Cyflawni Dros 1200 o Oriau Gwirfoddoli

Fel Cynghorwyr Ieuenctid Sir Gaerfyrddin rydym mor falch ein bod wedi cyfrannu dros 1200 o oriau at waith Cyfranogiad a Hawliau Plant ar raddfa leol, ranbarthol a chenedlaethol dros y 12 mis diwethaf. Er mwyn dathlu ein horiau gwirfoddoli, cyflwynodd y Cyng. Cefin Campbell, Aelod y Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig, a Marie Mitchell, Prif Swyddog o Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin (CGGSG), Dystysgrifau Cenedlaethol Gwirfoddolwyr y Mileniwm Cenedlaethol inni, i gydnabod yr amser a gyfrannwyd.

Volunteering Award

Mae CGGSG, Cyngor Sir Caerfyrddin a’r Cyngor Ieuenctid wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth ers 2007 i sicrhau bod pobl ifanc Sir Gaerfyrddin yn derbyn cydnabyddiaeth drwy Gynllun Cydnabod Ieuenctid CGGSG a Chynllun Gwirfoddolwyr y Mileniwm. Ers 2007, mae 92 o Gynghorwyr Ieuenctid wedi cofrestru ar Gynllun Cydnabod Ieuenctid a Gwirfoddolwyr y Mileniwm CGGSG.

Yn ôl Amber Trehane, Cynghorydd Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, sy’n 14 oed ac yn hanu o Borth Tywyn “Ers dod yn aelod o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin rydw i wedi cael llawer o wahanol brofiadau drwy wirfoddoli. Mae gwirfoddoli yn brofiad sy’n talu ar ei ganfed achos mae’n dy ddatblygu di fel cymeriad. Mae’n rhoi cyfoeth o brofiadau i ti, ond hefyd yn dy alluogi di i ennill amrywiaeth o sgiliau, fel gwaith tîm, sydd o fudd iti yn dy fywyd bob dydd, a hefyd wrth iti symud ymlaen i astudio ymhellach a chychwyn gyrfa. Bydden i’n cynghori unrhyw un i wirfoddoli os ydyn nhw’n cael cyfle i wneud hynny, achos dim ond ar ôl gwneud hynny y mae rhywun yn gweld pa mor fuddiol yw’r profiad!”

Am ragor o luniau o’r cyflwyniad ewch i’n instagram

Ar hyd y blynyddoedd, mae Sarah Powell, Uwch Swyddog Cyfranogiad Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin a Fflur Lawlor, Swyddog Gwirfoddoli o CGGSG wedi bod yn cydweithio ac yn gwrando ar ein safbwyntiau er mwyn cydnabod gwaith, amser ac ymrwymiad pobl ifanc Sir Gaerfyrddin yn eu cymunedau lleol o fewn y sir. Rhyngddynt maent wedi datblygu Cynllun Cydnabod Ieuenctid i bobl ifanc 11-14 oed, wedi lobïo GwirVol, menter Gwirfoddoli Ieuenctid Cymru, i ostwng oedran Gwirfoddolwyr y Mileniwm o 16 i 14, ac wedi llwyddo yn hynny o beth. Yn fwyaf diweddar, maent hefyd wedi datblygu tystysgrif 500 awr.

Yn ôl Sarah Powell, Uwch Swyddog Cyfranogiad “Nid yw geiriau’n ddigon i gyfleu fy niolch am holl amser, ymdrech ac ymrwymiad holl aelodau Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin tuag at fy ngwaith a’r Agenda Hawliau Plant yn lleol a chenedlaethol. Hoffwn ychwanegu ein bod yn gwerthfawrogi ac yn trysori eu gwaith gwirfoddol”

TYSTYSGRIF GWIRFODDOLI 500 AWR NEWYDD

Lansiwyd Tystysgrif Gwirfoddoli Ieuenctid 500 awr Sir Gaerfyrddin yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar gyfer 2018, a’n Cadeirydd, Brittany Alsop-Bingham oedd yr unigolyn ifanc cyntaf i’w derbyn. Mae’r dystysgrif yn cydnabod ei hymrwymiad i rannu ei hadnodd mwyaf gwerthfawr – ei hamser – i wneud gwahaniaeth yn ein sir, ac mae ei haelioni wedi cael effaith wirioneddol a pharhaol ar blant a phobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin.

