Rhybudd ‘Trigger’ – Sôn amdano gosbi plant yn gorfforol yn y cartref ac mewn ysgolion.
Mae 21 o Fawrth 2022 yn ddiwrnod pwysig mewn hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru. Dyma’r diwrnod pryd fydd cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru. Rhoddwyd mewn lle deddf gan Senedd Cymru I atal plant rhag cael ei chosbi yn gorfforol, yn aml gelwir y ddeddf yn wrth – ‘smacio’. Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw’n rhoi mewn lle’r ddeddf yma er mwyn “amddiffyn plant a’u hawliau, er mwyn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd iddyn nhw”.
Dyma beth arwyddocaol a phwysig mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud, drwy roi hawliau cyfreithiol i’r bobl fwyaf bychan a fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, maent yn diogelu ei dyfodol. Mae ymchwil rhyngwladol yn dangos bod rhoi smac, taro, slapio ac ysgwyd plentyn yn gadael ei farc nid yn unig yn gorfforol ond yn feddyliol. Mae’r trawma emosiynol yn ofnadwy a gall plentyn sydd wedi cael ei smacio gweld trais corfforol fel rhywbeth ‘normal’, ac mae’r cylched ‘smacio’ yn parhau am genedlaethau. Fel aelodau o’r Senedd Ieuenctid Cymru fe wnaethom drafod y ddeddf ‘gwrth-smacio’ gan gael pleidlais gudd arno. Fe wnaeth fwyafrif (70%) o aelodau bleidleisio o blaid y ddeddf ‘gwrth-smacio’, ac mae mwyafrif o blant a phobl ifanc yng Nghymru a bellach yn cefnogi cael eu hawliau eu diogelu.
Dros y byd i gyd mae mwy o wledydd democrataidd yn gwneud cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon. Mae 63 o wledydd wedi gwneud hynny ond mae llawer o wledydd dal yn hen fasiwn, dim ond 14% o boblogaeth plant y byd sydd wedi cael ei ddiogelu hyd yn hyn. Sweden oedd y wlad gyntaf i roi stop ar gosbi corfforol, a hynny yn 1979. Yn gyfreithiol yn y Deyrnas Unedig, dim ond Cymru a’r Alban sydd wedi ei wneud yn anghyfreithlon.
Mae’r arferiad o smacio plant yn mynd nôl i oesoedd tywyll ble roedd cosbi plant yn gorfforol yn digwydd nid yn unig yn y cartref ond mewn ysgolion. Er enghraifft yn ystod cyfnod ble roedd yr Iaith Gymraeg wedi cael ei wahardd mewn ysgolion. Arferai disgyblion derbyn y gansen ar ddiwedd y dydd, os maen nhw oedd y person diwethaf i dderbyn y plac ‘Welsh Not’, am siarad Cymraeg. Yn ffodus mae dyddiau hynny wedi pasio o ganlyniad bod effeithiau ar y plentyn yn ofnadwy. Ond nid ydym yn rhaid mynd nôl yn bell i weld pryd oedd y gansen yn cael ei defnyddio. Yn y Deyrnas Unedig nid oedd y gansen wedi ei wneud yn anghyfreithlon mewn ysgolion gwladol nes 1987, ac nid oedd yn anghyfreithlon nes 1997 i ysgolion preifat. Felly mae’r etifeddiaeth ddrwg yma wedi cael ei phasio ymlaen nes diwedd y ganrif ddiwethaf ac mae agweddau tuag at gosbi plant dal ddim yn hollol tabŵ.
Felly os mae rhywun yn dweud bod cosbi plant yn gorfforol dal yn iawn tu fewn i furiau cartref, beth ddylech ddweud? Mae nifer yn dweud bod cosbi corfforol yn iawn gan ei fod yn dangos bod chi’n caru eich plentyn oherwydd bod chi’n dysgu gwers (dim croesi’r heol pan mae car yn dod). Mewn ymateb i hynny mi fyddai i’n dweud bod yna llawer o well ffyrdd i ddysgu’r wers hynny, yn syml gallwch ddweud hynny yn eiriol. Mae un smacio gallu troi mewn i bethau llawer waith, mae’r ffin rhwng smac sy’n gariadus a smac sydd ddim yn gariadus ddim yn bydoli, mae’n fodd o drais corfforol.
Mae angen i awdurdodau gwneud popeth yn ei gallu i ddiogelu plant rhag trais, camdriniaeth ac esgeulustra, dyma beth sydd dan erthygl 19 o’r UNCRC (United Nations Convention on the Rights of The Child). Gallaf fod yn sicr bod Cymru yn un cam yn agosaf i wneud y wlad yn fwy diogel i blant a phobl ifanc a rhoi’r hawliau gwirioneddol mewn lle mewn deddfwriaeth, mae 21 Mawrth 2022 yn ddiwrnod i ddathlu! Rwyf yn edrych ymlaen at weithio i wella bywydau pobl arall sydd yn wynebu trais yn y cartref, dwy’r is-grŵp cam-drin ddomestig/ Byth yn Tawelu Trais yng Nghyngor Ieuenctid Sir Gar.
Cai Phillips