Fel Cynghorwyr Ieuenctid Sir Gaerfyrddin rydym mor falch ein bod wedi cyfrannu dros 1200 o oriau at waith Cyfranogiad a Hawliau Plant ar raddfa leol, ranbarthol a chenedlaethol dros y 12 mis diwethaf. Er mwyn dathlu ein horiau gwirfoddoli, cyflwynodd y Cyng. Cefin Campbell, Aelod y Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig, a Marie Mitchell, Prif Swyddog o Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin (CGGSG), Dystysgrifau Cenedlaethol Gwirfoddolwyr y Mileniwm Cenedlaethol inni, i gydnabod yr amser a gyfrannwyd.

Volunteering Award

Mae CGGSG, Cyngor Sir Caerfyrddin a’r Cyngor Ieuenctid wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth ers 2007 i sicrhau bod pobl ifanc Sir Gaerfyrddin yn derbyn cydnabyddiaeth drwy Gynllun Cydnabod Ieuenctid CGGSG a Chynllun Gwirfoddolwyr y Mileniwm. Ers 2007, mae 92 o Gynghorwyr Ieuenctid wedi cofrestru ar Gynllun Cydnabod Ieuenctid a Gwirfoddolwyr y Mileniwm CGGSG.

Yn ôl Amber Trehane, Cynghorydd Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, sy’n 14 oed ac yn hanu o Borth Tywyn “Ers dod yn aelod o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin rydw i wedi cael llawer o wahanol brofiadau drwy wirfoddoli. Mae gwirfoddoli yn brofiad sy’n talu ar ei ganfed achos mae’n dy ddatblygu di fel cymeriad. Mae’n rhoi cyfoeth o brofiadau i ti, ond hefyd yn dy alluogi di i ennill amrywiaeth o sgiliau, fel gwaith tîm, sydd o fudd iti yn dy fywyd bob dydd, a hefyd wrth iti symud ymlaen i astudio ymhellach a chychwyn gyrfa. Bydden i’n cynghori unrhyw un i wirfoddoli os ydyn nhw’n cael cyfle i wneud hynny, achos dim ond ar ôl gwneud hynny y mae rhywun yn gweld pa mor fuddiol yw’r profiad!”

Am ragor o luniau o’r cyflwyniad ewch i’n instagram

Ar hyd y blynyddoedd, mae Sarah Powell, Uwch Swyddog Cyfranogiad Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin a Fflur Lawlor, Swyddog Gwirfoddoli o CGGSG wedi bod yn cydweithio ac yn gwrando ar ein safbwyntiau er mwyn cydnabod gwaith, amser ac ymrwymiad pobl ifanc Sir Gaerfyrddin yn eu cymunedau lleol o fewn y sir. Rhyngddynt maent wedi datblygu Cynllun Cydnabod Ieuenctid i bobl ifanc 11-14 oed, wedi lobïo GwirVol, menter Gwirfoddoli Ieuenctid Cymru, i ostwng oedran Gwirfoddolwyr y Mileniwm o 16 i 14, ac wedi llwyddo yn hynny o beth. Yn fwyaf diweddar, maent hefyd wedi datblygu tystysgrif 500 awr.

Yn ôl Sarah Powell, Uwch Swyddog Cyfranogiad “Nid yw geiriau’n ddigon i gyfleu fy niolch am holl amser, ymdrech ac ymrwymiad holl aelodau Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin tuag at fy ngwaith a’r Agenda Hawliau Plant yn lleol a chenedlaethol. Hoffwn ychwanegu ein bod yn gwerthfawrogi ac yn trysori eu gwaith gwirfoddol”

TYSTYSGRIF GWIRFODDOLI 500 AWR NEWYDD

Lansiwyd Tystysgrif Gwirfoddoli Ieuenctid 500 awr Sir Gaerfyrddin yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar gyfer 2018, a’n Cadeirydd, Brittany Alsop-Bingham oedd yr unigolyn ifanc cyntaf i’w derbyn. Mae’r dystysgrif yn cydnabod ei hymrwymiad i rannu ei hadnodd mwyaf gwerthfawr – ei hamser – i wneud gwahaniaeth yn ein sir, ac mae ei haelioni wedi cael effaith wirioneddol a pharhaol ar blant a phobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin.

Yn ôl Brittany Alsop-Bingham, “Anrhydedd o’r mwyaf yw cael derbyn Tystysgrif 500 awr Sir Gaerfyrddin. Rwy’n teimlo fy mod wedi ennill nifer o sgiliau wrth wirfoddoli gyda Chyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, ac mae fy rôl fel Cadeirydd wedi cynyddu fy hyder wrth siarad yn gyhoeddus, ac wedi gwella fy sgiliau cyfathrebu. Bydden i’n annog unrhyw un i wirfoddoli”

RYDYM NI’N CYFRIF. RYDYM NI’N GWNEUD GWAHANIAETH
Ffordd o gydnabod yr hyn yr ydym ni wedi’i wneud yw Gwirfoddolwyr y Mileniwm, ac mae’n dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod gan blant a phobl ifanc lais yn Sir Gaerfyrddin. Ceir sawl rheswm i wirfoddoli … dyma ambell un:

  • Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gefnogi achos sydd yn agos at eich calon ac o ddysgu pethau newydd yr un pryd.
  • Datblygu eich profiad a’ch sgiliau a chynyddu eich hyder yr un pryd.
  • Gwneud gwahaniaeth i bobl eraill.
  • Cwrdd â phobl, cael hwyl a bod yn rhan o’ch cymuned.
  • Teimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi, a gwneud gwahaniaeth.

Mae cyfle gwirfoddoli ar gael i bawb, ac os ydych chi’n 11 i 25 oed a bod gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli, neu os ydych eisoes yn gwirfoddoli yn Sir Gaerfyrddin ac am wybod mwy ynglŷn â Chynllun Gwirfoddolwyr y Mileniwm, cysylltwch â Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin drwy fynd i wefan CGGSG, ffonio 01267 245555 neu anfon e-bost i admin@cavs.org.uk