Ar ddydd Mercher 18 TACHWEDD 2015 cynhaliwyd ein Cynhadledd Ieuenctid flynyddol. I ddathlu wythnos gwrth-fwlio 2015, aeth ein thema cynhadledd i’r afael â bwlio ac fe’i galwyd yn “Sefyll yn erbyn bwlio! ”
Yn y gynhadledd cawsom areithiau insagiadol, ysgolion yn arddangos arferion da, gweithdai a trafodeathau mewn grwpiau a roddodd gyfle i bobl ifanc ac oedolion rannu eu profiadau, mynegi eu barn a rhoi eu barn ar faterion bwlio gyda penderfynwyr.
Mae’r holl farnau, sylwadau a safbwyntiau a gasglwyd gennym yn ystod y digwyddiad wedi ein helpu i greu 6 adroddiad ar y cyd sydd i’w gweld yn ein hadroddiad.
Fe wnaethom gymryd eich barn a’r argymhellion i gyfarfod penaethiaid uwchradd i rannu ein sylwadau gydag arweinwyr ysgolion yn Sir Gaerfyrddin er mwyn ceisio sicrhau newid. Mae ein gwaith hefyd yn bwydo i mewn i’r rhwydwaith bwlio pobl ifanc Cenedlaethol a redir gan Cymru Ifanc i wneud yn siŵr bod lleisiau pobl ifanc yn dylanwadu ar bolisi cenedlaethol.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r tîm hawliau plant a chyfranogi ar 01267 246690, neu e-bostiwch participation@carmarthenshire.gov.uk