
Cawsom amser anhygoel yn ein Gwersyll Haf Blynyddol! Yn ddiweddar fe wnaethon ni ddod at ein gilydd ar gyfer gwersyll gwych arall, wedi’i drefnu gan bobl ifanc, i bobl ifanc! Diolch i’n Cynllunwyr Gwersylloedd Haf a weithiodd yn galed i greu profiad bythgofiadwy llawn hwyl, dysgu, a chreu atgofion, ac rydym yn credu eu bod wedi taro’r hoelen ar ei phen!
Rydym bob amser yn edrych ymlaen at ein Gwersyll Haf, mae wedi dod yn draddodiad gwych i Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin ddod at ei gilydd, ymlacio, a pharatoi am flwyddyn arall o wneud gwahaniaeth. Y tro hwn, aethon ni i Ganolfan Ddarganfod wych Margam ddiwedd mis Gorffennaf. Roedd yn lle perffaith ar gyfer ein cyfarfod blynyddol.
Roedd y gwersyll hefyd yn amser pwysig iawn i ni drafod busnes. Mae’n gyfle gwych i bob un ohonon ni fel Cyngor Ieuenctid gynllunio ein gwaith ar gyfer y flwyddyn i ddod a gosod ein blaenoriaethau. Fe wnaethon ni rannu syniadau, trafod yr hyn sydd bwysicaf i bobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin, a dod i wybod sut y gallwn gael yr effaith fwyaf. Mae eich llais wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud, ac mae’r gwersyll wir wedi ein helpu i lunio ein gweledigaeth ar gyfer y misoedd nesaf.
Eleni, cawson ni lawer o hwyl gyda’r thema “Traitors”, wedi’i ysbrydoli gan y castell anhygoel ar dir Parc Margam! Fe wnaethon ni gymryd rhan mewn llwyth o gemau a thasgau adeiladu tîm cyffrous gan weithio gyda’n gilydd, meddwl yn strategol, a chael hwyl.

Roedd yn ffordd wych o gryfhau ein cysylltiadau a dod i adnabod ein gilydd hyd yn oed yn well y tu allan i’n cyfarfodydd arferol. Fe wnaeth pawb fwynhau’r thema a chymryd rhan a hynny â llawn brwdfrydedd.
Un o’r uchafbwyntiau oedd y Gweithgaredd Adeiladu Rafft! Fe wnaethon ni rannu’n dimau, paratoi ein syniadau adeiladu (glychu ein dwylo!), ac adeiladu ein rafftiau ein hunain. Roedd yn gymaint o hwyl, a hyd yn oed os nad oedd rhai ohonynt yn addas i fynd i’r dŵr, roedd yn ffordd wych o feithrin perthnasoedd a chreu rhai atgofion doniol gyda’i gilydd. Does dim byd gwell nag ychydig o gystadleuaeth gyfeillgar a chwerthin ar ddiwrnod cynnes yn yr haf.
Dywedodd ein haelod Mimi, yn dilyn y Gwersyll Haf “Fy hoff ran oedd adeiladu’r rafft, gan ei fod yn ein helpu i weithio fel tîm wrth gael llawer o hwyl! Roeddwn i’n teimlo bod y thema Traitors wedi arwain at lawer o sgyrsiau ac wedi helpu i gysylltu pawb a oedd yn bresennol”
Nid yw Parc Margam yn ymwneud â chestyll a llynnoedd yn unig; mae hefyd yn gartref i rai creaduriaid annwyl! Fe wnaethon ni dreulio peth amser ar Lwybr y Fferm, yn cael cwrdd ag anifeiliaid anwes fel geifr a hyd yn oed rhai alpacas hyfryd! Fe wnaethon ni hefyd weld rhai o’r anifeiliaid sydd wedi bod hiraf ym Mharc Margam, yr hwyaid a’r ceirw mawreddog. Roedd yn ffordd wych o ymlacio a chysylltu â natur ar ôl ein holl gynllunio a’n gweithgareddau, a seibiant gwych o dasgau’r “Traitors”.
Cawson ni brofiad haf bythgofiadwy! Roedd ein Gwersyll Haf yn anhygoel! Cawson ni hwyl, gwnaethon ni ffrindiau newydd, cryfhau ein cysylltiadau, a chreu gweledigaeth clir ar gyfer sut rydyn ni’n mynd i barhau i wneud gwahaniaeth i bobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin. Gallwch weld rhai o’r atgofion a wnaethon ni yn yr albwm lluniau isod.
Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein prosiectau nesaf a sut y gallwch gymryd rhan yng Nghyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin!
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi – pa fath o weithgareddau hoffech ein gweld ni’n eu cynnal nesaf? Gadewch eich syniadau yn y sylwadau.
ORIEL EIN GWERSYLL HAF 2025



































