Rydym wrth ein boddau! Yn dilyn proses ddethol drwyadl cafodd ei gyhoeddi ein bod ni wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer tair o Wobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru.

Cafodd y Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid cyntaf eu lansio bron i 25 mlynedd yn ôl yng Nghymru er mwyn cydnabod a dathlu prosiectau gwaith ieuenctid rhagorol, gweithwyr ieuenctid a phobl sy’n ymwneud â gwaith ieuenctid ledled Cymru. Rydym yn falch iawn o gael rhannu ein bod ni wedi cael ein henwebu a’n rhoi ar y rhestr fer ar gyfer y categorïau canlynol;

  • Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin – Prosiect Gwaith Ieuenctid Rhagorol: Hybu Hawliau Pobl Ifanc
  • Amber Treharne – Unigolyn Rhagorol: Gwneud Gwahaniaeth
  • Sarah Powell – Unigolyn Rhagorol: Gweithiwr Ieuenctid Rhagorol

Dywedodd Brittany, ein Cadeirydd: “Rwy’n falch iawn o holl aelodau’r Cyngor Ieuenctid am gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Wobr am ein gwaith hybu Hawliau Plant a’n hymdrechion i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu clywed. Gobeithio y bydd cyrraedd y rhestr fer yn golygu gall y Cyngor Ieuenctid hybu’r gwaith ardderchog rydym yn ei wneud ar raddfa ehangach, a bydd mwy o leisiau pobl ifanc yn cael eu clywed. Rwyf wrth fy modd y byddaf yn un o’r bobl ifanc yn y seremoni yng Ngogledd Cymru ar ran y Cyngor Ieuenctid.”

Siaradodd Amber am ei phrofiad o gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Wobr Unigolyn Rhagorol: Gwneud Gwahaniaeth; “Roedd yn gyffrous iawn cael gwybod fy mod wedi cyrraedd y rhestr fer. Brwdfrydedd pobl ifanc eraill sy’n tynnu sylw at faterion pwysig iddynt megis Tlodi Misglwyf, Dysgu Go Iawn ar gyfer Bywyd Go Iawn a Brexit sydd wedi fy annog i gyfarfod â’r rheiny sy’n gwneud penderfyniadau er mwyn gwneud gwahaniaeth. Heb hynny, ni fyddai wedi bod yn bosibl i mi gyflawni cymaint.”

Dywedodd Sarah Powell, Uwch-swyddog Cyfranogiad a Hawliau Plant: “Mae’n bleser mawr cael gwybod fy mod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr. Mae bod yn Weithiwr Ieuenctid am dros 20 mlynedd, a chefnogi pobl ifanc i wneud gwahaniaeth go iawn i’w bywydau eu hunain ac i fywydau pobl eraill yn brofiad pleserus iawn. Rwy’n ddiolchgar iawn o gael cydnabyddiaeth am wneud rhywbeth rwy’n ei garu. Oni bai am waith caled, brwdfrydedd ac ymrwymiad y bobl ifanc, ni fyddai’r enwebiad wedi bod yn bosibl. Mae cyrraedd y rhestr fer yn deyrnged iddyn nhw.”

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ddydd Gwener, 28 Mehefin 2019 yn seremoni fawreddog y Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yng Ngwesty’r Quay, Deganwy. Digwyddiad blynyddol yw hwn sy’n rhoi cyfle i weithwyr ieuenctid a phobl ifanc ddathlu effeithiau a llwyddiannau gwaith ieuenctid. Bydd y seremoni wobrwyo yn ddiweddglo ar wythnos o ddathliadau Gwaith Ieuenctid fel rhan o’r Wythnos Gwaith Ieuenctid yng Nghymru, a fydd yn digwydd rhwng 23 Mehefin a 30 Mehefin 2019.

Ychwanegodd Brittany, “Hoffem ddiolch i bawb sy’n ymwneud â’n gwaith am y cyfleoedd a’r gefnogaeth sy’n cael eu rhoi i bobl ifanc. Hefyd, diolch am y cymorth a’r anogaeth rydym yn eu derbyn er mwyn cyfrannu a chymryd rhan mewn gwaith ieuenctid! Rydym yn croesi bysedd yn barod ar gyfer y seremoni ar ddiwedd mis Mehefin.”