Rydym yn falch iawn o gael ein gwahodd i ddathlu 30 mlynedd o CCUHP ar 20 Tachwedd yng Nghaerdydd. Bydd hwn yn gyfle i ni ddysgu am waith Hawliau Plant yng Nghymru. Rydym hefyd wedi bod yn paratoi ein stondin, ac rydym yn barod i rannu ag eraill y gwaith y mae Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin wedi bod ynghlwm ag ef dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn dangos sut rydym yn hyrwyddo’r hawl i leisio barn ac i sicrhau bod ein barn yn cael ei chydnabod yn Sir Gaerfyrddin.
Cynhelir trafodaethau o amgylch y bwrdd a byddwn yn cael cyfle i gwrdd a siarad ag ymarferwyr a llunwyr polisi gan gynnwys Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru; Julie Morgan AC, Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru.
Byddwn hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai rhyngweithiol i ddysgu mwy am waith y fenter Ysgolion sy’n Parchu Hawliau UNICEF. Yn ogystal, byddwn yn dysgu mwy am y Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol ac yn cyfarfod â Thîm Cenedlaethol yr Arolygwyr Nod Barcud a recriwtiwyd yn ddiweddar.
Byddwn yn lleisio’n barn ynghylch y materion a’r problemau sy’n bwysig i ni yn fyd-eang ac yn bersonol gan fod gan bob plentyn a pherson ifanc hawl i gael ei glywed – sef un o’r erthyglau pwysicaf rydym yn glynu wrtho.
We’ll have a say on the issues and problems that matter to us globally and personally as every child and young person has a right to be heard – which is one of the most important articles which we stand by.