Mae Tom a Patrycja ar fin dod yn Arolygwyr Ifanc Cenedlaethol. Mae Cymru Ifanc wedi recriwtio a byddant yn hyfforddi Tîm Cenedlaethol o Arolygwyr Nod Barcud. Mae’r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol dros Blant a Phobl Ifanc yn nodi Saith o Safonau y dylai pob oedolyn fod yn ymwybodol ohonynt wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru ac ymwneud â nhw;
1. GWYBODAETH
2. CHI BIAU’R DEWIS
3. DIM GWAHANIAETHU
4. PARCH
5. BOD AR EICH ENNILL
6. ADBORTH
7. GWEITHIO’N WELL DROSOCH CHI
Mae’r Safonau hyn yn helpu i fesur a hyrwyddo cyfranogiad plant a phobl ifanc o ran gwneud penderfyniadau, cynllunio ac adolygu unrhyw weithred a fydd yn cael effaith arnynt.
Ymunodd Tom a Patrycja â phobl ifanc ar draws Cymru yn Wrecsam ym mis Hydref a byddant yn mynychu sesiynau hyfforddi drwy gydol y flwyddyn i fod yn Arolygwyr Ifanc Cenedlaethol a byddant yn cael cyfle i arolygu sefydliadau a gwasanaethau yn unol â’r Safonau. Mae’r Safonau’n helpu sefydliadau i fesur a gwella ansawdd y broses o ran cyfranogiad plant a phobl ifanc.
Nododd Tom fod “bod yn Arolygydd Nod Barcud Ifanc Cenedlaethol yn fraint fawr. Rwyf yn un o’r 20 o Arolygwyr cyntaf yng Nghymru ac rwyf yn gobeithio gwella sefydliadau o ran cyfranogiad plant a phobl ifanc. Alla i ddim aros nes dechrau.”