Yn ôl Brittany Alsop-Bingham, “Anrhydedd o’r mwyaf yw cael derbyn Tystysgrif 500 awr Sir Gaerfyrddin. Rwy’n teimlo fy mod wedi ennill nifer o sgiliau wrth wirfoddoli gyda Chyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, ac mae fy rôl fel Cadeirydd wedi cynyddu fy hyder wrth siarad yn gyhoeddus, ac wedi gwella fy sgiliau cyfathrebu. Bydden i’n annog unrhyw un i wirfoddoli”

RYDYM NI’N CYFRIF. RYDYM NI’N GWNEUD GWAHANIAETH
Ffordd o gydnabod yr hyn yr ydym ni wedi’i wneud yw Gwirfoddolwyr y Mileniwm, ac mae’n dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod gan blant a phobl ifanc lais yn Sir Gaerfyrddin. Ceir sawl rheswm i wirfoddoli … dyma ambell un:

  • Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gefnogi achos sydd yn agos at eich calon ac o ddysgu pethau newydd yr un pryd.
  • Datblygu eich profiad a’ch sgiliau a chynyddu eich hyder yr un pryd.
  • Gwneud gwahaniaeth i bobl eraill.
  • Cwrdd â phobl, cael hwyl a bod yn rhan o’ch cymuned.
  • Teimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi, a gwneud gwahaniaeth.

Mae cyfle gwirfoddoli ar gael i bawb, ac os ydych chi’n 11 i 25 oed a bod gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli, neu os ydych eisoes yn gwirfoddoli yn Sir Gaerfyrddin ac am wybod mwy ynglŷn â Chynllun Gwirfoddolwyr y Mileniwm, cysylltwch â Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin drwy fynd i wefan CGGSG, ffonio 01267 245555 neu anfon e-bost i admin@cavs.org.uk

Gwirfoddolwr Ifanc Y Flwyddyn

Young Volunteer Of The Year

Enwebwyd ein Cadeirydd, Brittany, ar gyfer gwobr Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn a dyfarnwyd y wobr iddi yng Ngwobrau Cyflawnwyr Ifanc Radio Sir Gâr 2018. Pwrpas y seremoni wobrwyo eleni oedd cydnabod pobl ifanc ar draws Sir Gaerfyrddin sydd wir yn gwneud gwahaniaeth yn ein cymuned.

Cynhaliwyd y Gwobrau, a noddwyd gan Goleg Sir Gâr, yng Ngwesty Best Western Diplomat ddydd Gwener 19 Hydref 2018.

Pan ofynnwyd iddi sut yr oedd hi’n teimlo ynglŷn ag ennill y wobr, dywedodd Brittany “Rwyf mor hapus o fod wedi ennill y wobr hon, mae’n beth mor anhygoel i ddigwydd”.

Derbyniodd Brittany y wobr hon oherwydd ei blynyddoedd o waith caled gyda Chyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin trwy gwblhau dros 500 o Oriau Gwirfoddoli nôl ym mis Ebrill eleni yn ystod ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Rydym i gyd mor falch o’n Cadeirydd ac rydym yn diolch iddi am ei hymrwymiad, ei hymroddiad a’i brwdfrydedd dros y Cyngor Ieuenctid, ac estynnwn ein llongyfarchiadau iddi ar ennill y wobr hon sy’n fawr ei bri.

Diwrnod Gweithredu

Alisha, 17 from Tycroes is our elected member of the UK Youth Parliament

Alisha, sy’n 17 oed ac o Dŷ-croes yw ein haelod etholedig o Senedd Ieuenctid y DU yn 2017/18. Arweiniodd Alisha ar Bleidlais ‘Make Your Mark’ 2017 yn Sir Gaerfyrddin, sef yr ymgynghoriad ieuenctid mwyaf yn y Deyrnas Unedig gyda 954,766 o bobl ifanc yn cymryd rhan. Gwnaeth Alisha a’i thîm annog 4,635 o bobl ifanc rhwng 11 ac 18 oed ledled Sir Gaerfyrddin i gymryd rhan a phleidleisio ar y materion pwysig sy’n cael effaith ar eu bywydau.

Datgelwyd Canlyniadau Pleidlais Make your Mark (tudalen 30-31) ym mis Hydref a’r canlyniadau yn Sir Gaerfyrddin oedd:

Y 5 canlyniad gorau yn Sir Gaerfyrddin:

  • 727 pleidlais – Cwricwlwm i’n paratoi ar gyfer bywyd
  • 661 pleidlais – Canolfannau Profiad Gwaith i blant rhwng 11 ac 18 oed
  • 605 pleidlais – Diogelu Pobl LGBT+
  • 531 pleidlais – Pleidlais yn 16 oed
  • 496 pleidlais – Addysg ynghylch Cymorth Cyntaf i Bob Person Ifanc

Ymunodd Alisha ag aelodau Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Gwener 17 Tachwedd i ddadlau a phenderfynu ynghylch y mater mwyaf pwysig i ymgyrchu yn ei gylch yn 2018. Roedd Alisha ymhlith y 24 o aelodau oedd yn cynrychioli Cymru yn y digwyddiad.

