Cynhadledd i gydnabod hawliau plant oedd Euro Child. Thema’r gynhadledd eleni oedd ‘Mae Hawliau Plant yn Bwysig: Pam mae angen i Ewrop fuddsoddi mewn plant’, a’r nod oedd pwyso a mesur y cynnydd a fu, mynd i’r afael â’r heriau parhaus, rhannu arferion da a dod â safbwyntiau gwahanol ynghyd. Pan gyrhaeddom ym Mrwsel roedd y gynhadledd yn cychwyn a siaradodd amryw o bobl am Euro Child, gan gynnwys Llywydd Euro Child a Brenhines Gwlad Belg. Cawsom ginio croeso wedyn, a chyfle i gwrdd â phobl ifanc eraill oedd ynghlwm wrth waith Euro Child.
Yn ystod ein hamser ym Mrwsel cymrais ran mewn dau weithdy ac un ymweliad astudio. Y gweithdy cyntaf oedd ‘Amddiffyn plant: cyfrannu at ddiogelwch cynaliadwy i blant a theuluoedd ag anableddau’. Yn y gweithdy hwn dangoswyd inni sut beth yw bywyd bob dydd i bobl ag anableddau seicolegol, a’r polisïau gwahanol sydd gan wledydd ynghylch amddiffyn plant. Yr ail weithdy oedd ‘Pa fath o fyd rydym yn ei adael i blant – y capsiwl amser’. Cyflwynwyd hwn gan ddau berson ifanc a oedd yn aelodau o fforwm ‘Ein Plant’ yn Opatija, Croatia. Yn y gweithdy hwn dysgais y bydd ein ffordd o fyw heddiw yn cael effaith ar fywydau pobl ifanc yfory. Cynhaliwyd yr ymweliad astudio yn ‘Vrienden van het Huizeken: cymdeithas o bobl sy’n byw mewn tlodi’, ac roedd yn ddiddorol tu hwnt inni – roedd yn dŷ lle gallai pobl ddigartref fynd i dreulio rhai oriau yn y prynhawn a chael paned; hefyd roedd dosbarthiadau cymorth i rieni ynglŷn â phethau megis helpu eu plant â gwaith cartref; roedd hyn wedi galluogi mwy o blant i orffen yr ysgol uwchradd ym Mrwsel.
Yn olaf, roedd cynllun i roi cartref i bobl ddigartref am gyfnod o 6-12 mis iddynt ddod o hyd i waith a dod oddi ar y stryd. Cawsom ginio cynhadledd wedyn a disgo i ddilyn er mwyn cwrdd â phobl ifanc o Ewrop gyfan. Ar y diwrnod olaf roedd llyfrgell ddynol, lle’r oedd pobl ifanc ac oedolion yn adrodd eu hanes. ‘Brexit’ oedd pwnc y person cyntaf y gwrandawom arno. Stori oedd hon am yr ymgyrch a sut y byddai’n effeithio ar y Deyrnas Unedig; roedd yn ddiddorol tu hwnt oherwydd cawsom gyfle i glywed barn pobl ifanc o’r Deyrnas Unedig ac o Ewrop benbaladr am y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Y stori olaf a glywsom oedd ‘Fy nheulu hoyw arferol a fi’. Roedd hon yn ymwneud â pherson ifanc o Ogledd Iwerddon oedd yn byw gyda dwy fam; roedd hon yn ddiddorol tu hwnt oherwydd doedd neb arall o’n grŵp yn byw mewn gwlad lle’r oedd priodas hoyw yn gyfreithlon. I grynhoi, gwnaethom fwynhau’r profiad ac roedd sawl agwedd ohono’n ddiddorol, a dysgais gymaint wrtho.
Gan Jessica Rees