas mislif yn rhywbeth sydd gan bawb yn Sir Gaerfyrddin.
Gyda chefnogaeth Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Cyngor Sir Caerfyrddin rydym unwaith eto’n gobeithio dosbarthu cynnyrch eco-gydnaws y gellir eu hailddefnyddio i gynifer o wasanaethau, sefydliadau, prosiectau a busnesau ledled y sir gan sicrhau bod cynhyrchion ar gael ac yn hygyrch i gynifer o bobl â phosibl heb ffwdan, heb drafferth a heb gwestiynau!
ADBORTH – Os ydych wedi bod yn rhan o’r prosiect yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf neu wedi derbyn unrhyw gynnyrch yna hoffem gael eich adborth. A oes gennych unrhyw sylwadau, syniadau, cwynion neu awgrymiadau ar sut y gallwn wella ein prosiect neu ein cynnyrch ymhellach? Byddem yn dwlu clywed eich barn!
Mae eich adborth yn bwysig iawn i ni gan y bydd yn helpu i lunio’r prosiect ac yn ein helpu i benderfynu pa gynhyrchion i’w prynu gyda’r arian grant. Hoffem gael eich barn a’ch adborth cyn dydd Gwener 30 Hydref 2020.
DOSBARTHWYR – Os ydych yn sefydliad, yn brosiect neu’n fusnes yn Sir Gaerfyrddin ac os hoffech gefnogi’r prosiect drwy ddod yn ‘ddosbarthwr’ (cael stoc am ddim o gynhyrchion mislif sydd ar gael i ferched, menywod a phobl sy’n cael mislif yn eich cymuned) yna cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth. Mae gennym ddiddordeb penodol i glywed gan ddosbarthwyr newydd yn ardaloedd gwledig y sir.
Mae croeso i chi llenw ein Ffurflen Adborth, gysylltu â ni drwy roi sylwadau isod, anfon neges drwy unrhyw un o’n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #TlodiMislifSirGâr neu drwy anfon e-bost at y Tîm Cyfranogi, cyfranogiad@sirgar.gov.uk