Mae Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn falch iawn i gyhoeddi lansiad y balot “Ein Llais, Ein Pleidlais, Ein Dyfodol”, sy’n grymuso’r holl bobl ifanc 11-18 oed sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin i gael dweud ar y materion pwysicaf sy’n effeithio ar eu bywydau.

Sut dechreuodd y cyfan?

Yn ystod tymor yr Hydref, fe wnaethom estyn allan i ysgolion uwchradd, gan ofyn iddynt rannu’r ddau bwnc/fater pwysicaf i’w myfyrwyr. Yna, ym mis Tachwedd, fe wnaethom gynnal digwyddiad ymgynghori lle cyflwynodd dau gynrychiolydd o bob ysgol eu cynigion. Cymerodd pawb a oedd yn bresennol bleidlais, gan lunio rhestr fer o’r 10 prif bwnc, gan ffurfio ein papur pleidleisio a gyhoeddwyd yn ddiweddar!

O’r 10 pwnc ar y rhestr fer a ddewiswyd yn ofalus gan y bobl ifanc eu hunain, mae pobl ifanc Sir Gaerfyrddin yn cael bwrw eu pleidlais ar yr un mater sydd bwysicaf i’w bywydau. Bydd eu pleidlais yn llywio’r sgwrs am faterion sy’n effeithio’n uniongyrchol ar eu bywydau ac sydd o’r pwys mwyaf iddynt.

Beth nesaf

Bydd canlyniadau’r balot yn cael eu cyhoeddi yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin a gynhelir ym mis Ebrill 2024. Bydd y prif fater yn rhoi cyfle i bobl ifanc weithio ar brosiectau ac ymgyrchoedd i wneud yn siŵr bod eu pleidlais yn cyfrif ac yn gwneud gwahaniaeth ledled Sir Gaerfyrddin.

Dwedwch eich barn!!!

Nod ymgynghoriad Ein Llais, Ein Pleidlais, Ein Dyfodol yw grymuso’r genhedlaeth nesaf gyda’r wybodaeth a’r ymwybyddiaeth sydd eu hangen arnynt i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a gwneud i newid ddigwydd. Drwy gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd hon, rydych yn helpu i lunio dinasyddion cyfrifol a gwybodus a fydd yn chwarae rhan hanfodol yn nyfodol ein cymuned a’n cymdeithas.

Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #EinLlaisEinPleidlaisEinDyfodol i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf o ymgynghoriad ieuenctid mwyaf Sir Gaerfyrddin.