#CodiLlaisYnErbynTrais

Nod ein prosiect yw codi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig. Bydd yn cynnwys gwybodaeth am y mater hwn, ystadegau diweddar, cyfweliadau â gweithwyr proffesiynol, cyfeiriadur cymorth, a blogiau. 

Yn dilyn Ymgynghoriad ‘Make your Mark’, gwnaethom ganolbwyntio ar gam-drin domestig fel y mater o flaenoriaeth am y flwyddyn ddiwethaf. Ar ôl penderfynu ar enw’r prosiect, sef “Codi llais yn erbyn trais”, dechreuodd ein grŵp ar y gwaith ymchwil.

Cynhaliwyd sawl cyfarfod, ar-lein ac wyneb yn wyneb, i drafod dulliau y gallant eu defnyddio i geisio dod â rhagor o sylw i’r pwnc pwysig hwn. Fel rhan o’n prosiect, cawsom hyfforddiant am gam-drin domestig, a oedd yn cynnwys dysgu am y gwahanol fathau o gam-drin, herio mythau, a ffeithiau am y pwnc. Rydym hefyd wedi dysgu sut i gadw ein hunain yn ddiogel mewn sefyllfaoedd o’r fath ac yn gwybod ble i gael cymorth/arweiniad. Mae hyn oll yn cael ei gynnwys yn ein gwaith ymchwil a’n gallu i godi ymwybyddiaeth o’r mater.

Bu ein haelodau’n cwrdd â llawer o weithwyr proffesiynol i ofyn am arweiniad ac i gael rhagor o wybodaeth. Bu inni gwrdd ag Ellana Thomas, Cydgysylltydd Prosiect – Cam-drin Domestig a Catrin Rees, Cydgysylltydd Ysgolion Iach. Rydym hefyd wedi bod mewn cysylltiad â’r Cydgysylltydd Partneriaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig, a Thrais Rhywiol, ynghyd â Heddlu Dyfed Powys, i ddatblygu’r syniadau ar gyfer y prosiect hwn.

Rydym mor falch o glywed bod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn rhan o’r Cwricwlwm newydd yng Nghymru ac mae’n cael ei gyflwyno mewn ysgolion y tymor hwn. Credwn yn gryf y bydd hyn yn rhoi’r sgiliau a’r ddealltwriaeth i blant ac i bobl ifanc fyw bywydau iach, hapus a diogel.

Gallwch gael gwybod sut i gael help os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn dioddef cam-drin domestig:
★ Cofiwch y gallwch chi siarad â’ch Athro, Gweithiwr Ieuenctid, Hyfforddwr neu Oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddo
Byw Heb Ofn
Gwasanaeth Cam-drin Domestig Sir Gaerfyrddin
★ Llinell Gymorth Byw heb Ofn – 0808 80 10 800
Mewn argyfwng, FFONIWCH YR HEDDLU drwy ddeialu 999.

Ymunwch yn yr hwyl gyda ni yn ein Cynhadledd HAWLIAU GYDA’N GILYDD: Dathlu Hawliau Plant

Hei, fel Cyngor Ieuenctid, mae gennym rywbeth cyffrous iawn ar y gweill, dyma ein Cynhadledd Ieuenctid GYNTAF ers cyfyngiadau symud Covid;

HAWLIAU GYDA’N GILYDD: Dathlu Hawliau Plant! Bydd digonedd o hwyl i’w gael ddydd Mercher, 25 Hydref 2023 ym
Mharc y Scarlets, Llanelli rhwng 9:30am a 2:30pm. Cliciwch YMA i archebu eich lle

Pam fod hawliau plant yn cŵl: Mae hawliau plant fel archbwerau – Maen nhw’n rhoi’r rhyddid i chi fod yn chi eich hun, dysgu, cael hwyl, a thyfu fyny mewn byd diogel a theg. Rydyn ni yma i ddangos i CHI pa mor anhygoel a phwysig ydyn nhw.

Dyma rai o Uchafbwyntiau’r Digwyddiad::
★ HYRWYDDWR HAWLIAU: Comisiynydd Plant Cymru: Rocio Cifuentes, i roi’r brif araith
★ GWEITHDAI GWYCH: Mae gennym weithdai rhyngweithiol a fydd yn gwneud dysgu’n hwyl! Bydd cyfle i edrych ar bynciau a fydd yn eich grymuso i siarad lan pan na fydd eich hawliau’n cael eu bodloni
★ CHI’N ARWAIN Y SIARAD: Rydym ni eisiau clywed EICH barn! Bydd trafodaethau yn cael eu harwain gan aelodau ein Cyngor Ieuenctid, a fydd yn gwrando, ac wir yn poeni am eich barn a’ch syniadau.
★ YR YSGUBOR: Bydd digonedd o sefydliadau, ynghyd â gwybodaeth a gweithgareddau i bawb. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd rhan gan fod hwn yn brofiad unwaith mewn oes!
★ CWRDD Â FFRINDIAU NEWYDD: Cyfle i gysylltu â phobl ifanc a grwpiau eraill, sy’n angerddol am wneud Sir Gâr yn lle gwell.

