Etholiadau Mai: Gwnewch yn siwr eich bod yn lleisio’ch barn – rhesymau dros bleidleisio!

DWEUD EICH DWEUD PWY FYDD YN EICH CYNRYCHIOLI CHI A’CH CYMUNED LEOL YN Y SENEDD!

Ar y 5ed o Fai mi fydd etholiadau yn cael ei gynnal ar draws Cymru. Mi fydd etholiad yn cael ei chynnal i ethol 60 aelodau o’r Senedd I Senedd Cymru (Welsh Parliament). Y peth sydd mynd i fod yn gyffrous tro hwn yw bydd hawl i bobl ifanc 16 a 17 a dinasyddion tramor pleidleisio am y tro cyntaf yn etholiad Senedd Cymru. 

Mae’r Etholiad Senedd yn fodd i ddylanwadu ar bwy fydd yn cynrychioli ti a dy gymuned leol yn y Senedd, ym Mae Caerdydd, am y 5 mlynedd nesaf. Mae’n fodd o ddewis pwy fydd yn rheoli’r wlad ac yn gwneud penderfyniadau pwysig sy’n effeithio ar dy fywyd fel iechyd, yr amgylchedd, addysg, diwylliant a’r iaith Gymraeg a llawer mwy. 

Mewn etholiad Senedd bydd gen ti dau bapur pleidleisio un ar gyfer yr etholaeth ac un ar gyfer y rhanbarth. Mae etholaeth yn ardal leol fel Sir ac mae rhanbarth yn ardal fwy. Bydd rhaid ti dewis un ymgeisydd ar gyfer yr etholaeth ac un blaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol ar gyfer y rhanbarth. Yn y diwedd ar ôl yr holl gyfri a chyfrifo bydd gen ti 5 aelod o’r senedd yn cynrychioli (un aelod ar gyfer etholaeth a 4 aelod ar gyfer y rhanbarth).

Ond pam dylid fi pleidleisio?

Mae’n fodd i ddewis cynrychiolwyr bydd yn gwneud penderfyniadau ar faterion sydd o bwys gennyt ti.  

Newid hinsawdd, Cyfiawnder Cymdeithasol I bobl Du, Annibyniaeth I Gymru, arholiadau ac asesiadau.  Mae rhai’n yn faterion ble mae pobl ifanc wedi ymgyrchu yn frwd drosto yn y ddwy flynedd diwethaf, a chredwch neu beidio mae modd wrth bleidleisio gwneud dylanwad syfrdanol i sut mae’r Senedd a’r Llywodraeth yn ymateb. Mae gan Lywodraeth Cymru mwy na £20 biliwn i wario ar iechyd, yr amgylchedd, addysg, diwylliant a’r iaith Gymraeg, tai, ffermio a llawer mwy o faterion. 

Heb bleidleisio ni fyddech gydag unrhyw lais yn pwy fydd yn gwneud y penderfyniadau pwysig yma a pwy fydd yn gwneud ynsiwr bod y penderfyniadau yma yn rhai cywir I Gymru.

Mae angen i wleidyddion gwrando ar farn pobl ifanc.

Mae gwleidyddion rhai weithiau yn defnyddio ffigyrau ar bwy sydd yn troi allan i bleidleisio er mwyn creu maniffestos. Os mae rhyw grŵp oedran penodol fel 65+ yn pleidleisio mewn ffigyrau uchel mi ffydd gwleidyddion yn creu polisïau sy’n plesio nhw fel tocyn bws am ddim. Felly drwy droi allan i bleidleisio fel pobl ifanc gallwn ddylanwadu ar bolisïau’r dyfodol a byddwn yn elwa.

Fel arfer mae mwy o bobl ddim yn pleidleisio na’r bobl sy’n pleidleisio dros yr enillydd.

 Mae’r nifer sy’n troi allan i bleidleisio i etholiadau Senedd wedi bod yn hanesyddol isel (dyw byth wedi mynd dros 50% yn genedlaethol – roedd yn 45% yn 2016). O ganlyniad i hyn mae’r nifer sydd ddim yn pleidleisio yn fwy na faint o bleidleisiau mae’r ymgeisydd sydd yn ennill yn cael neu hyd yn oed pleidleisiau’r ymgeiswyr yn gyfunol. Yn fy ardal (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) fe wnaeth 10,355 pleidleisio dros yr ymgeisydd llwyddiannus ond fe wnaeth 27,867 ddim pleidleisio o gwbl. Mae pob pleidlais yn cyfri.

