Rydym mor falch o’n haelod Harriet Alsop-Bingham sydd wedi ennill Gwobr Plentyn Dewr Radio Sir Gâr 2017 a hynny’n gwbl haeddiannol, i gydnabod ei chryfder a’i dewrder a’r modd y mae hi wedi brwydro yng nghanol anawsterau personol
Enwebwyd Harriet ar gyfer y wobr hon gan Sarah Powell, Uwch Swyddog Cyfranogiad a Hawliau Plant, nid yn unig am ei chyflawniadau personol wrth oresgyn anawsterau a hithau mor ifanc, ond am fod hefyd yn Hyrwyddwr Pobl Ifanc. Dros y 12 mis diwethaf mae Harriet wedi dechrau rhannu ei stori â phobl ifanc eraill ac oedolion fel ei gilydd, i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl.
Meddai Harriet, sy’n 16 oed ac yn dod o’r Garnant, “Rwyf wrth fy modd ac mor ddiolchgar am gael fy enwebu ar gyfer y wobr ‘plentyn dewr’. Nid unig y cefais fy enwebu, rwyf ar ben fy nigon gan fy mod wedi ennill. Rwyf yn gobeithio y bydd ennill y wobr yn codi ymwybyddiaeth o’r modd y gall materion iechyd meddwl effeithio ar fywydau pobl ifanc a bod angen mwy o gymorth. Mae angen i ni ledu’r neges ‘Nid yw diwrnod gwael yn golygu bod bywyd yn wael!”
Dywedodd Sarah Powell fod Harriet “wedi ysbrydoli ac ysgogi ei chwaer fawr i ymgyrchu hefyd trwy fynd i gyfarfodydd a chynadleddau a rhannu eu storïau ac maent hefyd yn rhan annatod o’r Grŵp Iechyd Meddwl Cenedlaethol a gaiff ei redeg gan Cymru Ifanc. Maent yn codi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl sy’n effeithio ar bobl ifanc; yn pwysleisio pwysigrwydd gwrando o ddifrif ar eu profiadau, yn tynnu sylw at yr angen i wella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc yng Nghymru, ac yn lledu’r neges nad ydych ar eich pen eich hun”.
chwanegodd Sarah, “Oherwydd ei brwdfrydedd dros helpu eraill a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill, credaf fod Harriet yn enillydd hynod deilwng”. oEDD Harriet WEDI casglu ei gwobr yn ystod noson Gwobrau Arwyr Lleol Radio Sir Gâr ym Mharc y Scarlets, Llanelli yn gynnar ym mis Gorffennaf 2017.
Mae problemau iechyd meddwl yn effeithio ar 1 o bob 10 plentyn a pherson ifanc (ffynhonnell: Sefydliad Iechyd Meddwl). Mae’r problemau’n cynnwys iselder, gorbryder a hunan-niweidio, ac yn aml, fel yn achos Harriet (Stori Harriet) maent yn digwydd mewn ymateb uniongyrchol i’r hyn sy’n digwydd yn eu bywydau.
Oes angen help arnoch ar frys?
Os yw eich cyflwr meddyliol neu emosiynol yn gwaethygu’n gyflym, neu os ydych yn pryderu am rywun yr ydych yn ei adnabod, mae Meic www.meiccymru.org yn barod i wrando arnoch a’ch cynorthwyo
Gwefan: www.meiccymru.org
RHADFFÔN: 0808 80 23456
SMS (Neges Destun): 84001
E-bost: help@meic.cymruh
Dydych chi ddim ar eich pen eich hun; siaradwch â rhywun y gallwch ymddiried ynddo. Yn aml rhannu problem yw’r cam cyntaf i wella.