Grŵp Rheoli Pobl Ifanc

Mae Gweithwyr Ieuenctid Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid Sir Gâr yn sefydlu grŵp newydd ar gyfer pobl ifanc sydd â rhywbeth i’w ddweud am addysg a dysgu. Bydd y grŵp yn gweithredu fel Grŵp Rheoli Pobl Ifanc, gyda’r prif bwrpas o weithio gyda rheolwyr a’r rheiny sy’n gwneud penderfyniadau o Adran Addysg a Gwasanaethau Plant Cynghorau Sir Gâr, i gynrychioli barn pobl ifanc.

BOD YN HAPUS, DIOGEL A CHYRRAEDD EU LLAWN BOTENSIAL
Gyda chymorth a hyfforddiant gan Weithwyr Ieuenctid, bydd aelodau’r Grŵp Rheoli yn gallu lleisio’u barn am addysg a’r cyfleoedd sydd ar gael i bob dysgwr yn Sir Gâr. Rydym yn awyddus i archwilio beth all gael ei wneud i helpu dysgwyr fod yn hapus, diogel ac i gyflawni eu potensial personol, cymdeithasol ac addysgiadol.

Y RHAI SY’N GWNEUD Y PENDERFYNIADAU
Mae Adran Addysg a Gwasanaethau Plant Sir Gâr wedi bod yn gweithio tuag sicrhau lle canolog i Blant a Phobl Ifanc ym mhopeth maen nhw’n eu gwneud, gyda llawer o’i gwaith yn cael ei ategu gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae hi’n cryfhau ei hymrwymiad i wrando ar lais Pobl Ifanc drwy ddatblygu’r grŵp newydd hwn a fydd yn rhoi adborth, gwerthuso, a dylanwadu ar waith yr Adran.

Mae gan yr Adran flaenoriaethau clir sy’n canolbwyntio ar bedair thema allweddol:
★ Dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau
★ Unigolion iach, hyderus, sy’n barod i fyw eu bywydau i’r eithaf fel dinasyddion gwerthfawr cymdeithas
★ Cyfranwyr mentrus, creadigol, sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
★ Dinasyddion moesol, gwybodus Cymru a’r byd

CYFARFOD
Rydym yn gobeithio cynnal y cyfarfod cyntaf ym mis Medi 2022. Bydd y prosiect yn gymysgedd o gyfarfodydd wyneb yn wyneb ac ar-lein, gan gynnwys arhosiad preswyl (aros dros nos) i ddod i adnabod eich gilydd, dysgu am y prosiect, cael hyfforddiant, cael hwyl a chymryd rhan mewn gweithgareddau tîm.

Bydd dau gyfarfod gyda rheolwyr sy’n gwneud penderfyniadau ar Addysg yn Sir Gâr, fydd yn digwydd yn ystod hanner tymor ac unwaith yn ystod amser Ysgol. Cliciwch yma i weld RHAGLEN ddrafft o pryd allem gwrdd.

Byddwn yn talu’r holl gostau (e.e bwyd, aros dros nos, cyfarfodydd, gweithgareddau ac ati i gyd heb gynnwys trafnidiaeth) i gynnal y prosiect fel na fydd angen ichi dalu am unrhyw beth sydd ei angen.

I’W GADARNHAU GYDAG AELODAU’R GRŴP.
Rydym yn chwilio am bobl ifanc 14, 15 ac 16 oed (Blynyddoedd 9,10 ac 11) sy’n mynd i’r ysgol yn Sir Gâr ac sydd am wneud gwahaniaeth.

Bydd pob aelod o’r grŵp yn;
★ gallu cynrychioli llais a barn pobl ifanc i wella gwasanaethau
★ cael cefnogaeth gan Weithwyr Ieuenctid yn ystod y prosiect
★ meithrin sgiliau a phrofiadau newydd
★ cael cyfleoedd i gyfarfod a gweithio ochr yn ochr â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau
★ cymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog, tîm a phreswyl
★ cael eu barn wedi’i chlywed a helpu dylanwadu ar y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud ar addysg a dysgu yn Sir Gâr.
★ cael cyfle i ennill tystysgrif wirfoddoli genedlaethol
★ cael taleb anrheg fel diolch am eich amser, gwaith caled a’ch ymrwymiad

CWRDD Â’R STAFF
Mae dau aelod o Staff Gwasanaethau Cefnogi Ieuenctid Sir Gâr yn arwain y Prosiect hwn, sef Sarah a Heulwen.