Mae pobl wedi brwydro dros dy bleidlais di.

 Fe wnaeth ymgyrchwyr o fewn mudiadau fel y bleidlais i fenywod brwydro am eich pleidlais a hyd yn oed cael ei lladd. Fe wnaeth ymgyrchwyr brwydro dros y bleidlais i bobl 16 a 17 hefyd. Fel mater o barch a ffordd o goffau’r ymgyrchwyr pleidleisiwch!

Mae pleidleisio yn bwysig hyd yn oed os wyt ti’n credu na all dy ymgeisydd ti ennill.

 Mae dal yn bwysig i bleidleisio, oherwydd os bydd pawb ddim yn pleidleisio oherwydd ‘maen nhw’n credu bod dim modd i  ymgeisydd nhw ennill’ ni fydden bosib i wneud newid.

Mae yna bethau da gall ddigwydd dros bleidleisio dros rywun sydd ddim yn mynd i ennill, yr un fwyaf trawiadol yw gall yr ymgeisydd sy’n ennill cael ei dylanwadu gan ymgeisydd sydd wedi colli. Er enghraifft, os yw Ymgeisydd A yn cael nifer fawr o bleidleisiau oherwydd ei safiad ar yr Amgylchedd, yna efallai y bydd yr Ymgeisydd B buddugol yn ceisio gwneud mwy ar y mater hwn er mwyn eich perswadio i bleidleisio drostynt y tro nesaf.  

Cofiwch fod chi’n ymchwilio yn drwyadl cyn gwneud pleidlais. A chofiwch fod rhaid cofrestru cyn pleidleisio. Os nad ydych yn barod wedi cofrestru defnyddiwch y gwefan yma, mae’n gyflym iawn ac yn hawdd i’w wneud: https://www.gov.uk/register-to-vote. Mae rhaid chi cofrestru erbyn 19 Ebrill 2021 neu byddwch yn colli eich llais.

Cai Phillips

Cynaliadwyedd

Beth y mae’r Cyngor wedi ei wneud?

Addawodd y Cyngor i leihau deunyddiau plastig untro yn adeiladau a swyddfeydd y Cyngor a gwahardd gwellt a chwpanau plastig. Sir Gaerfyrddin oedd y Cyngor cyntaf yng Nghymru i gyflwyno ceir adrannol trydan tua saith mlynedd yn ôl, ac yn ddiweddar mae wedi sicrhau cyllid ar gyfer gwefrwyr yn dilyn cynnydd yn nifer y ceir trydan sy’n cael eu gwerthu.

Mae gan y Cyngor bolisi o integreiddio technolegau carbon isel a di-garbon yn rhan o brosiectau adeiladu mawr megis ysgolion, lle mae gosodiadau ffotofoltäig a safonau Passivhaus eisoes yn cael eu defnyddio. Hyd yma, mae buddsoddiad o dros £2 filiwn wedi ei wneud mewn dros 200 o brosiectau effeithlonrwydd ynni, gan arbed dros £7 miliwn mewn costau cynnal a 41,000 o dunelli o CO2 drwy gydol oes y technolegau a osodir.

Rhoddodd yr adroddiad natur hefyd sylw i welliannau gwych eraill.

Beth allwn ni ei wneud? (fel pobl ifanc)

Agorwch eich bleindiau a defnyddiwch gymaint o olau naturiol â phosib cyn troi’r golau ymlaen yn y tŷ. Bydd pob un ohonoch yn gallu mwynhau mwy o’r haul. Diffoddwch y golau pan fyddwch yn gadael ystafell.

Tyfwch blanhigion hyd yn oed os mai ond ychydig o botiau sydd gennych o amgylch y tŷ, mae pob dim yn helpu.

Defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus, ceisiwch osgoi prynu cynhyrchion wedi’u lapio mewn plastig a phrynwch fagiau papur yn lle hynny. Rhowch y gorau i brynu poteli dŵr! Prynwch ddillad ail-law pan fo’n bosibl. Dysgwch sgiliau gwnïo sylfaenol i gyweirio tyllau a gwnïo botymau yn ôl. Trawsnewidiwch hen ddillad yn rhai newydd. Er enghraifft, gellir troi ffrog nad ydych chi’n ei gwisgo yn dop a sgert neu ei gwerthu fel y gall rhywun arall gael rhywfaint o ddefnydd ohonynt. Defnyddiwch jariau a photeli gwag at ddibenion arall. Gallwch eu defnyddio i gadw trugareddau. Cadwch fagiau anrheg a bocsys i’w defnyddio yn y dyfodol.

