Rydym wedi bod yn gweithio gyda Foothold Cymru yn ddiweddar i sefydlu Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin fel lleoliad gwirfoddoli i gydnabod cyfraniad, amser a gwaith caled ein haelodau. Rydym mor falch o’n haelodau sydd wedi cofrestru ar gyfer eu Prosiectau Volunteens. Mae Volunteens yn blatfform sy’n cysylltu pobl ifanc â chyfleoedd gwirfoddoli ystyrlon, lle gall pobl ifanc ddatblygu sgiliau bywyd newydd a rhoi yn ôl i’w cymunedau drwy wirfoddoli.

Mae ein haelodau sydd rhwng 11 a 21 oed yn neilltuo ac yn cyfrannu llawer o amser at y gwaith hawliau plant a chyfranogiad ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol ac mae’r prosiect Volunteens yn ein helpu i ddathlu a chydnabod ein horiau gwirfoddoli a’r amser rydyn ni wedi’i roi. Rydym am i’n haelodau ystyried manteision personol gwirfoddoli a’r effaith gadarnhaol y gall ei chael ar fywydau pobl megis hyrwyddo iechyd meddwl da, meithrin ymdeimlad o berthyn, cymryd rhan yn y gymuned, a chryfhau cyfranogiad cymdeithasol yn fwy cyffredinol.

Dywedodd ein Cadeirydd Toby “mae gwirfoddoli gyda Chyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin wedi chwarae rhan enfawr yn fy natblygiad i fel person. Mae wedi darparu cyfleoedd di-ri i feithrin fy hyder, fel traddodi areithiau, ac wedi fy ngrymuso gyda gwybodaeth hanfodol, boed yn cydnabod arwyddion a symptomau cam-drin domestig i amddiffyn fy hun neu ddysgu sut i roi llais i bobl ifanc eraill.”

Ychwanegodd Toby hefyd “Mae’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yng Nghyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn amhrisiadwy, nid yn unig wrth fynd i’r afael â materion allweddol ond hefyd wrth hyrwyddo twf a datblygiad pobl ifanc yn gyffredinol. Mae’n hanfodol bod ein hymdrechion yn cael eu cydnabod, gan eu bod yn creu newid parhaol ym mhobl ifanc Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin a’r gymuned ehangach.”

Ychwanegodd ein haelod Kaya fod “gwirfoddoli gyda’r Cyngor Ieuenctid wedi gwneud i mi ddod yn berson gwell yn gymdeithasol wrth siarad ag eraill ac yn feddyliol wrth i mi ddysgu a chymryd rhan mewn cyfleoedd newydd sy’n fy helpu i ddatblygu, megis gwneud araith yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a helpodd fi gyda fy hyder trwy gydol ein grŵp a hefyd cynllunio ein digwyddiadau a helpodd fi gyda meddwl creadigol.”


Mae Volunteens yn ffordd o gydnabod yr hyn yr ydym ni wedi’i wneud ac mae’n dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod gan blant a phobl ifanc lais yn Sir Gaerfyrddin. Ceir sawl rheswm i wirfoddoli, dyma ambell un:
★ Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gefnogi achos sydd yn agos at eich calon ac o ddysgu pethau newydd yr un pryd.
★ Datblygu eich profiad a’ch sgiliau a chynyddu eich hyder yr un pryd.
★ Gwneud gwahaniaeth i bobl eraill.
★ Cwrdd â phobl, cael hwyl a bod yn rhan o’ch cymuned.
★ Teimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi, a gwneud gwahaniaeth.

Dywedodd Sarah Jones, Uwch-swyddog Cyfranogiad a Hawliau Plant Cyngor Sir Caerfyrddin “rydym mor ddiolchgar i Foothold Cymru am greu cynllun gwirfoddoli sy’n cydnabod amser, ymrwymiad a chyfraniad pobl ifanc Sir Gaerfyrddin. Mae’n bwysig ein bod ni’n cydnabod hyn! Mae gwirfoddoli yn agor drysau i gyfoeth o brofiadau, yn ogystal â chaniatáu i bobl ifanc ennill amrywiaeth o sgiliau, fel gwaith tîm, sy’n fuddiol ym mywyd bob dydd. Mae’n anodd cyfleu faint mae eu gwirfoddoli yn cael ei werthfawrogi gan y gwasanaeth.”

Dywedodd Kelly Tomlinson, Pennaeth Gweithrediadau Foothold Cymru “Rwy’n wirioneddol wrth fy modd â Volunteens a’r bobl ifanc rwyf wedi cael cwrdd â nhw ar hyd y ffordd. Mae’r prosiect yn edrych o’r newydd ar wirfoddoli yn seiliedig ar feddyliau a barn pobl ifanc. Mae’r wefan a llawer o’i adnoddau wedi cael eu cyd-gynhyrchu gan bobl ifanc hefyd ac yn tynnu sylw at y potensial enfawr sydd gan ein pobl ifanc a faint sydd ganddynt i’w roi. Mae hefyd wedi bod yn wych meithrin perthynas gyda llawer o sefydliadau lleol sy’n awyddus i groesawu’r Volunteens hyn. Diolch i gyllid gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Llywodraeth Cymru a Gwirfoddoli yng Nghymru, mae Volunteens bellach yn cwmpasu Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion a Phowys ac rwy’n gyffrous iawn i weld y gwahaniaeth y gall pobl ifanc ei wneud ledled Cymru.”

Mae yna gyfle gwirfoddoli ar gael i bawb ac os ydych chi’n 11 oed neu’n hŷn ac â diddordeb mewn gwirfoddoli neu os ydych eisoes yn gwirfoddoli yn Sir Gaerfyrddin ac eisiau gwybod mwy am y Prosiect Volunteens, ewch i wefan Volunteens drwy glicio yma neu cysylltwch â Kelly ar kelly@footholdcymru.org.uk.