Profile photograph of Sarah Powell, Carmarthenshire Youth Support Services
Sarah Powell
Profile photograph of Heulwen O'Callaghan, Carmarthenshire Youth Support Services
Heulwen O’Callaghan

MWY O WYBODAETH
Am fwy o wybodaeth neu i gymryd rhan cysylltwch â Sarah, Uwch Swyddog Cyfranogiad a Hawliau Plant ar:
Ebost: SJPowell@sirgar.gov.uk
Ffôn neu Whatsapp: 07748 154 672
Negesydd: www.facebook.com

Chi wedi cael y swydd… Fy mhrofiad o fod ar Banel Cyfweld!

Cefais wybod am y cyfweliadau i staff ar gyfer swydd y Gweithiwr Cymorth Cyfranogiad drwy Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin a phenderfynais y byddwn yn hoffi bod yn rhan o’r broses. Gofynnais am fod yn rhan o’r panel cyfweld a chefais wahoddiad i swyddfeydd Rhydaman lle’r oedd y cyfweliadau’n mynd i gael eu cynnal. Roeddwn yn llawn cyffro i gael cyfle mor wych yn ogystal ag ychydig yn nerfus gan nad ydw i erioed wedi gwneud rhywbeth fel hyn o’r blaen.

Meddyliais am ychydig o gwestiynau ac yna dewisais pa gwestiynau oedd fwyaf addas ar gyfer y cyfweliad a’r rôl hon. Yn ystod y cyfweliad, fe wnes i nodiadau ar bawb a gafodd gyfweliad i wneud yn siŵr eu bod yn berffaith ar gyfer y rôl hon.

Y peth gorau am fod yn rhan o’r cyfweliad hwn yw’r profiad rwyf wedi’i gael. Mae cyfweliadau yn ffactor pwysig iawn mewn bywyd; fodd bynnag, nid ydym yn cael ein haddysgu am gyfweliadau a’r broses gyfweld mewn ysgolion. Dylai hyn fod yn rhywbeth sy’n cael ei ddysgu yn yr ysgol gan y dylai pawb allu cael y cyfle i wneud hyn. Rwyf bellach yn barod i gael cyfweliad yn y dyfodol gan fy mod yn gwybod sut beth yw’r broses gyfweld ac rwyf hefyd yn gallu cyfweld â phobl eraill a allai fy helpu yn y dyfodol.

Ar gyfer y cyfweliad hwn, fe wnes i baratoi trwy gyfarwyddo â’r swydd a’r rhinweddau sydd eu hangen ar gyfer y swydd hon a gwnes i nodiadau am yr hyn y dylwn chwilio amdano wrth gyfweld.

Y cyngor y byddwn yn ei roi i bobl ifanc sy’n cyfweld ag eraill am swydd yw bod yn barod a bod yn hyderus. Bydd angen i chi ddysgu am y swydd rydych chi’n cyfweld ar ei chyfer yn ogystal â gwneud rhai nodiadau ar beth yw’r pethau pwysicaf rydych chi’n chwilio amdanyn nhw yn ystod y cyfweliad. Mae bod yn barod hefyd yn bwysig i berson ifanc sy’n paratoi i gael ei gyfweld.

Roedd yn llawer anoddach cyfweld drwy Teams gan nad yw’r un profiad â chyfweliad arferol mewn gwirionedd. Mae’n llawer anoddach gweld beth yw natur y person mewn gwirionedd a pha mor hyderus ydyw wrth siarad o flaen pobl o dan bwysau.