Beth am roi profiadau i bobl yn lle rhoi pethau iddynt, mae prynu bwyd iddynt yn syniad da neu prynwch yn lleol gan fusnesau bach. Defnyddiwch Ecosia. Maent yn buddsoddi eu helw mewn plannu coed, a chânt eu cynnal ar ynni adnewyddadwy 100%. Benthyciwch lyfrau o’r llyfrgell yn lle eu prynu. Yn bwysicach fyth, gallwch annog eraill.

Does dim angen ichi wneud pob un o’r rhain, mae pob peth bach yn helpu. Os byddwch yn gwneud camgymeriad, bydd neb yn eich barnu, dysgu yr ydych yn ei wneud a dyna sy’n bwysig.

Beth all eich ysgol/cymuned ei wneud i fod yn fwy cynaliadwy?

  • Peidio â defnyddio plastig
  • Plannu coed neu greu gardd gymunedol
  • Prynu bin compost i ailddefnyddio gwastraff bwyd
  • Diffodd goleuadau pan nad oes neb yn yr ystafell neu brynu goleuadau sy’n synhwyro golau fel eu bod yn diffodd pan fydd hi’n heulog
  • Prynu poteli y gellir eu hailddefnyddio
  • Rhoi’r gorau i brynu plastigau untro, neu os ydych yn gwneud hynny prynwch blastig wedi’i ailgylchu neu blastig y gellir ei ailgylchu.
  • Cymryd nodiadau ar ffurf ddigidol rhag defnyddio cymaint o bapur. Prynu argraffwyr eco neu fwy effeithlon
  • Buddsoddi mewn paneli solar
  • Defnyddio ynni adnewyddadwy
  • Annog pobl i ddefnyddio ecosia
  • Ailddefnyddio dŵr glaw

Arwen Skinner

Tei eco-gydnaws

Tei wedi’i gynhyrchu o boteli plastig wedi’u hailgylchu

Wrth gael fy ngwisg, sylweddolais nad oedd fersiynau o deis eco-gydnaws ar gael, er bod y rhan fwyaf o’n dillad o bolyester (math o blastig) sef un o’r prif fathau o lygryddion plastig.

Dechreuais ar brosiect ym mis Medi 2019 yn ceisio sicrhau bod pob tei yn fy ysgol wedi’i greu o blastig wedi’i ailgylchu. Fe wnes i ddod o hyd i gwmni a oedd yn creu teis o boteli plastig 2 litr sydd wedi’u harbed rhag eu tirlenwi a’u gwneud yn edau.

Ym mis Rhagfyr 2020 ar ôl y bleidlais ‘Make your Mark’ a’r mater yn ymwneud â Llygredd Plastig. mae’n braf ein bod ni’n gallu cyhoeddi hyn.

Mae hyn wedi cymryd cryn amser wedi i sawl e-bost gael eu hanfon rhwng gwahanol gwmnïau. Bydd teis eco-gydnaws ar gael i’w prynu am bris o £4.65 yn Evans & Wilkins! Er mai £4.50 yw pris tei ysgol arferol, dyma gam enfawr i’r cyfeiriad cywir.

Arwen Skinner

Aelod o’r Senedd Ieuenctid

Yr wyf yn cynrychioli barn pobl ifanc o Sir Gaerfyrddin ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.

Mae Senedd Ieuenctid y DU (UKYP) yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed leisio eu barn mewn ffyrdd creadigol i ennyn newid cymdeithasol. Mae’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau ledled y DU yn defnyddio UKYP fel mecanwaith i ofyn am farn pobl ifanc. Cefais fy ethol y llynedd yn aelod senedd ieuenctid y DU dros Sir Gaerfyrddin. Fy nghyfrifoldeb i yw cyflwyno’r safbwyntiau hyn i’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.

Hyd yn hyn, rwyf wedi e-bostio pob cynrychiolydd lleol yn cyflwyno fy hun a fy rolau i Aelodau’r Senedd ac Aelodau Seneddol lleol. O ganlyniad, rwyf wedi cwrdd â’r canlynol ar-lein, Angela Burns Aelod o’r Senedd dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, Nia Griffith, Aelod Seneddol dros Lanelli, a Lee Walters Aelod o’r Senedd dros Lanelli.