Y ddwy Ymgyrch Genedlaethol ar gyfer 2017/2018 y pleidleisiwyd drostynt gan Aelodau o Senedd Ieuenctid y DU yn Nadl Tŷ’r Cyffredin ym mis Tachwedd oedd Cwricwlwm i’n paratoi ar gyfer bywyd, a Pleidlais yn 16 oed.

Ar ran y Cyngor Ieuenctid a Senedd Ieuenctid y DU mae Alisha wedi diolch i’r holl bobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin a hwylusodd Pleidlais Make your Mark eleni ac a gymerodd ran ynddi. Dyma’r nifer mwyaf o bobl ifanc i bleidleisio yn Make your Mark ers iddi ddechrau yn 2011.

Dywedodd Alisha mai “bod yn aelod o Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig yw’r peth mwyaf anhygoel sydd wedi digwydd imi fel person ifanc. Mae e nid yn unig wedi rhoi hyder a nerth imi, ond mae e hefyd wedi rhoi cyfleoedd imi gwrdd â phobl o bob cwr o’r Deyrnas Unedig a chlywed eu barn am yr hyn sydd bwysicaf iddynt. Mae’r ymgyrch Pleidlais yn 16 oed yn bwnc arbennig iawn i nifer o bobl ifanc, gan ei fod yn rhoi llais inni a chyfle i helpu i lywio’r penderfyniadau sydd yn cael yr effaith fwyaf arnom. Bydd yn sicrhau bod pobl iau yn cymryd mwy o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, ac yn sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r byd sy’n prysur newid a’r penderfyniadau sy’n gallu cael effaith arnynt.”

She also added “A Curriculum for life is also a very important campaign as we, the younger generation need a curriculum that will prepare us for the busy world ahead of us. I’m very excited to be a part of, and see the work we have ahead of us, ensuring that we continue to provide the younger generation with a true voice.”

Dywedodd hefyd, “Mae Cwricwlwm ar gyfer bywyd hefyd yn ymgyrch bwysig iawn gan fod arnom ni, y genhedlaeth iau, angen cwricwlwm a fydd yn ein paratoi ni ar gyfer y byd prysur sydd o’n blaenau. Rwy’n gyffrous iawn i fod yn rhan o hwn, a gweld y gwaith sydd o’n blaenau, gan sicrhau ein bod yn parhau i roi llais i’r genhedlaeth iau.”

Ddydd Gwener 26 Ionawr, bu Alisha ac aelodau o Senedd Ieuenctid y DU yn Lansiad Swyddogol yr Ymgyrchoedd Cenedlaethol, yn rhan o Ddiwrnod Gweithredu Cenedlaethol. Byddwn ni’n datblygu prosiectau a mentrau, a fydd yn cael eu harwain gan Alisha, i ddarganfod mwy ynghylch safbwyntiau a barn pobl ifanc am y ddau fater cenedlaethol, megis Trafodaethau Cyngor Ysgol, cyfleoedd i Ymgynghori, codi ymwybyddiaeth drwy’r cyfryngau cymdeithasol a gweithio gydag Uwch-reolwyr mewn Addysg ynghylch Diwygio’r Cwricwlwm yng Nghymru.

Hyrwyddwr Cymunedol

Mae Harriet, sef un o’n haelodau, sy’n 16 oed ac sydd wedi dioddef 2017 Sept Harriet Cwmaman Award yn wael o fwlio wedi cael ei llongyfarch unwaith yn rhagor am ei chymeriad cryf a’i dewrder trwy dderbyn Gwobr Gymunedol gan Gyngor Tref Cwmaman.



Roedd Harriet Alsop-Bingham, o’r Garnant wedi dioddef creulondeb gan grŵp o fwlis ers yn 11 oed. Cafodd ei harteithio nes iddi deimlo’n gwbl ddiwerth a dechreuodd hunan-niweidio. Ers derbyn yr help a’r gefnogaeth oedd angen arni’n druenus, mae Harriet wedi brwydro i roi ei bywyd yn ôl ar ben ffordd. Cyflwynwyd Gwobr Gymunedol Cwmaman i Harriet mewn noson wobrwyo, a drefnwyd gan Gyngor Tref Cwmaman ym mis Medi.

Ar ôl derbyn y wobr, dywedodd Harriet “Rydw i’n falch dros ben o gael fy enwebu ac o dderbyn gwobr am yr eildro sef Gwobr Gymunedol Cyngor Tref Cwmaman. Hoffwn ddiolch i Sarah am fy enwebu i ac i bawb a gredodd ynof fi.”

