Tîm Gweithredu Eco

Llais i bobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin ar faterion amgylcheddol.

Sefydlwyd y Tîm Eco Gweithredu ym mis Tachwedd 2019 gyda’r prif nod i weithredu fel llais i bobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin gyda’n gwaith yn canolbwyntio ar faterion amgylcheddol.

Rydym wedi bod yn brysur yn cynnal cystadlaethau, yn cyfarfod â gweithwyr proffesiynol ac yn datblygu syniadau newydd. Rydym yn cyfarfod bob mis i drafod, datblygu a chynllunio prosiectau yn y dyfodol. Rydym yn gwahodd gwesteion i’n cyfarfodydd i gael gwell dealltwriaeth o faterion amgylcheddol a gyda’u harbenigedd, gwella ein gwaith.

Mae ein haelodau wedi bod yn rhan o’r prosiect Cerdded Byd-eang (Walk the Global Walk) a chyfrannodd at y Maniffesto Gweithredu Hinsawdd, ac o ganlyniad y sefydlwyd y Grŵp Ymgynghori Gweithredu Hinsawdd i fonitro cynnydd y ddogfen. Roedd aelodau CYC yn cynrychioli ein grŵp yn y cyfarfod hynny naill ai drwy gadeirio neu gymryd rhan yn y drafodaeth.

Gydag aelodau newydd yn ymuno â CYC rydym yn bwriadu datblygu ein syniadau ymhellach a chodi ymwybyddiaeth am faterion amgylcheddol sy’n effeithio ar ein sir. Trwy ein gwaith hoffem dynnu sylw at yr hyn sydd wedi ei wneud hyd yma yn Sir Gaerfyrddin i fynd i’r afael â newid hinsawdd a hyrwyddo llais pobl ifanc ar y mater pwysig hwn.

Credwn fod angen i blant a phobl ifanc newid fel ein bod yn datblygu arferion da a all barhau tra’n oedolion. Mae angen i ni i gyd gymryd rhan a dylem rannu’r un nod i gadw ein hamgylchedd yn rhydd o sbwriel, yn gynaliadwy ac yn eco-gyfeillgar ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol!

SIDU 2018/19

Tom, sy’n 14 oed ac o Llandyfan yw ein haelod etholedig o Senedd Ieuenctid y DU yn 2018/19.


Arweiniodd Tom ar Bleidlais ‘Make Your Mark’ 2018 yn Sir Gaerfyrddin, sef yr ymgynghoriad ieuenctid mwyaf yn y Deyrnas Unedig gyda 954,766 o bobl ifanc yn cymryd rhan. Gwnaeth Tom a’i thîm annog 5,076 o bobl ifanc rhwng 11 ac 18 oed ledled Sir Gaerfyrddin i gymryd rhan a phleidleisio ar y materion pwysig sy’n cael effaith ar eu bywydau.

Datgelwyd Canlyniadau Pleidlais ‘Make your Mark’ (tudalen 30-31) ym mis Hydref a’r canlyniadau yn Sir Gaerfyrddin oedd:

• 1,035 votes – Iechyd Meddwl
• 620 votes – Taclo Digartrefedd
• 599 votes – Cwricwlwm I’n paratoi ni ar gyfer bywyd
• 599 votes – Tâi Cyfartai Gwasanaethau Ieuenctid
• 595 votes – Rhoi diwedd ar drosedd cyllell


Y 5 canlyniad gorau yn Sir Gaerfyrddin:

Ymunodd Tom ag aelodau Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Gwener 9 Tachwedd i ddadlau a phenderfynu ynghylch y mater mwyaf pwysig i ymgyrchu yn ei gylch yn 2018. Roedd Alisha ymhlith y 24 o aelodau oedd yn cynrychioli Cymru yn y digwyddiad.

Y ddwy Ymgyrch Genedlaethol ar gyfer 2018/2019 y pleidleisiwyd drostynt gan Aelodau o Senedd Ieuenctid y DU yn Nadl Tŷ’r Cyffredin ym mis Tachwedd oedd ‘Rhoi diwedd ar drosedd cyllell’ a ‘Pleidlais yn 16 oed’.

