Ein Llais, Ein Pleidlais, Ein Dyfodol

Ein Hymgynghoriad Ieuenctid MWYAF  

Ein Prosiect…

‘Ein Llais, Ein Pleidlais, Ein Dyfodol’ yw ymgynghoriad ieuenctid blynyddol Sir Gaerfyrddin sy’n cael gwybod pa faterion sydd bwysicaf i bobl ifanc yn ein sir. Mae’r ymgynghoriad yn hyrwyddo democratiaeth ac yn galluogi hawliau plant drwy annog pobl ifanc i ddweud eu dweud am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw. Lansiwyd Pleidlais ar gyfer Ein Llais, Ein Pleidlais, Ein Dyfodol, yn ystod tymor yr hydref 2023. Buom yn gweithio gydag ysgolion uwchradd yn Sir Gaerfyrddin, gan ofyn iddynt rannu’r ddau fater pwysicaf i’w disgyblion, ac rydym yn galw’r rhain yn gynigion.

Ym mis Tachwedd, cynhaliwyd digwyddiad ymgynghori lle cyflwynodd dau gynrychiolydd o bob un o’n hysgolion uwchradd eu cynigion. Fe wnaeth pawb a oedd yn bresennol fwrw pleidlais, gan nodi’r 10 PWNC PWYSICAF i’w cynnwys ar ein papur pleidleisio cyntaf ar gyfer Ein Llais, Ein Pleidlais, Ein Dyfodol! Aeth y papur pleidleisio yn fyw yn gynnar yn 2024 ac anogwyd pobl ifanc, 11-18 oed o bob rhan o Sir Gaerfyrddin i fwrw eu pleidlais o blaid yr un mater sydd bwysicaf i’w bywydau.

Y BLEIDLAIS…

Ar ôl y cyfnod pleidleisio, fe wnaethom gyfrif nifer y pleidleisiau a gawsom ac roeddem yn rhyfeddu at faint ohonoch a ddefnyddiodd eich llais ar gyfer newid cadarnhaol. Cafwyd cyfanswm o 5221 o bleidleisiau o bob rhan o Sir Gaerfyrddin. Cyhoeddwyd canlyniadau’r bleidlais yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin ym mis Ebrill 2024, y mater pwysicaf yn ôl pleidleisiau’r bobl ifanc oedd Dysgu Gwersi Bywyd Go Iawn yn yr Ysgol gyda chyfanswm o 1051 o bleidleisiau.  


Bydd y bleidlais yn llunio’r sgwrs ynghylch materion sy’n effeithio’n uniongyrchol ar fywydau pobl ifanc ac sydd bwysicaf iddynt.  Dysgu Gwersi Bywyd Go Iawn yw ein mater blaenoriaeth bellach ac yn ystod y 12 mis nesaf byddwn yn rhoi cyfle i bobl ifanc weithio ar ymgyrch i sicrhau bod eu pleidlais yn cyfrif ac yn gwneud gwahaniaeth ledled Sir Gaerfyrddin.



BETH RYDYM WEDI’I WNEUD HYD YN HYN
:

  • Cysylltu ag ysgolion a phrosiectau i roi gwybod iddynt beth yw’r Materion Pwysicaf.
  • Cwrdd â Thîm Rheoli Adran Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin i drafod y canlyniad, rhannu ein syniadau a chael adborth.
  • Cynnal a chymryd rhan mewn gweithdy (ar gyfer Aelodau Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin) i drafod ac ymchwilio ymhellach i’r mater, creu llinell amser ddrafft a phenodi is-grŵp i barhau i symud yr ymgyrch yn ei flaen.
  • Creu cynnig ymgyrch y byddwn yn ei rannu gyda Rheolwyr yr Adran Addysg, Penaethiaid a chyrff perthnasol eraill i gael cefnogaeth a chydweithio.
  • Mae pedwar aelod o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn rhan o’r Byrddau Cynghori Cenedlaethol ar gyfer Addysg a Hyfforddiant i bobl ifanc 11-16 a 16-25 oed a gynhelir gan Cymru Ifanc.

Erthygl gan
Evie

Dweud eich dweud a Phleidleisiwch Nawr!

A young person voting on a ballot paper.


Ni’n gyffrous i rannu Ein Llais, Ein Pleidlais, Ein Dyfodolgyda chi…Ein Hymgynghoriad Ieuenctid MWYAF! Dweud eich dweud ar beth sy’n bwysig i chi! Dyma’ch cyfle i effeithio’n uniongyrchol ar ddyfodol Sir Gaerfyrddin. Bydd y prif fater y pleidleisir arno yn dod yn ffocws i’n prosiectau a’n hymgyrchoedd, gan sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed ac y gweithredir arnynt.

Edrychwch ar y 10 PWNC UCHAF a’i gwnaeth ar y papur pleidleisio…. a pheidiwch ag anghofio defnyddio’ch PLEIDLAIS!

Gwella ymwybyddiaeth feddyliol mewn ysgolion
Hyrwyddo lles meddyliol gyda diwrnodau llesiant ychwanegol ac ehangu cyfleoedd ar gyfer mwy o weithgareddau allgyrsiol

Stopio Cywilydd Corff
Codi ymwybyddiaeth o’r difrod y mae cywilyddio corff yn ei gael ar bobl ifanc

Stopio Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Ymgysylltu a chreu mwy o fannau cymunedol ar gyfer pobl ifanc. Addysgu mwy o bobl am ymddygiad gwrthgymdeithasol

Stopio ysmygu/mewnanadlu anwedd
Cyfyngu mynediad a gwneud fêps yn llai deniadol i bobl ifanc

Addysgu Cymorth Cyntaf i Ysgolion
Ehangu ar gymorth cyntaf sylfaenol trwy ddysgu mwy o dechnegau achub bywyd i achub mwy o fywydau

Mwy o wersi awyr agored
Annog mwy o ymgysylltu awyr agored. Darganfod, tyfu, a dysgu o ble mae’ch bwyd yn dod

Stopio Bwlio
Mwy o ddiogelu ac addysg ar gyfer bwlio o bob math

Cyflwr yr ysgol a diffyg cyllid
Cynyddu cyllid i ysgolion wella eu hansawdd, gan roi profiad dysgu gwell i bobl ifanc

Mwy o Gyfleoedd i Bobl Ifanc
Mwy o ddiwrnodau agored, prentisiaethau a phrofiad gwaith i bobl ifanc

Addysgu sgiliau bywyd go iawn
Tu hwnt i werslyfrau: Sgiliau sy’n lansio bywyd (cyllid, gyrfaoedd, CV)

PLEIDLEISIWCH YMA!

Cliciwch YMA i lawrlwytho copi o’n Poster.

Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod pob llais ifanc yn Sir Gaerfyrddin yn cael ei glywed! Ymunwch yn y sgwrs ar gymdeithasoli trwy ddefnyddio #EinLlaisEinPleidlaisEinDyfodol