Cafodd Harriet ei chydnabod am y tro cyntaf am ei llwyddiannau drwy ennill Gwobr Plentyn Dewr Radio Sir Gâr 2017 yn ystod yr Haf, a hynny i gydnabod ei chryfder a’i dewrder a’r modd y mae hi wedi brwydro yn ystod anawsterau personol. Mae Harriet wedi dod o hyd i’r dewrder i rannu ei stori ag eraill er mwyn codi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl, ac i annog unrhyw un sy’n dioddef fel y gwnaeth hi i chwilio am help.

LLONGYFARCHIADAU O GYNGOR SIR CAERFYRDDIN

Ddydd Mawrth 22 Awst, roedd Harriet Alsop-Bingham, 16 oed, sy’n aelod o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin ac yn enillydd Gwobr Plentyn Dewr, Arwyr Lleol Radio Sir Gâr 2017, yn bresennol mewn derbyniad yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin gyda’r Cynghorydd Irfon Jones, Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin, Emlyn Dole, Cynghorydd Glynog Davies, Arweinydd y Cyngor a Gareth Morgans, Cyfarwyddwr Dros Dro Addysg a Phlant. Yn y derbyniad cafodd Harriet ganmoliaeth am ei dewrder a’i hagwedd benderfynol, a chyflwynwyd rhodd fach iddi gan y Cynghorydd Irfon Jones i gydnabod ei chyflawniad. Yn ogystal cafodd Harriet gyfle i rannu ei phrofiadau gyda swyddogion ac aelodau etholedig.

Dywedodd y Cynghorydd Dole: “Mae Harriet yn blentyn wirioneddol ddewr ac yn llwyr haeddu’r anrhydedd hwn. Nid yn unig y mae hi wedi brwydro i wynebu ei hanawsterau personol, ond mae hi hefyd wedi sôn amdanynt yn gyhoeddus er mwyn ceisio helpu eraill… Mae’n haeddu’r gydnabyddiaeth hon, sy’n tystio i gryfder ei chymeriad a’i dewrder.”

Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig 2017

Bydd Alisha Gibbons, sy’n 16 oed ac yn gynrychiolydd etholedig Sir Gaerfyrddin 2017 yn Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig, yn treulio tri diwrnod ar gampws prifysgol Lerpwl y penwythnos hwn er mwyn cymryd rhan yng Nghyfarfod Blynyddol Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig.

Alisa, Carmarthenshire’s elected UKYP representative for 2017

Yn ystod y Cyfarfod bydd Alisha, sy’n cynrychioli Sir Gaerfyrddin a Chymru, yn cyflwyno achos cryf dros gynnwys Iechyd Meddwl a mynediad i well gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer pobl ifanc ymhlith y deg prif bwnc cenedlaethol i’w cynnwys ar bapurau pleidleisio ymgyrch ‘Make Your Mark’.

‘Make Your Mark’ yw ymgynghoriad mwyaf y Deyrnas Unedig ar gyfer pobl ifanc, a bydd angen eich cymorth a’ch cefnogaeth arnom i gael cynifer o bobl ifanc â phosibl ar draws Sir Gaerfyrddin a’r Deyrnas Unedig i gymryd rhan a dweud eu dweud ym mhleidlais ‘Make Your Mark’ eleni, a fydd yn cael ei lansio ar 12 Awst 2017.

“Rwy’n teimlo’n frwdfrydig ac yn gyffrous am fynd i Lerpwl a cheisio rhoi iechyd meddwl ar bapurau pleidleisio MYM 2017. Mae iechyd meddwl yn fater sy’n effeithio ar fywydau pobl ifanc o ddydd i ddydd. Rwy’n credu’n gryf bod angen gwella gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc a dylai fod gan bob plentyn a pherson ifanc hawl i gymorth pan fo arnynt ei angen.”

Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i Alisha gyfarfod a gweithio gydag aelodau eraill Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig, sydd rhwng 11 ac 18 oed ac yn dod o bob cwr o’r wlad, i wneud gwahaniaeth ar gyfer pobl ifanc! Bydd Alisha’n cymryd rhan mewn gweithdai a dadleuon i’w pharatoi ar gyfer dadl a phleidlais Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig yn Nhŷ’r Cyffredin ym mis Tachwedd, sydd i benderfynu pa ddau fater o ymgyrch ‘Make Your Mark’ ddylai fod yn rhan o ymgyrchoedd cenedlaethol Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig ar gyfer 2018.

Bydd Aelodau’r Senedd Ieuenctid hefyd yn cael y fraint o wrando ar areithiau gan wleidyddion amlwg yn ogystal â chyfle i gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb. Gallwch gael y diweddaraf am y drafodaeth ar ein cyfrifon Twitter a Facebook, neu defnyddiwch #UKYP17