Eleni cynhaliodd Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig y gynhadledd flynyddol ar-lein gyntaf erioed, dyma lle mae pob un o’r 369 aelod o’r senedd ieuenctid yn dod ynghyd i gyflwyno eu cynigion. Eleni, cafwyd llawer o gynigion gwych a oedd yn ymdrin ag ystod eang o bynciau. Cefais drafferth cyflwyno cynnig ar fater mawr yn Sir Gaerfyrddin.

Roedd ystod o bynciau i’w hystyried. Ar ôl trafod gydag aelodau eraill y senedd ieuenctid penderfynais gyflwyno cynhwysiant LGBTQ + mewn ysgolion. Dyma bwnc yr oedd fy ysgol yn ei ystyried ymhlith y rhai nad oedd yn derbyn y sylw priodol. Mae’r cynnig yn gofyn am fwy o gefnogaeth i ddisgyblion ac addysg ar LGBTQ + yn y cwricwlwm.

Bydd y 10 mater gorau ar gyfer y DU gyfan a’r 10 rhifyn lleol gorau yn cael eu rhoi ar y papur pleidleisio blynyddol ‘Make Your Mark’. Yng Nghymru, pleidleisiodd 4,463 o bobl ar-lein er gwaethaf y cyfyngiadau symud. Y materion y pleidleisiwyd drostynt yw:

  • Prifysgol am ddim – Fe ddylen ni fuddsoddi ym mhobl ifanc heddiw trwy ddarparu addysg brifysgol am ddim iddynt. Fel arall bydd pobl ifanc yn ei chael hi’n anodd yn ariannol ac yn methu â chyrraedd eu llawn botensial (Pwnc datganoledig).
  •  Cefnogi Ein Hiechyd Meddwl – Dylid neilltuo mwy o arian i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc. Dylem gael cynnig cymorth iechyd meddwl mewn ysgolion a sicrhau bod athrawon yn gwybod am iechyd meddwl (Pwnc datganoledig).
  •  Gweithredu o ran yr Argyfwng Hinsawdd: Rhoi stop ar Lygredd Plastig – Os nad ydym yn mynd i’r afael â’r sefyllfa heddiw, rhagwelir y bydd pwysau’r gwastraff plastig yn ein cefnforoedd yn fwy na phwysau’r pysgod fydd ynddynt erbyn 2050. Gadewch i ni leihau plastig un defnydd a phlastigion nad ydynt yn hanfodol (pwnc ledled y DU).

Yr adeg hon y llynedd fyddwn i erioed wedi dychmygu’r sefyllfa sydd ohoni heddiw ac y byddwn yn gwneud y cyfan o gysur fy nghartref fy hun!  Rwy’n gobeithio parhau i weithio drwy’r ‘normal newydd’. Rwy’n disgwyl ymlaen at weithio ar ragor o faterion ac yn gobeithio cwrdd â llawer mwy o bobl ifanc ysbrydoledig sy’n gysylltiedig â hwy.

Arwen Skinner

Pleidleisio yn 16 oed

Ym mis Mehefin 2020, gall pobl ifanc 16 a 17 oed yng Nghymru bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol yn unol â Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020. Y tro diwethaf y cafodd yr oedran pleidleisio ei ostwng oedd yn Neddf Cynrychiolaeth y Bobl ym 1969 lle gostyngwyd yr oedran o 21 i 18. Roedd hynny amser maith yn ôl.

Golyga’r bill hwn y bydd gan bobl ifanc 16 a 17 oed yr hawl bellach i leisio eu barn am faterion difrifol sy’n effeithio ar eu dyfodol, megis iechyd, addysg a’r economi.

Mae pobl yn dadlau am ein dyfodol ac mae gennym yr hawl bellach i ddweud ein dweud. Mae etholiad nesaf y Senedd i fod i’w gynnal ddydd Iau 6 Mai 2021 i ethol 60 aelod i’r Senedd.

 Hwn fydd yr etholiad cyntaf lle caniateir i bobl ifanc 16 a 17 oed fwrw pleidlais. Yn etholiadau’r Senedd, mae gan bob pleidleisiwr ddwy bleidlais yn y system aelodau ychwanegol.

Y bleidlais gyntaf yw am ymgeisydd i ddod yn Aelod dros etholaeth y pleidleisiwr, wedi’i ethol drwy system y cyntaf i’r felin. Mae’r ail bleidlais ar gyfer rhestr ymgeiswyr plaid gaeedig ranbarthol.

Rwy’n disgwyl ymlaen yn arw eleni at bleidleisio am y tro cyntaf ac at allu cael dylanwad ar faterion (yn lleol beth bynnag).

Arwen Skinner