Ar ran y Cyngor Ieuenctid a Senedd Ieuenctid y DU mae Tom wedi diolch i’r holl bobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin a hwylusodd Pleidlais Make your Mark eleni ac a gymerodd ran ynddi. Dyma’r nifer mwyaf o bobl ifanc i bleidleisio yn Make your Mark ers iddi ddechrau yn 2011.

Dywedodd Tom mai “bod yn aelod o Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig yw’r peth mwyaf anhygoel sydd wedi digwydd imi fel person ifanc. Mae e nid yn unig wedi rhoi hyder a nerth imi, ond mae e hefyd wedi rhoi cyfleoedd imi gwrdd â phobl o bob cwr o’r Deyrnas Unedig a chlywed eu barn am yr hyn sydd bwysicaf iddynt. Mae’r ymgyrch Pleidlais yn 16 oed yn bwnc arbennig iawn i nifer o bobl ifanc, gan ei fod yn rhoi llais inni a chyfle i helpu i lywio’r penderfyniadau sydd yn cael yr effaith fwyaf arnom. Bydd yn sicrhau bod pobl iau yn cymryd mwy o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, ac yn sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r byd sy’n prysur newid a’r penderfyniadau sy’n gallu cael effaith arnynt.”

Dywedodd ef, “Mae Cwricwlwm ar gyfer bywyd hefyd yn ymgyrch bwysig iawn gan fod arnom ni, y genhedlaeth iau, angen cwricwlwm a fydd yn ein paratoi ni ar gyfer y byd prysur sydd o’n blaenau. Rwy’n gyffrous iawn i fod yn rhan o hwn, a gweld y gwaith sydd o’n blaenau, gan sicrhau ein bod yn parhau i roi llais i’r genhedlaeth iau.”

CISG yn Cyrraedd Brwsel

Cynhadledd i gydnabod hawliau plant oedd Euro Child. Thema’r gynhadledd eleni oedd ‘Mae Hawliau Plant yn Bwysig: Pam mae angen i Ewrop fuddsoddi mewn plant’, a’r nod oedd pwyso a mesur y cynnydd a fu, mynd i’r afael â’r heriau parhaus, rhannu arferion da a dod â safbwyntiau gwahanol ynghyd. Pan gyrhaeddom ym Mrwsel roedd y gynhadledd yn cychwyn a siaradodd amryw o bobl am Euro Child, gan gynnwys Llywydd Euro Child a Brenhines Gwlad Belg. Cawsom ginio croeso wedyn, a chyfle i gwrdd â phobl ifanc eraill oedd ynghlwm wrth waith Euro Child.

Yn ystod ein hamser ym Mrwsel cymrais ran mewn dau weithdy ac un ymweliad astudio. Y gweithdy cyntaf oedd ‘Amddiffyn plant: cyfrannu at ddiogelwch cynaliadwy i blant a theuluoedd ag anableddau’. Yn y gweithdy hwn dangoswyd inni sut beth yw bywyd bob dydd i bobl ag anableddau seicolegol, a’r polisïau gwahanol sydd gan wledydd ynghylch amddiffyn plant. Yr ail weithdy oedd ‘Pa fath o fyd rydym yn ei adael i blant – y capsiwl amser’. Cyflwynwyd hwn gan ddau berson ifanc  a oedd yn aelodau o fforwm ‘Ein Plant’ yn Opatija, Croatia. Yn y gweithdy hwn dysgais y bydd ein ffordd o fyw heddiw yn cael effaith ar fywydau pobl ifanc yfory. Cynhaliwyd yr ymweliad astudio yn ‘Vrienden van het Huizeken: cymdeithas o bobl sy’n byw mewn tlodi’, ac roedd yn ddiddorol tu hwnt inni – roedd yn dŷ lle gallai pobl ddigartref fynd i dreulio rhai oriau yn y prynhawn a chael paned; hefyd roedd dosbarthiadau cymorth i rieni ynglŷn â phethau megis helpu eu plant â gwaith cartref; roedd hyn wedi galluogi mwy o blant i orffen yr ysgol uwchradd ym Mrwsel.

Yn olaf, roedd cynllun i roi cartref i bobl ddigartref am gyfnod o 6-12 mis iddynt ddod o hyd i waith a dod oddi ar y stryd. Cawsom ginio cynhadledd wedyn a disgo i ddilyn er mwyn cwrdd â phobl ifanc o Ewrop gyfan. Ar y diwrnod olaf roedd llyfrgell ddynol, lle’r oedd pobl ifanc ac oedolion yn adrodd eu hanes. ‘Brexit’ oedd pwnc y person cyntaf y gwrandawom arno. Stori oedd hon am yr ymgyrch a sut y byddai’n effeithio ar y Deyrnas Unedig; roedd yn ddiddorol tu hwnt oherwydd cawsom gyfle i glywed barn pobl ifanc o’r Deyrnas Unedig ac o Ewrop benbaladr am y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Y stori olaf a glywsom oedd ‘Fy nheulu hoyw arferol a fi’. Roedd hon yn ymwneud â pherson ifanc o Ogledd Iwerddon oedd yn byw gyda dwy fam; roedd hon yn ddiddorol tu hwnt oherwydd doedd neb arall o’n grŵp yn byw mewn gwlad lle’r oedd priodas hoyw yn gyfreithlon. I grynhoi, gwnaethom fwynhau’r profiad ac roedd sawl agwedd ohono’n ddiddorol, a dysgais gymaint wrtho.

Gan Jessica Rees

Pobl Ifanc yn Cymryd Rhan Mewn Cyfweliadau Staff

Rydym wedi bod yn gweithio gyda Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid a Thîm Cyfranogiad a Hawliau Plant Cyngor Sir Caerfyrddin i roi cyfleoedd i’n haelodau, ac i bobl ifanc eraill yn y dyfodol, fod yn rhan o’r broses o recriwtio staff ar gyfer y gwasanaethau Cymorth Ieuenctid, yn arbennig ar gyfer y rolau hynny sy’n gweithio wyneb yn wyneb gyda phobl ifanc.

Youre hired! involving young people in staff interviews

Rydym yn dod â sgiliau i’r broses gyfweld sy’n wahanol i’r rhai a gynigir gan weithwyr proffesiynol; rydym yn edrych am rinweddau yn yr ymgeisydd na fyddai gweithwyr proffesiynol yn chwilio amdanynt efallai, ac felly gallwn gryfhau’r broses gyfweld.

Dywedodd Amber Treharne, aelod o Ben-bre, fod cymryd rhan yn y cyfweliadau yn “brofiad gwych oedd yn rhoi cipolwg ar y broses gyfweld. Mae’n hollol wych fod y cyngor yn annog pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses. Fel pobl ifanc gallwn gynnig persbectif gwahanol ar rinweddau’r sawl sy’n cael ei gyfweld a sut mae’n ymwneud â phobl o’n grŵp oedran ni. Dyma’r ffordd ymlaen, heb os, a bydden i wrth fy modd yn gweld y Cyngor Sir yn rhoi mwy o gyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn cyfweliadau.”

Mae cael Panel Cyfweld o Bobl Ifanc nid yn unig yn gwneud yn siŵr bod modd inni ddefnyddio ein Hawl i fod yn rhan o benderfyniadau sy’n effeithio arnom, ond mae hefyd yn gallu helpu i wneud yn siŵr bod y Cyngor yn cyflogi’r bobl iawn i weithio gyda phlant a phobl ifanc. Nid yw panel cyfweld o bobl broffesiynol bob amser yn gofyn y cwestiynau y byddai pobl ifanc yn hoffi ateb ar eu cyfer.

Dywedodd Sarah Powell, Uwch-swyddog Cyfranogiad a Hawliau Plant, fod “pobl ifanc yn dda am feddwl am bethau mewn ffordd wahanol ac maen nhw’n gwybod beth maen nhw ei eisiau a beth maen nhw ei angen gan y bobl sy’n gweithio gyda nhw. Mae cael Panel Cyfweld o Bobl Ifanc yn gyfle gwych i’r tîm recriwtio ac i’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan. Mae cael yr ymgeisydd gorau o ganlyniad i gynnwys pobl ifanc yn y broses gyfweld yn gallu helpu i wella canlyniadau plant a phobl ifanc yn ogystal â gwella’r gwasanaethau rydym yn eu darparu”.

