
Rydym yn gyffrous i gynnal ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar Ddydd Iau, 10 Ebrill 2025 yn y Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 5.00 yp.
Rydym wedi cael ychydig fisoedd prysur ac rydym yn edrych ymlaen at ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Bydd y Cyfarfod yn rhoi cyfle i ni edrych yn ôl ar y gwaith rydym wedi bod ynghlwm wrtho a’r cyflawniadau cadarnhaol rydym wedi’u gwneud dros y 12 mis diwethaf. Unwaith eto eleni, rydym yn ffodus i gael cefnogaeth y rhai sy’n gwneud penderfyniadau, rheolwyr ac aelodau etholedig o Gyngor Sir Caerfyrddin yn bresennol yn ein cyfarfod.
Ymhlith y materion y mae’r Cyngor Ieuenctid wedi gweithio arnyn a’r prosiectau maen nhw’n falch ohonynt yw creu a lansiad swyddogol y ddogfen Codi llais yn erbyn trais; tynnu sylw at yr angen am wersi bywyd go iawn yn ein hysgolion fel rhan o’u prosiect ‘Ein Llais, Ein Pleidlais, Ein Dyfodol’ a chymryd rhan yn y broses o recriwtio a dewis staff. Hefyd, newydd ar gyfer eleni, maent wedi cofrestru ar Volunteens, prosiect a ddarperir gan Foothold Cymru sydd yn cydnabod eu hymrwymiad a’u hamser gwirfoddoli fel Cynghorwyr Ieuenctid.
Mae’n bleser gennym groesawu Owain Lloyd, Cyfarwyddwr Dros Dro Addysg a Gwasanaethau Plant i agor cyfarfod 2025 yn swyddogol ynghyd â chefnogaeth gan y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod y Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant a fydd yn rhoi’r araith gloi swyddogol.
Dywedodd ein Cadeirydd, Magda Smith, 18 oed o’r Pentregwenlais “mae bod yn rhan o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin wedi bod yn brofiad anhygoel, ac mae’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol hwn yn gyfle i gydnabod ymroddiad ein haelodau. Mae gweld pobl ifanc yn siapio newid yn ysbrydoledig, ac rwy’n ddiolchgar am gyfraniadau pawb dros y 12 mis diwethaf. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae’r Cyngor Ieuenctid yn adeiladu ar ein llwyddiannau yn y flwyddyn i ddod.”
Am fwy o wybodaeth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â ni YMA