Llais i bobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin ar faterion amgylcheddol.
Sefydlwyd y Tîm Eco Gweithredu ym mis Tachwedd 2019 gyda’r prif nod i weithredu fel llais i bobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin gyda’n gwaith yn canolbwyntio ar faterion amgylcheddol.
Rydym wedi bod yn brysur yn cynnal cystadlaethau, yn cyfarfod â gweithwyr proffesiynol ac yn datblygu syniadau newydd. Rydym yn cyfarfod bob mis i drafod, datblygu a chynllunio prosiectau yn y dyfodol. Rydym yn gwahodd gwesteion i’n cyfarfodydd i gael gwell dealltwriaeth o faterion amgylcheddol a gyda’u harbenigedd, gwella ein gwaith.
Mae ein haelodau wedi bod yn rhan o’r prosiect Cerdded Byd-eang (Walk the Global Walk) a chyfrannodd at y Maniffesto Gweithredu Hinsawdd, ac o ganlyniad y sefydlwyd y Grŵp Ymgynghori Gweithredu Hinsawdd i fonitro cynnydd y ddogfen. Roedd aelodau CYC yn cynrychioli ein grŵp yn y cyfarfod hynny naill ai drwy gadeirio neu gymryd rhan yn y drafodaeth.
Gydag aelodau newydd yn ymuno â CYC rydym yn bwriadu datblygu ein syniadau ymhellach a chodi ymwybyddiaeth am faterion amgylcheddol sy’n effeithio ar ein sir. Trwy ein gwaith hoffem dynnu sylw at yr hyn sydd wedi ei wneud hyd yma yn Sir Gaerfyrddin i fynd i’r afael â newid hinsawdd a hyrwyddo llais pobl ifanc ar y mater pwysig hwn.
Credwn fod angen i blant a phobl ifanc newid fel ein bod yn datblygu arferion da a all barhau tra’n oedolion. Mae angen i ni i gyd gymryd rhan a dylem rannu’r un nod i gadw ein hamgylchedd yn rhydd o sbwriel, yn gynaliadwy ac yn eco-gyfeillgar ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol!