
Sawl gwaith y mae rhywun wedi dweud wrthych chi mai pobl ifanc yw’r dyfodol, mai ni, y genhedlaeth nesaf, fydd yn penderfynu’r cyfnod nesaf ac mai ni, yr ieuenctid, yw’r llwybr i’r hyn sydd o’n blaenau?
Mae Senedd Ieuenctid y DU yn llwyr ymwrthod â’r datganiad hwn. Yn rhy aml o lawer, cawn ein disgrifio fel y newid esblygiadol sydd ar ddod ond sy’n amlwg yn methu â chyfrannu tan y “dyfodol” hwnnw.
Mae ein maniffesto newydd, sy’n dwyn yr enw Llunio ein Dyfodol: Heddiw nid Yfory yn neges glir i’r llywodraeth. Os ni yw eich dyfodol, buddsoddwch ynom ni heddiw a byddwch yn elwa yfory.
Adleisiwyd y neges hon ar draws Tŷ’r Cyffredin yn ystod Sesiwn Flynyddol y Senedd Ieuenctid yn ddiweddar lle siaradodd Aelodau o’r Senedd Ieuenctid o bob cwr o’r DU ar y pum dadl a nodwyd fel y rhai pwysicaf.
Siaradais yn y siambr honno am yr angen am raglen gynhwysfawr o lythrennedd gwleidyddol gan ddweud nad yw democratiaeth yn gweithredu ar ddifaterwch, ac yn hytrach mae’n ffynnu drwy ymwybyddiaeth, cyfranogiad a grymuso.
Yn ystod y cyfnod hwn o wrthdaro cynyddol, gelyniaeth wleidyddol ac ansicrwydd mawr, dylai rhaglen fel y Senedd Ieuenctid y mae ei haelodau yn darparu cynrychiolaeth flaenllaw i fwyafrif o bobl ifanc fod yn rhyddhad.
Un o’r prif drafodaethau sy’n cael cryn sylw gan y Senedd Ieuenctid yw gostwng yr oedran pleidleisio i 16 yn y DU; dyma drafodaeth sy’n hollti barn i ddweud y lleiaf.
Mae pobl ifanc eisoes yn cael dweud eu dweud ar bwy i’w ethol i Seneddau Cymru a’r Alban yn ogystal â’u cynghorau lleol, ond nid ydynt yn cael dweud eu dweud ar bwy i’w ethol i San Steffan.
Wrth gael barn fy etholwyr dywedon nhw fod ‘polisïau yn cael eu llunio sy’n effeithio arnom ni – fel pobl ifanc, dylem ni gael dweud ein dweud am ein dyfodol a’n bywydau’.
Ond, dywedodd gwrthwynebydd, ’18 ddylai fod yr oedran safonol ar gyfer pleidleisio, yn seiliedig ar aeddfedrwydd, bod yn agored i ddylanwad a diffyg gwybodaeth gyhoeddus yn gyffredinol’.
Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas Diwygio Etholiadol yn nodi bod ‘perygl gwirioneddol y bydd pobl ifanc 18 oed nad ydynt yn pleidleisio heddiw yn dewis peidio â phleidleisio pan fyddant yn 50 oed hefyd’.
Gyda gwahanol farn ar y mater, ai mwy o eglurder a dealltwriaeth yw’r allwedd i ymestyn yr oedran pleidleisio, neu a fydd y DU yn gwrthod dilyn trefn Cymru a’r Alban?
Erthygl gan
Evie Somers