Ym mis Mehefin, cymerom ni ran mewn digwyddiad ymgynghori a gynhaliwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch datblygiad cyffrous Senedd Ieuenctid newydd Cymru, y cyntaf o’i math.
Trwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, cafodd Cynghorwyr Ieuenctid Sir Gaerfyrddin gyfle i helpu i lunio dyfodol y Senedd Ieuenctid ac ar yr un pryd, dysgu am swyddogaeth Senedd Ieuenctid Cymru a’i phwysigrwydd o ran helpu i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed yn fwy er mwyn helpu i newid materion sydd o bwys i ni.
Yn ystod y gweithdy a gynhaliwyd gan Kelly Harris, Swyddog Ymgysylltu ag Ieuenctid ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru, cawsom gyfle i ddweud ein dweud ynghylch y Senedd Ieuenctid newydd, mynegi a rhannu ein barn a chyflwyno syniadau.
Er nad yw pobl ifanc o dan 18 oed yn gallu pleidleisio mewn etholiadau democrataidd yng Nghymru, bydd Senedd Ieuenctid yn ymgyrchu ac yn dadlau ar eu rhan.
Dywedodd Liam Flynn, Aelod o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin “Rwy’n credu bod sefydlu Senedd Ieuenctid newydd Cymru yn wych oherwydd bydd yn caniatáu i fwy o bobl ifanc o Sir Gaerfyrddin gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ar lefel genedlaethol ac yn rhoi llais i holl bobl ifanc Cymru o ran gwneud penderfyniadau a fydd yn effeithio arnom ni i gyd.”
Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 30 Mehefin 2017 ond os ydych yn dymuno dilyn stori Senedd Ieuenctid newydd Cymru, gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru.