Yn gynharach eleni, ymunodd Gwen, 17 oed o Ben-bre, sy’n aelod o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin ac yn Swyddog Cyfathrebu etholedig, â bron 300 o aelodau etholedig o Senedd Ieuenctid y DU i lansio ymgyrch am flwyddyn i ehangu’r sgwrs a chasglu barn a safbwyntiau am Pleidleisio@16, sef mater blaenoriaeth Senedd Ieuenctid y DU am y flwyddyn. Roedd yr ymgyrch yn dilyn trafodaeth genedlaethol ynghylch Pleidleisio@16 yr oedd Gwen yn bresennol ynddi yn Nhŷ’r Cyffredin ym mis Tachwedd 2016. 

Diwrnod Gweithredu Cenedlaethol
Ar y Diwrnod Gweithredu Cenedlaethol ym mis Ionawr 2017 bu aelodau o’r Senedd Ieuenctid ledled y DU yn cwrdd â gwleidyddion a wahoddwyd i ymuno â’r ymgyrch i gefnogi gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed.  Trefnodd Gwen, oedd yn arwain grŵp o aelodau o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, i gwrdd ag Aelodau Seneddol lleol, sef Nia Griffiths AS (Llanelli), Simon Hart AS (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) a Jonathan Edwards AS (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) i drafod yr ymgyrch Pleidleisio@16 a chael gwybod am eu cefnogaeth a’u barn mewn perthynas â rhoi’r hawl i bobl ifanc 16 a 17 oed i bleidleisio ym mhob etholiad lleol a chyhoeddus.

Dadleuon Cynghorau Ysgol
Mewn ymateb i’r adborth cadarnhaol a gafwyd gan yr Aelodau Seneddol a chael darlun cliriach o ran lefel y gefnogaeth penderfynodd tîm Senedd Ieuenctid y DU i ymestyn yr ymgyrch drwy hyrwyddo Pleidleisio@16 i gynulleidfa ehangach a threfnu cwrdd ag enwogion lleol i ofyn iddynt am eu barn. Roedd y rhain yn cynnwys trefnu i Gwen gwrdd ag aelodau o dîm rygbi y Scarlets. Mae Gwen a thîm Senedd Ieuenctid y DU hefyd wedi bod yn brysur yn hyrwyddo Pleidleisio@16 ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #Pleidleisio@16 gyda lluniau o bobl sydd wedi datgan eu cefnogaeth yn dal ffrâm luniau bwrpasol, a ddatblygwyd yn benodol i hyrwyddo’r ymgyrch.

Mae Cynghorwyr Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cyfarwyddwr Dros Dro Addysg a Phlant, Penaethiaid Gwasanaeth, uwch-reolwyr ac aelodau o staff y Cyngor eisoes wedi ymrwymo i gefnogi’r ymgyrch ac mae Gwen wedi tynnu lluniau ohonynt. Mae’r rhain yn cynnwys y Cynghorydd Glynog Davies, Gareth Morgans, Stefan Smith, Aeron Rees, Andi Morgan a David Astins.  Dywedodd Gwen “Mae’n wych cwrdd â’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau yn y sir a gweld cymaint o gefnogaeth y mae’r ymgyrch yn ei chael.”
Hefyd mae Gwen yn bwriadu gwella’r presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol ymhellach drwy fynd i ganol tref Caerfyrddin a’r cyffiniau gyda’r ffrâm luniau i roi cyfle i aelodau o’r cyhoedd gymryd rhan ac ymrwymo i gefnogi ymgyrch Pleidleisio@16. 

Cyflwyno cynnig i’r Cyngor
Yn ddiweddar cyfarfu Gwen â’r Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant, i weithio gydag ef i greu cynnig y mae’r Cynghorydd Davies wedi cytuno i’w roi gerbron y Cyngor Llawn ar 18 Hydref 2017 i gael dadl ynghylch y cynnig ac yna’n bwrw pleidlais i weld a ydynt yn cefnogi rhoi’r hawl i bobl ifanc 16 a 17 oed i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus lleol a chenedlaethol.   Mae’n gyflawniad gwych i Gwen, gan mai hi yw’r person ifanc cyntaf i roi cynnig gerbron y Cyngor Llawn.

Ymgyrch ar y Cyfryngau Cymdeithasol
Mae Gwen wedi bod yn brysur yn casglu barn a safbwyntiau pobl ifanc ar yr ymgyrch ac yn ystod yr wythnosau nesaf bydd yn cydgysylltu’n agos â’r cynrychiolwyr ysgolion uwchradd sydd newydd eu hethol y mae wedi gofyn iddynt drefnu dadleuon ynghylch Pleidleisio@16 yn eu hysgol erbyn diwedd mis Hydref.  Mae Gwen yn annog pob person ifanc yn Sir Gaerfyrddin i gymryd rhan, er mwyn penderfynu a ydynt yn cefnogi’r ymgyrch.

DEWCH I GYMRYD RHAN!! 
Gallwch gymryd rhan a chefnogi’r ymgyrch drwy rannu eich barn ar-lein #Pleidleisio@16.