Pam ddylech chi ddod:
★ DYSGU PETHAU CŴL: Cewch ddysgu am hawliau plant, a pham eu bod yn bwysig.
★ CAEL EICH YSBRYDOLI: Cewch glywed straeon gan bobl ifanc a sefydliadau sy’n newid ein byd er gwell.
★ GWNEUD FFRINDIAU NEWYDD: Cwrdd â phobl ifanc a sefydliadau anhygoel eraill sy’n credu ynoch chi.
★ TEIMLO WEDI’CH GRYMUSO: Cael syniadau ar sut y gallwch CHI wneud gwahaniaeth go iawn yn eich cymuned.

Sut i fod yn rhan o’r hwyl:
Os ydych chi’n ysgol, neu’n rhan o grŵp anhygoel, yn gweithio gyda phobl ifanc 11-18 oed, rydyn ni am i CHI ymuno yn yr hwyl! Dyma’ch cyfle i ddisgleirio, gwneud ffrindiau newydd, a dysgu sut i gael eich grymuso drwy hawliau plant.

★★★ CADWCH Y DYDDIAD ★★★
Gwnewch nodyn o 25 Hydref, 2023 ar calendr. Gobeithio gwelwn ni chi yno!

“Nid cynhadledd yn unig yw “HAWLIAU GYDA’N GILYDD: Dathlu Hawliau Plant”; mae’n lle i gael amser da, gwneud ffrindiau a bod yn rhan o rywbeth MAWR. Gyda’n gilydd, gallwn wneud yn siŵr bod hawliau plant yn cael eu cydnabod a’u dathlu!

Cadwch lygad mâs am fwy o ddiweddariadau, yn fyw ar #HAWLIAUGYDANGILYDD ar y cyfryngau cymdeithasol, ac ar ein gwefan – Rydym yn cyfri’r dyddiau tan ddiwrnod epig o hwyl, dysgu, a gwneud Sir Gâr yn lle gwell; un cam ar y tro!

Erthygl gan Tom

Grwp Rheoli

Mae Gweithwyr Ieuenctid Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid Sir Gâr yn sefydlu grŵp newydd ar gyfer pobl ifanc sydd â rhywbeth i’w ddweud am addysg a dysgu. Bydd y grŵp yn gweithredu fel Grŵp Rheoli Pobl Ifanc, gyda’r prif bwrpas o weithio gyda rheolwyr a’r rheiny sy’n gwneud penderfyniadau o Adran Addysg a Gwasanaethau Plant Cynghorau Sir Gâr, i gynrychioli barn pobl ifanc.

BOD YN HAPUS, DIOGEL A CHYRRAEDD EU LLAWN BOTENSIAL
Gyda chymorth a hyfforddiant gan Weithwyr Ieuenctid, bydd aelodau’r Grŵp Rheoli yn gallu lleisio’u barn am addysg a’r cyfleoedd sydd ar gael i bob dysgwr yn Sir Gâr. Rydym yn awyddus i archwilio beth all gael ei wneud i helpu dysgwyr fod yn hapus, diogel ac i gyflawni eu potensial personol, cymdeithasol ac addysgiadol.

Y RHAI SY’N GWNEUD Y PENDERFYNIADAU
Mae Adran Addysg a Gwasanaethau Plant Sir Gâr wedi bod yn gweithio tuag sicrhau lle canolog i Blant a Phobl Ifanc ym mhopeth maen nhw’n eu gwneud, gyda llawer o’i gwaith yn cael ei ategu gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae hi’n cryfhau ei hymrwymiad i wrando ar lais Pobl Ifanc drwy ddatblygu’r grŵp newydd hwn a fydd yn rhoi adborth, gwerthuso, a dylanwadu ar waith yr Adran.

Mae gan yr Adran flaenoriaethau clir sy’n canolbwyntio ar bedair thema allweddol:
★ Dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau
★ Unigolion iach, hyderus, sy’n barod i fyw eu bywydau i’r eithaf fel dinasyddion gwerthfawr cymdeithas
★ Cyfranwyr mentrus, creadigol, sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
★ Dinasyddion moesol, gwybodus Cymru a’r byd

CYFARFOD
Rydym yn gobeithio cynnal y cyfarfod cyntaf ym mis Medi 2022. Bydd y prosiect yn gymysgedd o gyfarfodydd wyneb yn wyneb ac ar-lein, gan gynnwys arhosiad preswyl (aros dros nos) i ddod i adnabod eich gilydd, dysgu am y prosiect, cael hyfforddiant, cael hwyl a chymryd rhan mewn gweithgareddau tîm.

