Ymgynghoriad Ieuenctid Sir Gaerfyrddin

Ydych chi’n berson ifanc sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin? Ydych chi’n angerddol am wneud eich cymuned yn lle gwell? Os felly, rydym am glywed gennych!

Mae Ymgynghoriad Ieuenctid Blynyddol Sir Gaerfyrddin “Ein Llais, Ein Pleidlais, Ein Dyfodol” yn gyfle unigryw i bobl ifanc 11-18 oed gael lleisio eu barn ar y materion sydd bwysicaf iddyn nhw. Rydym eisiau clywed gan bobl ifanc o bob cefndir a phrofiad. Bydd eich mewnbwn yn helpu i lunio dyfodol Sir Gâr.

Felly, sut ydyn ni’n dewis ein pynciau?

Ar Dachwedd 24ain, byddwn yn cynnal digwyddiad cyffrous lle bydd cynrychiolwyr ysgolion yn cyflwyno cynigion ac yn trafod y materion sydd bwysicaf iddyn nhw. Yn dilyn y digwyddiad, cynhelir pleidlais i benderfynu ar y 10 pwnc uchaf ar gyfer y papur pleidleisio ymgynghori. Bydd y papurau pleidleisio ar gael ar-lein o fis Ionawr a byddant yn agored i holl bobl ifanc Sir Gaerfyrddin rhwng 11 a 18 oed.

Sut ydyn ni’n pleidleisio?

Mae’r pleidleisio yn agor ar-lein cyn gynted ag y byddwn yn cyhoeddi’r prif gynigion a gyrhaeddodd y papurau pleidleisio!

Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol a’r hashnod #EinLlaisEinPleidlaisEinDyfodol i fod y cyntaf i wybod pan fydd y pleidleisio’n agor ac i gael diweddariadau ar yr ymgynghoriad.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n rhannu gyda’ch ffrindiau i gyd er mwyn iddyn nhw allu cymryd rhan hefyd – dyma’ch cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eich cymuned, felly peidiwch â cholli’r cyfle!

Erthygl gan
Lucas Palenek