Bydd Alisha Gibbons, sy’n 16 oed ac yn gynrychiolydd etholedig Sir Gaerfyrddin 2017 yn Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig, yn treulio tri diwrnod ar gampws prifysgol Lerpwl y penwythnos hwn er mwyn cymryd rhan yng Nghyfarfod Blynyddol Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig.
Yn ystod y Cyfarfod bydd Alisha, sy’n cynrychioli Sir Gaerfyrddin a Chymru, yn cyflwyno achos cryf dros gynnwys Iechyd Meddwl a mynediad i well gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer pobl ifanc ymhlith y deg prif bwnc cenedlaethol i’w cynnwys ar bapurau pleidleisio ymgyrch ‘Make Your Mark’.
‘Make Your Mark’ yw ymgynghoriad mwyaf y Deyrnas Unedig ar gyfer pobl ifanc, a bydd angen eich cymorth a’ch cefnogaeth arnom i gael cynifer o bobl ifanc â phosibl ar draws Sir Gaerfyrddin a’r Deyrnas Unedig i gymryd rhan a dweud eu dweud ym mhleidlais ‘Make Your Mark’ eleni, a fydd yn cael ei lansio ar 12 Awst 2017.
“Rwy’n teimlo’n frwdfrydig ac yn gyffrous am fynd i Lerpwl a cheisio rhoi iechyd meddwl ar bapurau pleidleisio MYM 2017. Mae iechyd meddwl yn fater sy’n effeithio ar fywydau pobl ifanc o ddydd i ddydd. Rwy’n credu’n gryf bod angen gwella gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc a dylai fod gan bob plentyn a pherson ifanc hawl i gymorth pan fo arnynt ei angen.”
Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i Alisha gyfarfod a gweithio gydag aelodau eraill Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig, sydd rhwng 11 ac 18 oed ac yn dod o bob cwr o’r wlad, i wneud gwahaniaeth ar gyfer pobl ifanc! Bydd Alisha’n cymryd rhan mewn gweithdai a dadleuon i’w pharatoi ar gyfer dadl a phleidlais Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig yn Nhŷ’r Cyffredin ym mis Tachwedd, sydd i benderfynu pa ddau fater o ymgyrch ‘Make Your Mark’ ddylai fod yn rhan o ymgyrchoedd cenedlaethol Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig ar gyfer 2018.
Bydd Aelodau’r Senedd Ieuenctid hefyd yn cael y fraint o wrando ar areithiau gan wleidyddion amlwg yn ogystal â chyfle i gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb. Gallwch gael y diweddaraf am y drafodaeth ar ein cyfrifon Twitter a Facebook, neu defnyddiwch #UKYP17