Mae llawer o fanteision o gael Panel Cyfweld o Bobl Ifanc (hyperddolen) neu o gael person ifanc i fod yn aelod cyfartal o banel cyfweld proffesiynol. Mae cael y cyfleoedd hyn i roi ein barn yn gwneud inni deimlo’n fwy grymus ac yn arwydd bod gweithwyr proffesiynol yn ein parchu ni a’n safbwyntiau. Hefyd gall gryfhau’r berthynas rhwng gweithwyr proffesiynol a phobl ifanc, gan roi mwy o ffydd i ni bobl ifanc yn y gweithwyr proffesiynol a’u gwasanaethau, gan ein bod yn teimlo eu bod nhw’n gwrando arnom.

Ymgyrch Newydd ar gyfer Iechyd Meddwl #StoriHarriet

Dechreuais ddioddef creulondeb gan grŵp o fwlis yn 11 oed. Ces fy arteithio nes i mi deimlo mor ddiwerth. Dechreuais hunan-niweidio a dirywiodd fy iechyd meddwl. Ers cael y cymorth a’r gefnogaeth roedd eu hangen arnaf yn druenus, rydw i wedi brwydro i gael fy mywyd yn ôl ar ben ffordd a chymryd rheolaeth drosto, ac nawr rwy’n teimlo fy mod yn gallu ymdopi’n well â’m iechyd meddwl. Gydag ychydig o anogaeth a pheth cymorth rydw i wedi dysgu cofio am y rhinweddau da sydd gen i, ac mae hynny wedi fy helpu i ddatblygu fy hunan-barch a’m hyder. Llwyddais yn fy arholiadau ac rydw i wedi dod o hyd i swydd rwy’n ei mwynhau’n arw. Roedd y rhain yn nodau doeddwn i byth yn meddwl y byddwn i’n eu cyflawni.

Rwy’n edrych ymlaen nawr at ddyfodol disglair a chadarnhaol. Gyda’m profiad blaenorol a chymorth gan y Cyngor Ieuenctid a chyfranogiad y tîm hawliau plant rwy’n gyffrous iawn ynghylch lansio ein hymgyrch iechyd meddwl, Stori Harriet, gan fod fy nhaith i fan gwell a hapusach wedi dechrau gyda sgwrs syml.

Sylweddolais fod dechrau sgwrs yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i fywyd rhywun. Rwy’n gofyn i chi gefnogi fy ymgyrch,Stori Harriet, drwy wneud addewid i ddechrau sgwrs oherwydd gallai hynny newid bywyd rhywun. Lawrlwythwch a llofnodi ein haddewid ac yna lanlwytho llun ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #StoriHarriet.

Oedd yr ymgyrch wedi cael ei lansio gan y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg, a llofnodi copi cyntaf Addewid Stori Harriet yn y gynhadledd. Dywedodd: “Mae gan Harriet stori ysbrydoledig iawn i’w hadrodd ac rwyf yn sicr y bydd yn rhoi anogaeth a chymorth i eraill. Rwyf yn llongyfarch Harriet a’r Cyngor Ieuenctid am hoelio sylw ar y pwnc pwysig ac anodd hwn,” dywedodd.”Rwyf yn gobeithio y bydd pobl yn cefnogi ac yn llofnodi addewid Harriet.”

Ces yr ysbrydoliaeth i hyrwyddo materion problemau iechyd meddwl a dechrau #StoriHarriet ar ôl ennill gwobr Plentyn Dewr Radio Sir Gâr 2017 er mwyn cydnabod fy nghryfder, fy newrder a’r modd rydw i wedi brwydro yng nghanol anawsterau personol.

Dros y ddau fis diwethaf rydw i wedi dechrau rhannu fy stori â phobl ifanc eraill ac oedolion fel ei gilydd, i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl gan fod ystadegau diweddar yn dangos bod materion iechyd meddwl yn effeithio ar 1 o bob 5 o bobl yn y Deyrnas Unedig. Rwy’n frwd iawn dros dynnu sylw pobl ifanc at y neges nad yw diwrnod gwael yn golygu bod bywyd yn wael. Os hoffech ddarllen fy stori, cliciwch ar y ddolen StoriHarriet

Lawrlwythwch a llofnodi ein haddewid

Erthygl gan Harriet