Bydd dau gyfarfod gyda rheolwyr sy’n gwneud penderfyniadau ar Addysg yn Sir Gâr, fydd yn digwydd yn ystod hanner tymor ac unwaith yn ystod amser Ysgol. Cliciwch yma i weld RHAGLEN ddrafft o pryd allem gwrdd.

Byddwn yn talu’r holl gostau (e.e bwyd, aros dros nos, cyfarfodydd, gweithgareddau ac ati i gyd heb gynnwys trafnidiaeth) i gynnal y prosiect fel na fydd angen ichi dalu am unrhyw beth sydd ei angen.

I’W GADARNHAU GYDAG AELODAU’R GRŴP.
Rydym yn chwilio am bobl ifanc 14, 15 ac 16 oed (Blynyddoedd 9,10 ac 11) sy’n mynd i’r ysgol yn Sir Gâr ac sydd am wneud gwahaniaeth.

Bydd pob aelod o’r grŵp yn;
★ gallu cynrychioli llais a barn pobl ifanc i wella gwasanaethau
★ cael cefnogaeth gan Weithwyr Ieuenctid yn ystod y prosiect
★ meithrin sgiliau a phrofiadau newydd
★ cael cyfleoedd i gyfarfod a gweithio ochr yn ochr â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau
★ cymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog, tîm a phreswyl
★ cael eu barn wedi’i chlywed a helpu dylanwadu ar y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud ar addysg a dysgu yn Sir Gâr.
★ cael cyfle i ennill tystysgrif wirfoddoli genedlaethol
★ cael taleb anrheg fel diolch am eich amser, gwaith caled a’ch ymrwymiad

CWRDD Â’R STAFF
Mae dau aelod o Staff Gwasanaethau Cefnogi Ieuenctid Sir Gâr yn arwain y Prosiect hwn, sef Sarah a Heulwen.

Profile photograph of Sarah Powell, Carmarthenshire Youth Support Services
Sarah Powell
Profile photograph of Heulwen O'Callaghan, Carmarthenshire Youth Support Services
Heulwen O’Callaghan

MWY O WYBODAETH
Am fwy o wybodaeth neu i gymryd rhan cysylltwch â Sarah, Uwch Swyddog Cyfranogiad a Hawliau Plant ar:
Ebost: SJPowell@sirgar.gov.uk
Ffôn neu Whatsapp: 07748 154 672
Negesydd: www.facebook.com

Grŵp Rheoli Pobl Ifanc

Dyma ein rhaglen ddrafft, mae dyddiadau yn debygol o newid ac mae angen trafod a phenderfynu ar leoliadau… mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn ei wneud fel grŵp ar y cwrs preswyl.

★ Mis Awst i Fedi Cysylltu a chyfarfod â phobl ifanc sydd â diddordeb
★ Dydd Iau 8fed Medi 2022 Sesiwn Sefydlu a DatblyguCyfarfod Wyneb yn Wyneb
5:00yh – 6:30yh. 
★ Dydd Sadwrn 17
Dydd Sul 18fed Medi 2022    
Penwythnos Preswyl Hyfforddi ac Adeiladu Tîm10:00yb Dydd Sadwrn
hyd at 4:00yh Dydd Sul
Pentywyn
★ Dydd Mercher 19eg Hydref 2022 Cyfarfod Adborth a DatblyguCyfarfod Wyneb yn Wyneb
5:00yh – 7.00yh
★ Dydd Mercher 2il Tachwedd 2022Cyfarfod Grŵp Rheoli Pobl Ifanc gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadauCyfarfod Wyneb yn Wyneb
10:00yb – 4:00yh
★ Dydd Mercher 16eg Tachwedd 2022Cyfarfod Adborth a Datblygu
Cyfarfod Ar-lein
am 5:00yh
★ Dydd Sadwrn 3ydd Rhagfyr 2022Diwrnod Datblygu – Paratoi ar gyfer Cyfarfod Rheoli Pobl IfancCyfarfod Wyneb yn Wyneb
9:30yh – 1:30yp
★ W/C 12fed Rhagfyr 2022Cyfarfod Grŵp Rheoli Pobl Ifanc gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadauCyfarfod Wyneb yn Wyneb
10:00yb – 1:30yh
Neuadd y Sir
★ Dydd Sadwrn 7fed Ionawr 2023Cyfarfod Adborth, Gwerthuso’r Broses a DiolchiadauCyfarfod Wyneb yn Wyneb
10:00yb – 4:00yh