Cefais fy nghynnwys yn y broses gyfweld gyfan. Ar ôl y cyfweliadau, edrychais dros unrhyw nodiadau yr oeddwn wedi’u gwneud yn ystod y cyfweliadau a dewis pa berson oedd fwyaf addas ar gyfer y rôl hon.

Roeddwn i eisiau bod yn rhan o’r broses gyfweld gan fy mod am gael rhywfaint o brofiad o gyfweliadau yn ogystal â gweld sut beth yw cyfweliad. Roedd bod yn rhan o’r panel cyfweld yn ddiddorol iawn ac yn ddefnyddiol ar gyfer y dyfodol a byddwn yn argymell unrhyw un sy’n cael y cyfle i wneud hyn.

Erthygl a ysgrifennwyd gan
Olivia

SENEDD IEUENCTID Y DERNAS UNEDIG… BETH NESAF!

Gwnaeth Arwen, Aelod Sir Gaerfyrddin o’r Senedd Ieuenctid, gwrdd â holl Aelodau eraill y Senedd Ieuenctid i drafod symud ymlaen â’u hymgyrchoedd cenedlaethol a ddeilliodd o bleidlais Make Your Mark 2020, sef;
Llygredd Plastig
● Lleihau Ffioedd Prifysgolion
● Iechyd Meddwl a Llesiant


Ar ddiwedd mis Mawrth mynychodd Aelodau’r Senedd Ieuenctid ddigwyddiad pedair cenedl o’r enw ‘Making a Bigger Mark’ er mwyn clywed gan Gyfeillion y Ddaear, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a Young Minds, yng ngoleuni’r 3 ymgyrch genedlaethol.

Y 3 mater lleol pennaf ar gyfer pobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin o’r bleidlais Make Your Mark yw:
● Dileu digartrefedd
Mynediad at hyfforddiant a swyddi
Rhoi terfyn ar drais domestig

PRIF FFOCWS

Rydym wedi trafod y problemau lleol a chenedlaethol yn ein cyfarfod misol, a gwnaethom bleidleisio i weithio ar a i fod ein prif ffocws:

➜ CENEDLAETHOL – . Rhoi terfyn ar lygredd plastig

Mae’r holl faterion eleni yn bwysig dros ben. Eleni, rydym yn gobeithio cymryd camau i fynd i’r afael â nhw i gyd. Mae llygredd plastig yn un o’r ffactorau mwyaf sy’n effeithio arnom ni i gyd ar gyfer y dyfodol. Mae microblastigau ym mhobman o fynydd Everest i’r afon Tywi.

➜ LLEOL – Rhoi terfyn ar drais domestig

Mae rhoi terfyn ar drais domestig yn bwnc sy’n agos iawn at galonnau nifer. Mae’n cael effaith ar y bobl sy’n dioddef ohono am weddill ein bywydau.  Wedi i mi fod y sefyllfa honno, mae gadael y broblem yn y gorffennol yn dal i fod yn anodd. Mae gennyf obeithion mawr ar gyfer eleni ac i weld y newid sydd ei angen arnom.

Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi unwaith y byddwn wedi penderfynu pa waith y byddwn yn ei wneud i fynd i’r afael â’r materion hyn. Os hoffech gymryd rhan, yna cysylltwch â ni neu os hoffech i ni wybod eich barn ar unrhyw un o’r materion hyn, gadewch sylw isod neu cysylltwch â ni drwy unrhyw un o’n cyfryngau cymdeithasol – Facebook, Twitter neu Instagram.

ESBONIAD O’R ETHOLIADAU

ESBONIO OEDRANNAU PLEIDLEISIO

Nid yw pwerau pleidleisio newydd pobl ifanc yng Nghymru yn ymestyn i Etholiad Cyffredinol y DU ac etholiadau eraill gan fod yn rhaid i chi fod yn 18 oed i bleidleisio mewn etholiadau cyffredinol. Yng Nghymru  

YN 14 OED (neu’n hŷn) GALLWCH;
Cofrestru i Bleidleisio
(Mae’n rhaid i chi gofrestru i bleidleisio ond yn anffodus, bydd yn rhaid i chi aros ychydig o amser i ddefnyddio’ch pleidlais)

