Dechreuais ddioddef creulondeb gan grŵp o fwlis yn 11 oed. Ces fy arteithio nes i mi deimlo mor ddiwerth. Dechreuais hunan-niweidio a dirywiodd fy iechyd meddwl. Ers cael y cymorth a’r gefnogaeth roedd eu hangen arnaf yn druenus, rydw i wedi brwydro i gael fy mywyd yn ôl ar ben ffordd a chymryd rheolaeth drosto, ac nawr rwy’n teimlo fy mod yn gallu ymdopi’n well â’m iechyd meddwl. Gydag ychydig o anogaeth a pheth cymorth rydw i wedi dysgu cofio am y rhinweddau da sydd gen i, ac mae hynny wedi fy helpu i ddatblygu fy hunan-barch a’m hyder. Llwyddais yn fy arholiadau ac rydw i wedi dod o hyd i swydd rwy’n ei mwynhau’n arw. Roedd y rhain yn nodau doeddwn i byth yn meddwl y byddwn i’n eu cyflawni.

Rwy’n edrych ymlaen nawr at ddyfodol disglair a chadarnhaol. Gyda’m profiad blaenorol a chymorth gan y Cyngor Ieuenctid a chyfranogiad y tîm hawliau plant rwy’n gyffrous iawn ynghylch lansio ein hymgyrch iechyd meddwl, Stori Harriet, gan fod fy nhaith i fan gwell a hapusach wedi dechrau gyda sgwrs syml.

Sylweddolais fod dechrau sgwrs yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i fywyd rhywun. Rwy’n gofyn i chi gefnogi fy ymgyrch,Stori Harriet, drwy wneud addewid i ddechrau sgwrs oherwydd gallai hynny newid bywyd rhywun. Lawrlwythwch a llofnodi ein haddewid ac yna lanlwytho llun ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #StoriHarriet.

Oedd yr ymgyrch wedi cael ei lansio gan y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg, a llofnodi copi cyntaf Addewid Stori Harriet yn y gynhadledd. Dywedodd: “Mae gan Harriet stori ysbrydoledig iawn i’w hadrodd ac rwyf yn sicr y bydd yn rhoi anogaeth a chymorth i eraill. Rwyf yn llongyfarch Harriet a’r Cyngor Ieuenctid am hoelio sylw ar y pwnc pwysig ac anodd hwn,” dywedodd.”Rwyf yn gobeithio y bydd pobl yn cefnogi ac yn llofnodi addewid Harriet.”

Ces yr ysbrydoliaeth i hyrwyddo materion problemau iechyd meddwl a dechrau #StoriHarriet ar ôl ennill gwobr Plentyn Dewr Radio Sir Gâr 2017 er mwyn cydnabod fy nghryfder, fy newrder a’r modd rydw i wedi brwydro yng nghanol anawsterau personol.

Dros y ddau fis diwethaf rydw i wedi dechrau rhannu fy stori â phobl ifanc eraill ac oedolion fel ei gilydd, i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl gan fod ystadegau diweddar yn dangos bod materion iechyd meddwl yn effeithio ar 1 o bob 5 o bobl yn y Deyrnas Unedig. Rwy’n frwd iawn dros dynnu sylw pobl ifanc at y neges nad yw diwrnod gwael yn golygu bod bywyd yn wael. Os hoffech ddarllen fy stori, cliciwch ar y ddolen StoriHarriet

Lawrlwythwch a llofnodi ein haddewid

Erthygl gan Harriet