Gwen Griffiths, aelod o Senedd Ieuenctid y DU ar gyfer Sir Gaerfyrddin, yn ymgyrchu dros ‘Pleidleisio@16’

Yn gynharach eleni, ymunodd Gwen, 17 oed o Ben-bre, sy’n aelod o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin ac yn Swyddog Cyfathrebu etholedig, â bron 300 o aelodau etholedig o Senedd Ieuenctid y DU i lansio ymgyrch am flwyddyn i ehangu’r sgwrs a chasglu barn a safbwyntiau am Pleidleisio@16, sef mater blaenoriaeth Senedd Ieuenctid y DU am y flwyddyn. Roedd yr ymgyrch yn dilyn trafodaeth genedlaethol ynghylch Pleidleisio@16 yr oedd Gwen yn bresennol ynddi yn Nhŷ’r Cyffredin ym mis Tachwedd 2016. 

Diwrnod Gweithredu Cenedlaethol
Ar y Diwrnod Gweithredu Cenedlaethol ym mis Ionawr 2017 bu aelodau o’r Senedd Ieuenctid ledled y DU yn cwrdd â gwleidyddion a wahoddwyd i ymuno â’r ymgyrch i gefnogi gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed.  Trefnodd Gwen, oedd yn arwain grŵp o aelodau o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, i gwrdd ag Aelodau Seneddol lleol, sef Nia Griffiths AS (Llanelli), Simon Hart AS (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) a Jonathan Edwards AS (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) i drafod yr ymgyrch Pleidleisio@16 a chael gwybod am eu cefnogaeth a’u barn mewn perthynas â rhoi’r hawl i bobl ifanc 16 a 17 oed i bleidleisio ym mhob etholiad lleol a chyhoeddus.

Dadleuon Cynghorau Ysgol
Mewn ymateb i’r adborth cadarnhaol a gafwyd gan yr Aelodau Seneddol a chael darlun cliriach o ran lefel y gefnogaeth penderfynodd tîm Senedd Ieuenctid y DU i ymestyn yr ymgyrch drwy hyrwyddo Pleidleisio@16 i gynulleidfa ehangach a threfnu cwrdd ag enwogion lleol i ofyn iddynt am eu barn. Roedd y rhain yn cynnwys trefnu i Gwen gwrdd ag aelodau o dîm rygbi y Scarlets. Mae Gwen a thîm Senedd Ieuenctid y DU hefyd wedi bod yn brysur yn hyrwyddo Pleidleisio@16 ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #Pleidleisio@16 gyda lluniau o bobl sydd wedi datgan eu cefnogaeth yn dal ffrâm luniau bwrpasol, a ddatblygwyd yn benodol i hyrwyddo’r ymgyrch.

Mae Cynghorwyr Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cyfarwyddwr Dros Dro Addysg a Phlant, Penaethiaid Gwasanaeth, uwch-reolwyr ac aelodau o staff y Cyngor eisoes wedi ymrwymo i gefnogi’r ymgyrch ac mae Gwen wedi tynnu lluniau ohonynt. Mae’r rhain yn cynnwys y Cynghorydd Glynog Davies, Gareth Morgans, Stefan Smith, Aeron Rees, Andi Morgan a David Astins.  Dywedodd Gwen “Mae’n wych cwrdd â’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau yn y sir a gweld cymaint o gefnogaeth y mae’r ymgyrch yn ei chael.”
Hefyd mae Gwen yn bwriadu gwella’r presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol ymhellach drwy fynd i ganol tref Caerfyrddin a’r cyffiniau gyda’r ffrâm luniau i roi cyfle i aelodau o’r cyhoedd gymryd rhan ac ymrwymo i gefnogi ymgyrch Pleidleisio@16. 

Cyflwyno cynnig i’r Cyngor
Yn ddiweddar cyfarfu Gwen â’r Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant, i weithio gydag ef i greu cynnig y mae’r Cynghorydd Davies wedi cytuno i’w roi gerbron y Cyngor Llawn ar 18 Hydref 2017 i gael dadl ynghylch y cynnig ac yna’n bwrw pleidlais i weld a ydynt yn cefnogi rhoi’r hawl i bobl ifanc 16 a 17 oed i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus lleol a chenedlaethol.   Mae’n gyflawniad gwych i Gwen, gan mai hi yw’r person ifanc cyntaf i roi cynnig gerbron y Cyngor Llawn.

Ymgyrch ar y Cyfryngau Cymdeithasol
Mae Gwen wedi bod yn brysur yn casglu barn a safbwyntiau pobl ifanc ar yr ymgyrch ac yn ystod yr wythnosau nesaf bydd yn cydgysylltu’n agos â’r cynrychiolwyr ysgolion uwchradd sydd newydd eu hethol y mae wedi gofyn iddynt drefnu dadleuon ynghylch Pleidleisio@16 yn eu hysgol erbyn diwedd mis Hydref.  Mae Gwen yn annog pob person ifanc yn Sir Gaerfyrddin i gymryd rhan, er mwyn penderfynu a ydynt yn cefnogi’r ymgyrch.

DEWCH I GYMRYD RHAN!! 
Gallwch gymryd rhan a chefnogi’r ymgyrch drwy rannu eich barn ar-lein #Pleidleisio@16. 

Gwen yn y Senedd Ieuenctid DU 2016

Fe wnaeth ein swyddog cyfarthrebu, Gwen Griffiths, cynrychioli’r sir mewn dadl genedlaethol yn Nhŷ’r Cyffredin ar Tachwedd 11. Roedd Gwen wedi cael ei hethol gan gynghorwyr ieuenctid eraill i gynrychioli Sir Gaerfyrddin, yn ymuno â 300 o aelodau Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig rhwng 11 a 18 oed.

Yn ystod yr haf, cefnogodd Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yr ymgynghoriad mwyaf ag ieuenctid y Deyrnas Unedig, wrth i Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig geisio rhoi llais i filiwn o bobl ifanc ledled y Deyrnas Unedig.

Dychwelodd Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin fwy na 600 o bapurau pleidleisio ar gyfer y digwyddiad a bydd y pum mater pennaf a ddewiswyd yn cael eu trafod.

Bydd pob pwnc yn cael ei gyflwyno gan aelodau rhanbarthol etholedig, a fydd yn amlinellu’r dadleuon o blaid ac yn erbyn y mater sydd dan sylw, cyn i’r holl aelodau gael cyfle i’w drafod.

Ar ôl trafod y pum mater, bydd pob aelod o’r Senedd Ieuenctid yn pleidleisio dros eu prif fater er mwyn penderfynu beth fydd eu hymgyrch genedlaethol yn 2017.

Dywedodd Gwen: “Rwyf wrth fy modd o gael fy ethol yn Aelod o’r Senedd Ieuenctid i gynrychioli pobl ifanc Sir Gaerfyrddin a Chymru ar lefel genedlaethol.

“Rwy’n edrych ymlaen at gael y profiad o fod yn rhan o ddadl yn Nhŷ’r Cyffredin.”