YN 16 OED (neu’n hŷn) GALLWCH;
Pleidleisio yn Etholiadau’r Senedd

YN 18 OED (neu’n hŷn) GALLWCH;
Pleidleisio yn Etholiadau Llywodraeth Leol
Pleidleisio yn Etholiadau Cyffredinol y DU, a;
Pleidleisio yn Etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu

ESBONIAD O’R ETHOLIADAU

ETHOLIADAU’R SENEDD – Mae gan bob person 16 oed a hŷn ddwy bleidlais; Mae’r bleidlais gyntaf ar gyfer Aelod Etholaethol (sy’n cynrychioli’r ardal rydych chi’n byw ynddi) ac mae’r ail bleidlais ar gyfer ethol Aelod Rhanbarthol (sy’n cynrychioli rhannau o Gymru). Bydd pobl yng Nghymru yn pleidleisio i ddewis pwy fydd y 60 Aelod o’r Senedd neu AS am hyd at bum mlynedd

ETHOLIADAU LLEOL bydd pobl 18 oed a hŷn ledled Sir Gaerfyrddin yn pleidleisio o leiaf bob 4 blynedd mewn etholiadau cynghorau tref a chymuned lleol ac etholiadau Cyngor Sir Caerfyrddin.

ETHOLIAD CYFFREDINOL mae pobl 18 oed a hŷn ym mhob rhan o’r DU yn dewis eu Haelod Seneddol neu AS. Bydd y person hwn yn cynrychioli ardal leol (etholaeth) yn Nhŷ’r Cyffredin am hyd at bum mlynedd.

ETHOLIADAU’R COMISIYNYDD HEDDLU A THROSEDDU mae gan bobl 18 oed a hŷn o ardal Dyfed Powys gyfle i bleidleisio am Gomisiynydd Heddlu a Throseddu sy’n cael ei ethol i sicrhau bod yr heddlu’n cael ei redeg yn gywir.

AM FWY O WYBODAETH

Edrychwch ar y fideos a wnaed gan y Senedd!

I gael rhagor o wybodaeth, ewch ar y dudalen wybodaeth Etholiadau a Phleidleisio ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin neu cysylltwch â’r Gwasanaethau Etholiadol drwy ffonio 01267 228889

I ddefnyddio’ch PLEIDLAIS yn Etholiadau’r Senedd, mae’n RHAID I CHI GOFRESTRU

PLEIDLAIS 16 YN ETHOLIADAU’R SENEDD – YDYCH CHI WEDI COFRESTRU?

Ar 6 Mai 2021, bydd pobl ifanc 16 ac 17 oed yn gallu pleidleisio am y tro cyntaf yn Etholiadau’r Senedd. Cafodd y newid ei gyflwyno yn Neddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 fel rhan o’r newidiadau mwyaf i’r broses ddemocrataidd yng Nghymru mewn hanner canrif.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i bobl ifanc, oherwydd am y tro cyntaf, bydd gennym lais o ran dewis pwy sy’n ein cynrychioli yn y Senedd nesaf a bydd gennym yr hawl bellach i leisio ein barn am faterion allweddol sy’n effeithio ar ein dyfodol, megis iechyd, addysg a’r economi.

MAE’N RHAID I CHI GOFRESTRU I BLEIDLEISIO !

PWY SY’N GALLU COFRESTRUR?
ŸŸ Mae’n rhaid i chi fod yn 14 oed neu’n hŷn

Mae’n rhaid i chi hefyd fod yn un o’r canlynol:
dinesydd Prydeinig
dinesydd Gwyddelig neu’r UE sy’n byw yn y DU
dinesydd o’r Gymanwlad sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r DU neu aros yn y DU, neu nad oes angen caniatâd arno
dinesydd gwlad arall sy’n byw yng Nghymru neu’r Alban sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r DU neu aros yn y DU, neu nad oes angen caniatâd arno

I ddefnyddio’ch PLEIDLAIS yn Etholiadau’r Senedd, mae’n RHAID I CHI GOFRESTRU