Rydym wedi bod yn gweithio gyda Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid a Thîm Cyfranogiad a Hawliau Plant Cyngor Sir Caerfyrddin i roi cyfleoedd i’n haelodau, ac i bobl ifanc eraill yn y dyfodol, fod yn rhan o’r broses o recriwtio staff ar gyfer y gwasanaethau Cymorth Ieuenctid, yn arbennig ar gyfer y rolau hynny sy’n gweithio wyneb yn wyneb gyda phobl ifanc.
Rydym yn dod â sgiliau i’r broses gyfweld sy’n wahanol i’r rhai a gynigir gan weithwyr proffesiynol; rydym yn edrych am rinweddau yn yr ymgeisydd na fyddai gweithwyr proffesiynol yn chwilio amdanynt efallai, ac felly gallwn gryfhau’r broses gyfweld.
Dywedodd Amber Treharne, aelod o Ben-bre, fod cymryd rhan yn y cyfweliadau yn “brofiad gwych oedd yn rhoi cipolwg ar y broses gyfweld. Mae’n hollol wych fod y cyngor yn annog pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses. Fel pobl ifanc gallwn gynnig persbectif gwahanol ar rinweddau’r sawl sy’n cael ei gyfweld a sut mae’n ymwneud â phobl o’n grŵp oedran ni. Dyma’r ffordd ymlaen, heb os, a bydden i wrth fy modd yn gweld y Cyngor Sir yn rhoi mwy o gyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn cyfweliadau.”
Mae cael Panel Cyfweld o Bobl Ifanc nid yn unig yn gwneud yn siŵr bod modd inni ddefnyddio ein Hawl i fod yn rhan o benderfyniadau sy’n effeithio arnom, ond mae hefyd yn gallu helpu i wneud yn siŵr bod y Cyngor yn cyflogi’r bobl iawn i weithio gyda phlant a phobl ifanc. Nid yw panel cyfweld o bobl broffesiynol bob amser yn gofyn y cwestiynau y byddai pobl ifanc yn hoffi ateb ar eu cyfer.
Dywedodd Sarah Powell, Uwch-swyddog Cyfranogiad a Hawliau Plant, fod “pobl ifanc yn dda am feddwl am bethau mewn ffordd wahanol ac maen nhw’n gwybod beth maen nhw ei eisiau a beth maen nhw ei angen gan y bobl sy’n gweithio gyda nhw. Mae cael Panel Cyfweld o Bobl Ifanc yn gyfle gwych i’r tîm recriwtio ac i’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan. Mae cael yr ymgeisydd gorau o ganlyniad i gynnwys pobl ifanc yn y broses gyfweld yn gallu helpu i wella canlyniadau plant a phobl ifanc yn ogystal â gwella’r gwasanaethau rydym yn eu darparu”.
Mae llawer o fanteision o gael Panel Cyfweld o Bobl Ifanc (hyperddolen) neu o gael person ifanc i fod yn aelod cyfartal o banel cyfweld proffesiynol. Mae cael y cyfleoedd hyn i roi ein barn yn gwneud inni deimlo’n fwy grymus ac yn arwydd bod gweithwyr proffesiynol yn ein parchu ni a’n safbwyntiau. Hefyd gall gryfhau’r berthynas rhwng gweithwyr proffesiynol a phobl ifanc, gan roi mwy o ffydd i ni bobl ifanc yn y gweithwyr proffesiynol a’u gwasanaethau, gan ein bod yn teimlo eu bod nhw’n gwrando arnom.