Ble i gael eich cynyrchion am ddim

ARDAL DYFFRYN AMAN

  • Banc Bwyd Cwmaman
  • Banc Bwyd Rhydaman, Y Llusern
  • Canolfan Gymuned Cwmaman
  • Canolfan Teulu Betws
  • Canolfan Teulu Garnant
  • Clwb Ieuenctid Cwmaman, Glanamman
  • Clwb Ieuenctid Llandybie
  • Clwb Ieuenctid Tycroes
  • Homestart Cymru, Rhydaman
  • Hwb, Dre Rhydaman
  • Llu Cadetiaid Byddin Dyfed a Morgannwg, Rhydamman
  • Prosiect Ieuenctid Streets, Rhydaman

❤❤❤

ARDAL CAERFYRDDIN

  • Banc Bwyd Hendy-gwyn
  • Bowlio Xcel, Tre Ioan
  • Canolfan Teulu Tŷ Hapus
  • Canolfan Teulu Tŷ Ni
  • Fferyllfa Evans, San Clear (ddwy siop)
  • Hwb (Hen adeilad Debenhams)
  • Llu Cadetiaid Byddin Dyfed a Morgannwg, Dre
  • Llu Cadetiaid Byddin Dyfed a Morgannwg, Sanclêr
  • Love Your Body, Canol y Dref
  • Meidrim, Toiledau Cyhoeddus
  • Partneriaeth Diogelwch Dŵr Sir Gaerfyrddin
  • Prosiect Ieuenctid Dr’M’z, Dre Caerfyrddin
  • Swyddfa Bost Bancyfelin
  • The Bodyshop, Dre Caerfyrddin
  • Yr Atom, Dre Caerfyrddin

❤❤❤

ARDAL GWENDRAETH

  • Bobol Bach, Trimsaran
  • Canolfan Teulu Tumble
  • Clwb Ieuenctid Trimsaran
  • Canolfan y Dywysoges Gwenllian, Cydweli
  • Llu Cadetiaid Byddin Dyfed a Morgannwg, Cross hands
  • Llu Cadetiaid Byddin Dyfed a Morgannwg, Trimsaran

❤❤❤

ARDAL LLANELLI

  • Banc Bwyd Cydweli
  • Canolfan Plant Felinfoel
  • Canolfan Plant Llwynhendy
  • Canolfan Teulu Porth Tywyn
  • Canolfan Teulu Morfa
  • CASM, Llanelli*
  • Clwb Ieuenctid Llangennech
  • Clwb Ieuenctid Porth Tywyn
  • CYCA Llanelli
  • Cyngor Gwledig Llanelli
  • Dechrau’n Deg, Morfa*
  • Hwb, Dre Llanelli
  • Llu Cadetiaid Byddin Dyfed a Morgannwg, Dre Llanelli
  • Llu Cadetiaid Byddin Dyfed a Morgannwg, Porth Tywyn
  • Prosiect Ieuenctid Bwlch, Morfa
  • Siop Gymunedol Stebonheath
  • The Wallich Tai â Chefnogaeth*
  • The Wallich Prosiect Allgymorth Cymunedol*
  • Tŷ Enfys, Llwynhendy

❤❤❤

DYFFRYN TYWI

  • Neuadd Gymuned Trap, Trap
  • Canolfan Ieuenctid a Chymuned Llanymddyfri
  • Hyb Bwyd Llandeilo, Ysgol Gynradd
  • The Hangout, Llandeilo
  • Y Pantri Glas, Llandeilo

❤❤❤

DYFFRYN TEIFI

  • Caffi Emly/Teifi Chips, Castellnewydd Emlyn
  • Canolfan Gymunedol Hen Ysgol Llanybydder
  • Cynolfan Padlwyr Llandysul

❤❤❤
Mae cynhyrchion ar gael am DDIM :
Drwy Staff Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid (Gweithwyr Ieuenctid)
Drwy Thîm Gadael Gofal Sir Gaerfyrddin (Cynghorwyr Personol) Cyngor Sir Caerfyrddin
Yn pob Ysgol Gynradd, Uwchradd ac Arbennig yn Sir Gaerfyrddin
Yn pob Campws Coleg Sir Gâr a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Sir Gaerfyrddin

*AR GYFER AELODAU NEU GYSYLLTIADAU YN UNIG
GALL RHAI PROSIECTAU/LLEOLIADAU FOD AR GAU NEU FYNEDIAD CYFYNEDIG OHERWYDD COVID-19