Ar ôl blwyddyn o ymgyrchu gan Gwen a’i thîm, ac yn dilyn dadl a phleidlais mewn cyfarfod gan y cyngor llawn, rydym yn falch o gyhoeddi bod Cyngor Sir Caerfyrddin Votes@16 yn cefnogi ymgyrch #votesat16 sy’n ceisio rhoi hawl i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio.

Votes for 16 Gwen and Glynog

Gwen Griffiths yw ein haelod Senedd Ieuenctid y DU (UKYP) a hi oedd y person a aeth at y Cynghorydd Glynog Davies gyda’r syniad o gynnal ymgyrch ‘Pleidleisio@16’ a fyddai’n caniatáu i bobl ifanc bleidleisio ar faterion sy’n effeithio arnynt ar lefel gymdeithasol a gwleidyddol a sut y byddai’n newid eu bywydau.

Fel Cynrychiolydd Senedd Ieuenctid y DU yn Sir Gaerfyrddin, roedd rhaid i Gwen godi ymwybyddiaeth o’r ymgyrch dros gyfnod o flwyddyn, gan gynnwys annog pobl ifanc i gefnogi’r ymgyrch a dweud eu dweud.

Ar ran Gwen a’i chydweithwyr yng Nghyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, cyflwynodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant, Rybudd o Gynnig i’r Cyngor Llawn yn gofyn i’r aelodau ystyried cefnogi Ymgyrch Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin fel y byddai’r oedran pleidleisio yn gostwng i 16 o’r oedran presennol, sef 18, ar gyfer pob etholiad cyhoeddus.

Yr ymgyrch Pleidlais yn 16 Oed oedd y Rhybudd o Gynnig cyntaf i cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn yn Sir Gaerfyrddin a gafodd ei ddechrau gan berson ifanc, ac felly mae’n gyflawniad mawr i’r rheiny a gymerodd ran. Dywedodd Gwen: “Rwyf yn hapus iawn o weld bod gwaith caled ac ymroddedig Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin wedi dwyn ffrwyth a bod y cynnig wedi’i gymeradwyo gyda chefnogaeth Cyngor Sir Caerfyrddin… Roedd yn brofiad da dros ben i gael cwrdd â’r bobl sy’n gwneud y penderfyniadau’n lleol er mwyn codi ymwybyddiaeth o fater mor bwysig a gweld cymaint o gefnogaeth y mae’r ymgyrch yn ei hennill.”

Mae Pleidleisio yn 16 Oed wedi bod yn fater pwysig ers cryn dipyn o amser, a bydd hyn yn parhau yn 2018/19 oherwydd ei fod wedi’i bleidleisio’n flaenoriaeth gan Senedd Ieuenctid y DU ac mae’n ymgyrch genedlaethol iddynt eleni.

Gallwch weld y gwaith y mae Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn ei wneud ar gyfer ymgyrch Senedd Ieuenctid y DU o ran Pleidlais yn 16 Oed drwy ddilyn @Youth_Sirgar ar Twitter a/neu Youthsirgar ar Facebook. Gallwch hefyd ddilyn Senedd Ieuenctid y DU ar Twitter @UKYP neu gymryd rhan yn y sgwrs ar-lein drwy ddefnyddio #votesat16