Mae eitemau misglwyf am ddim yn cael eu rhoi i ysgolion, colegau a phrosiectau ieuenctid ledled Sir Gaerfyrddin fel rhan o ymgyrch newydd ni i fynd i’r afael â thlodi misglwyf.

Mae blychau yn cynnwys eitemau misglwyf yn cael eu dosbarthu i bob un o’r 97 o ysgolion cynradd a’r 12 o ysgolion uwchradd, yn ogystal â cholegau, grwpiau ieuenctid a sefydliadau trydydd sector. Enw’r prosiect yw #PeriodPovertySirGâr, ac mae’n cael ei arwain gan Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin gyda chefnogaeth gan adran addysg a gwasanaeth ieuenctid y cyngor a chyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae cyfanswm o 177,760 o eitemau misglwyf wedi’u prynu i lenwi’r blychau tlodi misglwyf;

Y nod yw sicrhau nad yw merched yn peidio â chael eu haddysg oherwydd diffyg darpariaeth ddigonol yn ystod eu misglwyf a newid ymagweddau bobl at y misglwyf fel nad yw’n bwnc gwaharddedig ymhellach

Mae posteri a bathodynnau pin wedi’u creu i helpu i gynyddu ymwybyddiaeth, ynghyd ag ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol; ac os yw merched yn gweld y logo #PeriodPovertySirGâr ar ddrws ciwbicl toiled, mae’n golygu fod eitemau am ddim i’w defnyddio yno – dim trafferth, dim ffwdan, a dim cwestiynau.

Dywedodd Amber Treharne, Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, sy’n 15 oed ac yn dod o Borth Tywyn: “”Rwy’n llawn cyffro ynghylch arwain prosiect tlodi misglwyf Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin ochr yn ochr â Freya Sperinck am ei fod yn fater pwysig iawn. Mae’n dorcalonnus clywed storïau am ferched sy’n peidio â chael eu haddysg oherwydd diffyg darpariaeth ddigonol yn ystod eu misglwyf felly mae’n glir bod rhaid gwneud rhywbeth yn ei gylch. Rwy’n gobeithio bydd y prosiect hwn yn gwneud gwahaniaeth yn Sir Gaerfyrddin fel ein bod yn gallu cymryd cam yn agosach at roi terfyn ar dlodi misglwyf unwaith ac am byth.”

Mae’r Cyng. Mair Stephens, Dirprwy Arweinydd y Cyngor, wedi cytuno i fod yn Hyrwyddwr Tlodi Misglwyf Sir Gaerfyrddin.Dywedodd: “Roeddwn wrth fy modd ac yn falch pan ofynnodd y cyngor ieuenctid i mi fod yn Hyrwyddwr Tlodi Misglwyf gan ei fod yn fater difrifol sy’n digwydd ar garreg ein drws ac yn effeithio ar addysg, iechyd ac ansawdd bywyd yn gyffredinol.

“Mae ffigurau’n dangos bod un o bob 10 o ferched rhwng 14 a 21 oed yn y DU yn methu fforddio eitemau misglwyf, sy’n frawychus. Pan ydym yn meddwl am dlodi, rydym yn meddwl am fwyd a thai, ond mae hyn yn bryder dilys, ac mae’r ffaith bod y misglwyf yn parhau i fod yn bwnc gwaharddedig lawer yn golygu bod gofyn am gymorth yn anoddach fyth. Mae’n rhaid i hyn newid, mae angen i ni ddechrau siarad am hyn ac mae angen i ni ddechrau gweithredu. Rwy’n falch iawn o’r gwaith sy’n cael ei wneud gan y cyngor ieuenctid ac yn gobeithio bydd trigolion Sir Gaerfyrddin yn cefnogi’u hymgyrch.”

Cafodd yr ymgyrch ei lansio yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol ni yn Neuadd y Sir. Ewch ati i gynyddu ymwybyddiaeth a dangos eich cefnogaeth drwy ymuno â’r drafodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #PeriodPovertySirGar