Rydym wedi penderfynu creu 10 o swyddi Swyddog â Thema. Rôl a chyfrifoldeb y swyddogion hynny fydd cydweithio’n agosach â Bwrdd Gweithredol y Cyngor Sir gan gefnogi themâu portffolio priodol. Ein peilot llwyddiannus #Cysgodi yn 2017 a arweiniodd at y syniad i greu’r swyddi hyn.

Yn rhan o’r prosiect bu aelodau o’r Cyngor Ieuenctid yn treulio’r diwrnod yn cysgodi Cynghorwyr Sir Gaerfyrddin er mwyn cael blas ar eu gwaith fel Aelodau o’r Bwrdd Gweithredol. Yn ystod y diwrnodiau #Cysgodi, cafodd y Cynghorwyr Ieuenctid gyfle i gwrdd â chynghorwyr a staff y cyngor ac i ofyn cwestiynau i’r adrannau a’r gwasanaethau amrywiol y buont ymweld â hwy. Roedd cysgodi Cynghorwyr Sir yn brofiad diddorol iawn. Cawsom gipolwg o ddiwrnod ym mywyd aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin.

Gobeithio y bydd Ethol Swyddogion â Thema o gymorth i gryfhau’r cysylltiadau â’r berthynas rhyngom ni a Bwrdd Gweithredol y Cyngor, gan sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu manteisio ar eu hawliau a’u bod yn weladwy yng ngwaith ac ym mhenderfyniadau’r Cyngor Sir.

Cafodd Swyddogion â Thema eu hethol yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, a bydd Tîm Cyfranogiad a Hawliau Plant y Cyngor Sir yn darparu rhaglen o hyfforddiant achrededig drwy Ddyfarniad Cysgodi Cynghorwyr Lleol Cyngor Ieuenctid Prydain i’r ymgeiswyr llwyddiannus. Bydd Swyddogion yn aros yn eu swyddi am 2 flynedd, am ein bod yn awyddus iddynt wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ein cymunedau lleol.

Rwyf o’r farn fod hyn yn gyfle gwych inni rannu ein pryderon a’n dyheadau ag arweinwyr lleol, ac mae’r dyfarniad yn achredu cyflawniad pobl ifanc yn genedlaethol. Gobeithio y bydd Cynghorwyr Cyngor Sir Caerfyrddin, drwy ymgysylltu â phobl ifanc yn y modd hwn, yn gweld bod pobl ifanc yn llawn brwdfrydedd i ddysgu a dod i ddeall democratiaeth leol yn well, a chymryd mwy o ran yn hynny.

Rydym yn gobeithio gweithio gyda’r Bwrdd Gweithredol yn y misoedd nesaf i ddatblygu cynllun dwy flynedd fydd yn nodi’r cyfleoedd fyddai ar gael i’r Swyddogion â Thema, fel bod yn bresennol yng Nghymorthfeydd Cynghorwyr, yng Nghyfarfodydd Llawn y Cyngor, mynd ar ymweliadau a theithiau ac ati.

Gobeithiwn y bydd hyn yn datblygu’n rhywbeth a groesewir gan y Bwrdd Gweithredol, am ein bod yn edrych ymlaen i gydweithio’n agosach â’i aelodau er mwyn gwneud yn siŵr bod gan blant a phobl ifanc ran mewn penderfyniadau lleol sydd yn effeithio ar eu bywydau, a’u bod yn cael cyfle drwy’r Cyngor Ieuenctid i godi llais ar unrhyw fater sydd yn destun pryder iddynt.